Mae'r frwydr yn parhau i achub un o raeadrau mwyaf eiconig Eryri

Mae'r frwydr yn parhau i achub un o raeadrau mwyaf eiconig Eryri

Rydyn ni’n cefnogi cais gan Gymdeithas Eryri am Adolygiad Barnwrol mewn ymateb i ddyfarnu caniatâd cynllunio ar gyfer cynllun trydan dŵr ar Afon Cynfal, ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Rydyn ni wedi bod yn gweithio, gyda chlymblaid o grwpiau amgylcheddol, i atal adeiladu argae trydan dŵr ar Afon Cynfal ym Mharc Cenedlaethol Eryri, yn bennaf oherwydd y bygythiad rydyn ni’n ei deimlo mae’n ei greu i fywyd gwyllt.

Roedd y glymblaid yn siomedig bod Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ar 15 Gorffennaf 2026, wedi cyhoeddi hysbysiad i ddyfarnu caniatâd cynllunio ar gyfer y cynllun.

Mewn ymateb, rydyn ni’n cefnogi cais gan Gymdeithas Eryri am Adolygiad Barnwrol a fyddai'n ystyried a yw'r gyfraith wedi cael ei dilyn yn gywir mewn perthynas â’r penderfyniad cynllunio hwn. Rydyn ni hefyd yn cefnogi apêl i godi arian i dalu'r costau cyfreithiol cysylltiedig, sy’n cael eu hamcangyfrif fel mwy na £60,000.

Byddai'r cynllun hwn, ar adegau, yn dargyfeirio hyd at 70% o'r dŵr o’r rhaeadr eiconig ar yr afon, Rhaeadr y Cwm, sydd wedi'i leoli yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Cwm Cynfal, sy'n rhan o Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) ac Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ehangach Migneint–Arenig–Dduallt: ardal o bwys rhyngwladol am ei gorgors a’i rhos ucheldirol. Gallai'r newid mewn hydroleg a fyddai'n deillio o'r cynllun greu bygythiad difrifol i’r mwsoglau a'r llysiau'r afu prin sy'n nodwedd werthfawr o'r safle. Arweiniodd cynllun tebyg ar Afon Cwm Llechen, 21 milltir yn unig o’r safle yma, at bedair o bum rhywogaeth yn profi dirywiad o hyd at 43% dros gyfnod o ddeng mlynedd.

Dywedodd Graeme Cotterill, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri:
“Mae cymryd y cam yma’n ddigynsail i Gymdeithas Eryri. Yn ein hanes ni ers 60 o flynyddoedd, rydyn ni wedi ymgysylltu â phenderfyniadau cynllunio dirifedi gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri – ond dyma’r tro cyntaf i ni herio un yn gyfreithiol. Er bod ein perthynas waith agos ni â’r Awdurdod yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod o fudd i bawb ac rydyn ni’n bwriadu gweld hynny’n parhau, mae’n bwysig ein bod ni’n herio penderfyniadau nad ydyn ni na’n cefnogwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwneud er budd gorau’r Parc.”

Er ein bod ni’n cefnogi ynni adnewyddadwy, rydyn ni’n credu bod rhaid iddo fod y cynllun priodol yn y lle priodol bob amser. Mae’r risgiau y mae’r cynllun yma’n eu creu i fywyd gwyllt yn anghymesur o ran y swm bach o drydan fyddai’n ei gynhyrchu – dim ond 600kW, digon ar gyfer dim ond 60 o gawodydd pŵer trydan. Rydyn ni wir yn annog ein haelodau i gefnogi Cymdeithas Eryri gyda’i chais am Adolygiad Barnwrol.
Adrian Lloyd Jones, Rheolwr Tirwedd Byw
Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

Cefnogwch yr ymgyrch hon drwy gyfrannu
www.justgiving.com/campaign/cwm-cynfal