Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru (YNGC) yw'r unig elusen yng Ngogledd Cymru sydd wedi ymrwymo i warchod ac adfer ein byd naturiol ni er budd pobl a bywyd gwyllt – yn ein rhanbarth ni a thu hwnt. Rydyn ni’n dibynnu ar gefnogaeth ein haelodau a'n gwirfoddolwyr i'n helpu ni i gyflawni'r gwaith gwerthfawr yma. Ond oeddech chi'n gwybod bod cyfran fawr o incwm YNGC yn dod gan y bobl wych sy'n addo rhodd i fywyd gwyllt yn eu Hewyllys?
Helpu bywyd gwyllt yng Ngogledd Cymru ym mis Medi eleni
Dale Sutton / 2020Vision
Cymerwch y cam - ac addo rhodd yn eich Ewyllys ym mis Medi.
Y mis yma mae’r Wythnos Cofio Elusen yn dychwelyd, pan fydd elusennau fel ni yn estyn allan at eu cefnogwyr i ofyn iddyn nhw ystyried gadael rhodd yn eu Hewyllys. Dim ots pa mor fach yw'r ganran, mae rhodd yn eich Ewyllys i YNGC yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Mae rhoddion mewn Ewyllysiau yn weithred anhygoel ar gyfer y dyfodol ac yn cefnogi'r bywyd gwyllt a'r llefydd gwyllt rydyn ni mor hoff ohonyn nhw ar ôl i ni fynd, fel bod cenedlaethau newydd yn gallu eu mwynhau a'u trysori.
Rydw i'n gwybod fy mod i wedi bod yn ffodus iawn mewn bywyd, ac rydw i’n ei hystyried yn fraint gwybod y bydd fy marwolaeth i ryw ddiwrnod yn gadael gwaddol unigryw, lleol a byw
I'r bobl wych hynny sydd wedi addo rhodd i ni yn eu Hewyllys – diolch yn fawr. Drwy eich haelioni chi, rydyn ni wedi helpu i warchod adar môr sy'n nythu yng Ngwarchodfa Natur Cemlyn ar Ynys Môn, wedi gwella cyflwr amgylcheddol Gwarchodfa Natur Gors Maen Llwyd ger Dinbych, wedi helpu plant lleol i wneud cartrefi anhygoel i wenyn ac wedi cynghori ysgolion a chymunedau lleol am arddio er budd bywyd gwyllt ledled Gogledd Cymru. Mae cefnogwyr fel y rhain wedi gadael ôl eu troed ar ein tirwedd leol ni am byth.