Mursennod yn mwynhau ar Draeth Glaslyn!

Mursennod yn mwynhau ar Draeth Glaslyn!

Teneral female Ischnura pumilio (c) Andrew Graham

Gwnaed cofnod newydd o’r fursen gynffonlas fechan (neu’r gynffonlas brin), Ischnura pumilio, yng Ngwarchodfa Natur Traeth Glaslyn, ger Porthmadog yn ddiweddar.

Cofnododd un o gefnogwyr ffyddlon YNGC, Andrew Graham, y rhywogaeth hon am y tro cyntaf ar y safle a thynnu’r llun yma (o fenyw newydd fwrw ei chroen) ganol mis Mai – dyma hefyd y cofnod cyntaf ar gyfer yr ardal ehangach ers 1976. Credid fod y rhywogaeth hon, sy’n cael ei chamgymryd yn aml am y fursen gynffonlas (Ischnura elegans) fwy cyffredin, wedi diflannu ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae’n dal i gael ei dosbarthu fel rhywogaeth genedlaethol brin. Mae’n ffafrio tir wedi’i figno neu dir y mae tarfu arno, felly mae angen pori, torri a /neu darfu mecanyddol er mwyn cynnal amodau agored addas. Rydyn ni’n ddiolchgar i’n porwr lleol, Peter Jones, am ddal ati i bori’r safle’n ysgafn ac yn sensitif gyda gwartheg duon Cymreig – ac i’n holl aelodau am ein helpu ni i gynnal Traeth Glaslyn drwy gyfrwng eu cefnogaeth ariannol.

Beth am ymweld ag un o’n gwarchodfeydd natur a chwilio am fursennod yr haf yma? Fel mae’n digwydd, cofnodwyd y fursen gynffonlas fechan yn ein gwarchodfa natur mwyaf newydd hefyd, Chwarel Minera, am y tro cyntaf yn ôl yn 2016 – does dim rhaid i chi deithio’n bell bob amser i ddod o hyd i rywogaeth brin! I gyfrannu ymhellach at ein gwaith cadwraeth, gallech hefyd ystyried cyflwyno eich cofnodion i’n Canolfan Cofnodion Lleol, Cofnod (www.cofnod.org.uk).

I gael y newyddion diweddaraf am weision y neidr yn lleol a rhannu’r hyn rydych chi’n ei ddarganfod, digwyddiadau, ffotograffau, cerddi, cartŵnau neu ddolenni at fideos, tanysgrifiwch i Gylchlythyr Gweision y Neidr Gogledd Cymru, ‘Y Fursen’, drwy anfon eich cyfeiriad e-bost at y cofnodwr yng Ngogledd Cymru, Allan Brandon, ar allanrowenconwy@sky.com.