Afancod yn gydnabod swyddogol fel rhywogaeth frodorol a rhoi gwarchodaeth gyfreithiol lawn iddo yng Nghymru.

Afancod yn gydnabod swyddogol fel rhywogaeth frodorol a rhoi gwarchodaeth gyfreithiol lawn iddo yng Nghymru.

Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn frwd eu canmoliaeth i benderfyniad Llywodraeth Cymru i gydnabod yr afanc Ewropeaidd (Castor fiber) yn swyddogol fel rhywogaeth frodorol a rhoi gwarchodaeth gyfreithiol lawn iddo.

Moment hanesyddol i afancod yng Nghymru

Mae'r cyhoeddiad gan y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies, y bydd Llywodraeth Cymru yn ymestyn statws Rhywogaeth Warchodedig Ewropeaidd i afancod yn newyddion gwych i'r mamal rhyfeddol hwn, y gall ei ymddygiad naturiol helpu i adfer a rheoli afonydd a chynefinoedd dŵr croyw er budd bywyd gwyllt a phobl. Bydd ei warchod yn ei gwneud yn anghyfreithlon i unrhyw un niweidio afancod yn fwriadol neu ddifrodi eu cynefinoedd.

Canfu arolwg gan Brifysgol Caerwysg yn 2023 fod 88.70% o'r ymatebwyr yng Nghymru yn cefnogi afancod yn dychwelyd i'r gwyllt ac roedd 83.72% eisiau iddynt gael 'gwarchodaeth gyfreithiol gref' felly bydd y cam hwn yn cael ei gefnogi gan y mwyafrif helaeth o bobl yng Nghymru.

Drwy Brosiect Afancod Cymru, mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru wedi bod yn gweithio ers 20 mlynedd i adfer afancod gwyllt yn llwyddiannus i dirwedd Cymru ac mae'r penderfyniad hwn yn nodi'r cam mwyaf arwyddocaol hyd yma wrth gyflawni'r weledigaeth honno. Mae'r Ymddiriedolaethau Natur wedi arloesi gydag ailgyflwyno afancod ac fe wnaethant sicrhau statws gwarchodedig yn yr Alban yn 2019 ac yn Lloegr yn 2022, felly mae'r cam hwn sydd i’w groesawu’n sicrhau bod y ddeddfwriaeth yng Nghymru’n cyd-fynd â gweddill Prydain.

Er mwyn gwireddu manteision llawn afancod, a chefnogi rheolwyr tir hefyd drwy fynd i’r afael ag unrhyw heriau lleol, mae’n hanfodol cael gwarchodaeth gyfreithiol yn ei lle ochr yn ochr â fframwaith rheoli effeithiol. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi carreg filltir enfawr wrth ailsefydlu afancod gwyllt yng Nghymru
Alicia Leow-Dyke
Swyddog Prosiect, Prosiect Afancod Cymru

Hefyd mae'r Ymddiriedolaethau Natur yng Nghymru yn edrych ymlaen at ymuno â fforwm arfaethedig, Fforwm Afancod Cymru: rydym yn awyddus i helpu i sicrhau bod digon o gefnogaeth yn ei lle i ddeiliaid tir a rheolwyr afancod i warantu bod rheolaeth amserol yn gallu digwydd fel ein bod yn gallu mwynhau'r holl fuddion mae afancod yn eu cynnig, fel gwella ansawdd dŵr afonydd, sefydlogi llif dŵr, storio carbon a helpu bywyd gwyllt arall, gan osgoi unrhyw effeithiau niweidiol mawr ar ddefnydd tir neu seilwaith.

Drwy’r Prosiect Byw Gyda Afancod yn Nalgylch Dyfi, mae Prosiect Afancod Cymru wrthi'n datblygu Rhwydwaith Rheoli Afancod gwirfoddol. Mae hyn yn cael ei gyllido gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur (rownd dau), sy’n cael ei chyflwyno gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.

Mae afancod wedi diflannu o Gymru ers cyfnod y Tuduriaid, ond eto mae ymgynghoriadau’n dangos cefnogaeth gyhoeddus aruthrol i’w hailgyflwyno – mae Cymru’n frwd dros afancod!
Joyce Watson AS
Hyrwyddwr Rhywogaeth yn y Senedd dros Afancod

Read the full press release here