Gwarchodfa Natur Traeth Glaslyn

Traeth Glaslyn Nature Reserve

Traeth Glaslyn Nature Reserve_Lin Cummins

Redshank

Redshank © Tom Marshall

Ragged robin

Ragged robin © Lee Schofield

Polecat

Polecat © Elliot Smith

Skylark

Skylark © Amy Lewis

Gwarchodfa Natur Traeth Glaslyn

Llecyn trawiadol i stopio am seibiant a gwylio llanw a thrai’r môr a’r amrywiaeth o fywyd gwyllt sydd yma.

Location

Porthmadog
Gwynedd
LL48 6HT

OS Map Reference

SH 584379
OS Explorer Map OL18
A static map of Gwarchodfa Natur Traeth Glaslyn

Know before you go

Maint
36 hectares
z

Pris mynediad

Na
P

Manylion parcio

Maes parcio fechan wrth ymyl y guddfan adar

Anifeiliaid pori

Gwartheg, drwy gydol y flwyddyn

Llwybrau cerdded

Gwlyb yn aml, ac mae yna perygl o lifogydd ar lanw uchel. Cymerwch ofal.

Mynediad

Mae’r safle’n llanwol iawn a gall fod o dan ddŵr yn llwyr – edrychwch ar amseroedd y llanw cyn ymweld. Mae’r llwybrau’n fwdlyd ac ni ddylid mynd oddi arnynt, yn enwedig ym mhen gogleddol y warchodfa.

Dogs

Ni chaniateir cŵn

When to visit

Amseroedd agor

Ar agor bob amser

Amser gorau i ymweld

Trwy gydol y flwyddyn

Am dan y warchodfa

Newid o hyd  

Mae’r warchodfa yma gyda’i chors halen a’r aber yn newid drwy’r amser ac mae’n llecyn delfrydol i wylio grymoedd byd natur ar waith: mae pŵer y llanw, y tymhorau a’r tywydd i’w weld yn glir yma. Wedi’i chreu o glytwaith o laswelltir gwlyb, cors halen a choetir helyg gwlyb sy’n gallu bod o dan ddŵr yn llwyr weithiau, mae’r ddôl hon sy’n orlifdir yn hafan i adar. Mae adar rhydio i’w gweld yma drwy gydol y flwyddyn yn pigo’r mwd, a’r rhywogaethau’n newid gyda’r tymhorau – mae’n werth dod yma fwy nag unwaith. Hefyd mae’r cyfuniad unigryw o lifogydd a dŵr hallt yn creu amodau perffaith ar gyfer rhai o’n planhigion prinnaf. Mae golygfeydd trawiadol ac adar prysur yn creu llecyn gwych i fwynhau'r natur cymru ar ei orau. 

Pori er budd glaswelltir

Nod yr Ymddiriedolaeth Natur yw cynnal y clytwaith o ardaloedd agored a choediog ledled y warchodfa. Mae gwartheg yn pori’r safle yn y gwanwyn a’r gaeaf i atal ymlediad pellach y prysgwydd. Hebddynt, byddai’r glaswelltir yn debygol o gael ei lenwi gan blanhigion fel mieri ac eithin ac yn troi’n goetir yn y diwedd. Mae cynnal yr amrywiaeth cynefin yma’n galluogi i gymaint â phosib o wahanol rywogaethau ddefnyddio’r safle

Cyfarwyddiadau

Mae Traeth Glaslyn i’r de ddwyrain o Borthmadog, ar ddiwedd y Cob – parciwch yn y gilfan ar yr A497 (SH 585 378). Gellir cyrraedd y guddfan adar drwy giât fechan ger bwthyn y tollborth. Mae posib cyrraedd pen gogleddol y warchodfa drwy gerdded tua’r gogledd ar hyd y ffordd ac wedyn defnyddio camfa fechan ar y chwith gyferbyn â wal uchel, neu droi i’r chwith yn y groesffordd nes cyrraedd y warchodfa (SH 592 389).

Contact us

Luke Jones
Cyswllt ffôn: 01248 351541

Dynodiad amgylcheddol

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)