Afancod yng Nghymru
Mae Prosiect Afancod Cymru wedi bod yn ymchwilio i ymarferoldeb dod ag afancod gwyllt yn ôl i Gymru ers 2005. Mae'r gwaith hwn yn cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar ran pob un o'r pum Ymddiriedolaeth Natur yng Nghymru.
Mae'r afanc Ewrasiaidd (Castor fiber) yn gnofil mawr, lled-ddyfrol gyda ffwr brown tywyll neu ddu, cynffon siâp rhwyf a dannedd blaen oren nodweddiadol. Mae’n byw mewn cynefinoedd dŵr croyw fel afonydd, llynnoedd neu byllau ac yn bwydo ar amrywiaeth eang o lystyfiant, gan gynnwys rhisgl coed helyg a bedw. Ar un adeg roedd afancod yn gyffredin ledled Cymru, ond oherwydd gor-hela gan bobl am eu ffwr, eu cig a’u chwarennau arogl, wynebu difodiant oedd eu hanes ar ôl yr Oesoedd Canol yng Nghymru ac erbyn diwedd yr 16eg ganrif roeddent wedi diflannu o weddill Prydain.
Sut bydd afancod yn helpu adferiad byd natur yng Nghymru
Mae afancod yn anifeiliaid arbennig iawn oherwydd eu bod yn chwarae rhan hanfodol wrth adfer a rheoli ecosystemau afonydd a gwlybdiroedd. Mae hyn yn creu cynefinoedd amrywiol i rywogaethau eraill ffynnu, gan fod o fudd i amrywiaeth eang o anifeiliaid a phlanhigion eraill. Cyfeirir yn aml at afancod fel 'rhywogaeth allweddol' neu 'beirianwyr byd natur' oherwydd yr effaith gadarnhaol y gallant ei chael ar yr amgylchedd.
Sut rydyn ni'n mynd i wneud i hyn ddigwydd
Mae Prosiect Afancod Cymru yn gweithio i ailsefydlu afancod gwyllt yng Nghymru.
Mae astudiaethau ymarferoldeb wedi cael eu cynnal ac mae cynigion yn cael eu datblygu. Mae afancod yn dechrau dychwelyd i Gymru bellach gyda nifer fach o afancod yn byw yn nalgylch afon Dyfi. Rydym wedi cyflwyno cais am drwydded i sefydliad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gyfer rhyddhau afancod i ddalgylch afon Dyfi i atgyfnerthu’r boblogaeth i wella iechyd genetig y boblogaeth fechan. Rydym hefyd wedi sefydlu Rhwydwaith Rheoli Afancod fel rhan o'n cynigion; mae hyn yn cynnwys sefydlu rhwydwaith o wirfoddolwyr afancod a fydd wrth law i ddelio ag unrhyw broblemau a achosir gan afancod fel ein bod ni i gyd yn gallu mwynhau'r manteision mae afancod yn eu cyfrannu. Mewn rhai achosion, gall gweithgarwch afancod wrthdaro â gweithgareddau dynol neu seilwaith, ond mae llawer o atebion wedi’u sefydlu i liniaru llawer o'r problemau.
Maes o law, mae'n debygol y bydd ymgynghoriad cyhoeddus dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru i bobl gael lleisio eu barn a gobeithio y bydd croeso i afancod yng Nghymru unwaith eto. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi!
Eisiau gwybod mwy?
Adroddiad Ymarferoldeb
Ymchwilio i ymarferoldeb ailgyflwyno afancod i Gymru – edrych ar effeithiau tebygol ailsefydlu afancod yng Nghymru dan reolaeth, ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol, ac asesu a dewis ardaloedd cychwynnol posibl.
Darllen y crynodeb Darllen yr adroddiad llawn (Saesneg yn unig)
Effeithiau economaidd yr afanc
Astudiaeth, a gomisiynwyd gan Wild Britain ac a gynhaliwyd gan dîm WildCRU Prifysgol Rhydychen, o effeithiau economaidd afancod yn y gwyllt (Saesneg yn unig).
Darllen yr astudiaeth
Gweledigaeth yr Ymddiriedolaethau Natur ar gyfer dychweliad afancod i Gymru a Lloegr
Cais yr Ymddiriedolaethau Natur i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i weld afancod yn cael eu dychwelyd i'r gwyllt yn hytrach nag i safleoedd caeëdig.
Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru: Ymgysylltu â Rhanddeiliaid Prosiect yr Afanc
Adroddiadau ymgynghori yn dilyn ymgynghoriadau lleol yn nalgylch Dyfi yn 2022 (Saesneg yn unig).
Am ragor o wybodaeth neu i roi gwybod am weld afanc neu arwyddion yn y maes:
Cysylltwch â beaver.afanc@northwaleswildlifetrust.org.uk neu ffoniwch 01248 351541.
Cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr Prosiect Afancod Cymru yma.
Gwybodaeth i reolwyr tir: ewch i beavermanagement.org
Afancod yn gydnabod swyddogol fel rhywogaeth frodorol a rhoi gwarchodaeth gyfreithiol lawn iddo yng Nghymru.
Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn frwd eu canmoliaeth i benderfyniad Llywodraeth Cymru i gydnabod yr afanc Ewropeaidd (Castor fiber)…
Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo dychwelyd afancod i Gymru
Llywodraeth Cymru yn cefnogi ailgyflwyno afancod Ewropeaidd yng Nghymru dan reolaeth.
Rhyddhewch yr Afanc! Gweledigaeth newydd ar gyfer afancod yng Nghymru a Lloegr
Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn galw ar i gael gwared ar safleoedd caeedig a gweithredu er mwyn i afancod gael byw’n wyllt

Mae’r Gronfa Rhwydweithiau Natur (rownd dau) yn cael ei chyflwyno gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â sefydliad Cyfoeth Naturiol Cymru.