Teyrnged i Roger Riley

Teyrnged i Roger Riley

Roedd staff a gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Natur yn drist iawn o glywed am farwolaeth ddiweddar Roger Riley, gwirfoddolwr ysbrydoledig a deinamig a helpodd mewn cyfnod byr iawn i drawsnewid Gwarchodfa Natur Big Pool Wood.

Roger Riley oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r grŵp a welodd Warchodfa Natur Big Pool Wood yn datblygu mewn cyfnod o ychydig flynyddoedd o fod yn wely cyrs tywyll, wedi gordyfu, nad oedd unrhyw un prin yn gwybod amdano, i fod yn un o’n gwlybdiroedd mwyaf hygyrch ni, gyda gweision y neidr a glöynnod byw yn hedfan ac yn dawnsio drwy ei lennyrch a’i rodfeydd heulog, llecyn y mae llawer o bobl yn ymweld ag ef ac yn hoff iawn ohono. Gall ymwelwyr eistedd a mwynhau’r amrywiaeth o adar o unrhyw un o’r tair cuddfan a chael cipolwg ar flodau gwyllt nodedig fel y clychlys mawr.

Pan aeth Roger a Gill ar ymweliad â Big Pool Wood am y tro cyntaf, fe wnaethon nhw benderfynu dod yn aelodau o'r Ymddiriedolaeth Natur a gwirfoddoli gyda’r  gweithgorau. Ers hynny, roedd Roger yn bresenoldeb cyson yn y warchodfa, bob amser yn croesawu ymwelwyr hen a newydd fel ei gilydd ac yn eu hannog i ymuno â'r ymddiriedolaeth neu eu cael i ddod i'r gweithgorau. Ond roedd gan Roger weledigaeth hefyd, a’r egni, yr ymroddiad a’r gallu i helpu i godi Big Pool Wood o wely cyrs wedi gordyfu i fod yn un o warchodfeydd natur mwyaf hygyrch Gogledd Ddwyrain Cymru ac yn hafan i wylwyr adar a phobl sy’n hoff o fyd natur. Roedd yn rhan o bopeth, o osod llwybrau pren a chuddfannau adar yn eu lle i'r gofynion dyddiol o gadw'r teclynnau bwydo adar yn llawn a'r llwybrau ar agor.

Roger Riley

Roger Riley fills the bird feeders at Big Pool Wood Nature Reserves, one of the many jobs he undertook / Roger Riley yn llenwi’r teclynnau bwydo adar yng Ngwarchodfa Natur Big Pool Wood, un o’r tasgau niferus yr oedd yn eu cyflawni

Yn 2019, penderfynodd Roger a Gill yr hoffent gyfrannu ail guddfan i’r warchodfa natur. Yn drasig, cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau, bu farw Gill yn sydyn iawn. Roedd byd Roger wedi'i chwalu. Daeth y guddfan newydd yn deyrnged i Gill; rhoddodd Roger bopeth i'r prosiect. Gyda help teulu a ffrindiau, cwblhawyd “Cuddfan Gill Riley” ym mis Awst 2019. Cyfrannwyd cuddfan arall, ac fe’i hadeiladwyd yn bennaf gan Roger yn 2020 wrth i’r cyfyngiadau symud lacio. Wedyn daeth Roger yn aelod hollbwysig o’r tîm gwirfoddol a osododd lwybr pren a llwybrau arwyneb caled newydd gan alluogi mynediad i bobl anabl o amgylch y warchodfa gyfan. O ganlyniad, mae'r llecyn yn fwrlwm o ymwelwyr yn aml iawn. Yn fwy diweddar cwblhawyd llwyfan trochi wrth y pwll, gan ddilyn gwaith dylunio Roger. Yn rhyfeddol, fe wnaeth hyn i gyd tra oedd yn brwydro yn erbyn canser. Roedd y canser yn gwneud iddo deimlo'n sâl iawn yn aml ond byddai'n codi cywilydd ar aelodau iau y gweithgorau gyda'i egni.

Roedd Roger hefyd yn awyddus i ddweud wrth y byd am Big Pool Wood a sefydlodd grŵp Facebook llwyddiannus, gan roi ffotograffau hardd ynddo bob dydd, i helpu i recriwtio aelodau newydd a rhoi lle amlwg i’r warchodfa ‘ar y map’.

Roedd Roger ar ei hapusaf pan oedd yn tywys pobl o bob oedran o gwmpas y warchodfa, gan rannu ei wybodaeth a sgwrsio.

Fe wnaeth ei angerdd dros fywyd gwyllt a Big Pool Wood gyffwrdd llawer o bobl a bydd pawb yn gweld ei eisiau yn fawr.

Big Pool Wood

© Mark Roberts NWWT