DIWEDDARWYD: Mae’r frwydr ymlaen i achub un o raeadrau mwyaf eiconig Eryri

DIWEDDARWYD: Mae’r frwydr ymlaen i achub un o raeadrau mwyaf eiconig Eryri

Afon Cynfal, Eryri © Rory Francis

Rydyn ni wedi bod yn gweithio, ers Hydref 2024, gyda chynghrair o grwpiau amgylcheddol i wrthwynebu cynllun i adeiladu argae ar Afon Cynfal ger Llan Ffestiniog, fel rhan o gynllun trydan dŵr.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar fin cymeradwyo’r cynllun ddydd Mercher nesaf er bod ymgyrchwyr yn dadlau ei fod yn groes i Bolisi Cynllunio Cymru i amddiffyn safleoedd bywyd gwyllt allweddol

Diweddariad: 22 Ionawr 2026
Mae'r penderfyniad ynghylch a ddylid cymeradwyo cynllun trydan dŵr Afon Cynfal ym Mharc Cenedlaethol Eryri wedi cael ei ohirio ar ôl i Lywodraeth Cymru ymyrryd.

Roedd pwyllgor cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i fod i wneud ei benderfyniad ar 21 Ionawr, ond mae'r penderfyniad wedi cael ei ohirio. I ddechrau, roedd hyn er mwyn rhoi amser i'r cynllunwyr ystyried mwy na 900 o gyflwyniadau hwyr gan y cyhoedd, ond mae bellach wedi'i gyhoeddi na fydd unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud nes bod y cynllunwyr wedi derbyn 'cyfarwyddyd pellach' gan Lywodraeth Cymru.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran yr awdurdod bod Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi derbyn Cyfarwyddyd Dal gan Gyfarwyddiaeth Gynllunio Llywodraeth Cymru: “Er mwyn galluogi ystyriaeth bellach ynghylch a ddylid cyfeirio'r cais at Weinidogion Llywodraeth Cymru ai peidio ar gyfer penderfyniad (...). Mae hyn yn golygu bod yr Awdurdod wedi'i atal rhag dyfarnu caniatâd cynllunio nes ei fod wedi derbyn cyfarwyddyd pellach gan Lywodraeth Cymru.”
_____

19 Ionawr 2026
Gyda’i gilydd gyda ein partneriau Save our Rivers, Cymdeithas Eryri, Buglife, Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru, Plantlife a Chyngor Mynydda Prydain, rydym yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, yn galw am i’r cynllun gael ei ‘alw i mewn’, fel y gall Gweinidogion Cymru ei benderfynu yn unol â pholisi.

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol yn Eryri yn rhybuddio bod un o raeadrau mwyaf eiconig y Parc Cenedlaethol, Rhaeadr y Cwm uwchben Llan Ffestiniog, dan fygythiad oherwydd cynllun trydan dŵr a fyddai, ar adegau, yn gweld bron i 70% o’r dŵr yn cael ei ddargyfeirio allan o’r rhaeadr i mewn i bibell blastig. Y pryder yw y bydd hyn yn effeithio’n sylweddol ar ymddangosiad a sain daranllyd y rhaeadr, yn ogystal â newid yr amodau amgylcheddol yn sylfaenol. Mae’r ceunant yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), a ddynodwyd oherwydd y rhywogaethau bregus y gellir eu gweld yno, gan gynnwys planhigion prin sy’n hoff o leithder. Gellir ei gyrraedd ar droed ar hyd lwybr hynafol, fel rhan o Lwybr Llechi Eryri ac nid yw’r argraffiadau cyntaf yn siomi.

Ar ôl i Senedd Cymru ddatgan Argyfwng Natur yn 2021, cryfhaodd Llywodraeth Cymru Bolisi Cynllunio yng Nghymru2 i egluro na ddylid cymeradwyo unrhyw ddatblygiad mewn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac eithrio mewn ‘amgylchiadau cwbl eithriadol’. Nododd hefyd na fyddai hyn yn dderbyniol ond lle mae safbwynt cytunedig yn y cynllun datblygu yn nodi hyn. Fodd bynnag, mae’r Parc Cenedlaethol wedi dehongli hyn i olygu, os yw’r datblygiad ar gyfer ynni adnewyddadwy, yna mae hynny’n ei wneud o’n ‘hollol eithriadol’ ac felly y gall fynd yn ei flaen. Gallai hyn osod cynsail niweidiol i SoDdGA ledled Cymru.

Mae yna wrthwynebiad enfawr wedi bod i’r cynllun yn lleol ac yn ehangach ledled y wlad. Mae o leiaf 1,136 o bobl wedi gwrthwynebu’r cynllun yn ffurfiol. Mae hynny’n nifer enfawr o bobl i wrthwynebu un cais cynllunio3.

Dywed Jane Barbrook, Is-gadeirydd Cymdeithas Eryri: “Ymddengys bod ‘na ddiffyg yma. Gallwch amddiffyn coeden hynafol neu dŷ hanesyddol, ond nid yw’n ymddangos eich bod yn gallu amddiffyn rhaeadr, o ran ei phriodweddau gweladwy a’i sŵn.”

Mae Rory Francis o Gymdeithas Eryri yn ychwanegu: “Yr eironi enfawr yma yw bod rhaeadr eiconig ac un o brif safleoedd bywyd gwyllt Cymru yn cael ei fygwth am swm eithaf dibwys o ynni adnewyddadwy. Dim ond 600kW yw capasiti’r cynllun. Mae hynny’n golygu y byddai angen dim llai na 12 cynllun fel hyn i gynhyrchu cymaint o bŵer ag un tyrbin gwynt modern sengl ar y tir, fel y rhai a gynigir yn Y Bryn, rhwng Maesteg a Phort Talbot, a phob un ohonynt yn 7.2MW. Yn sicr, mae angen i ni symud i sero net, ond wrth wneud hynny, ddylen ni ddilyn canllawiau cynllunio ac amddiffyn ein safleoedd a’n tirweddau bywyd gwyllt mwyaf gwerthfawr.”

  1. Mae Adroddiad y Swyddog i’r Pwyllgor Cynllunio a Mynediad ar gael ar-lein yma: https://eryri.gov.wales/wp-content/uploads/2026/01/Pwyllgor-Cynllunio-a-Mynediad-21.01.26-wefan.pdf
  2. Mae Polisi Cynllunio Cymru ar gael ar-lein yma: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2024-07/polisi-cynllunio-cymru-rhifyn-12.pdf
  3. Mae adroddiad y Swyddog yn rhoi’r ffigur o 453. Fodd bynnag, mae’r glymblaid yn erbyn y cynllun yn ymwybodol bod 1,135 o bobl wedi gwrthwynebu’n ffurfiol trwy wefan eu hymgyrch. Maent wedi trosglwyddo’r enwau a’r cyfeiriadau hyn a thestun llawn y llythyrau a ddanfonwyd at Awdurdod y Parc Cenedlaethol, sydd wedi cytuno i gyfrif y rhain fel gwrthwynebiadau ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ddydd Mercher. Nid ydym yn gwybod achos y methiant hwn. Mae’n bosibl fod hyn yn ymwneud â mewnflwch yn gorlenwi neu hidlydd sbam. Roedd modd i’r glymblaid basio’r rhestr hon o enwau a chyfeiriadau i Awdurdod y Parc Cenedlaethol, o dan reolau GDPR, gan fod yr holl unigolion dan sylw eisoes wedi cydsynio i’r rhain fynd i’r corff hwnnw.