
Limnephilus pati (adult) © Robin Sutton
Limnephilus pati (adult) © Robin Sutton
Cafwyd hyd i'r Limnephilus pati, rhywogaeth o bryf gwellt, yn ystod arolwg bioamrywiaeth diweddar. Mae'r darganfyddiad nodedig yma’n gwneud Ynys Môn yn un o ddim ond tri lleoliad hysbys yn y DU lle mae'r rhywogaeth yn goroesi, y lleill yw Ffen Market Weston yn Suffolk a South Uist ar yr Ynysoedd Heledd Allanol, yr Alban.
Mae tua 200 o rywogaethau o bryfed gwellt yn y DU, ac mae llawer ohonynt yn debyg i wyfynod gyda'u hadenydd blewog. Mae larfaod y rhywogaeth yn ddyfrol ac yn ffynnu yn y llystyfiant trwchus sydd mewn cynefinoedd gwlybdir, ac mae’r oedolion yn weithredol o'r gwanwyn hyd at ddechrau mis Awst. Mae'r rhan fwyaf o larfâu pryfed gwellt yn creu clawr i fyw ynddo – maen nhw’n gludo darnau o blanhigion neu ronynnau tywod at ei gilydd fel gwarchodaeth rhag ysglyfaethwyr.
Limnephilus pati (larval pupae case) © Ian Wallace
Mae ecosystem y gwlybdir yng Ngwarchodfa Natur Cors Goch yn un o'r rhai mwyaf amrywiol ym Mhrydain. Mae'r cynefinoedd hyn dan fygythiad cynyddol o golli cynefinoedd, sychu, ac effeithiau dwysáu amaethyddol, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.
Gwnaed y darganfyddiad yn ystod gwaith arolygu gan bartneriaeth Natur am Byth, sy'n canolbwyntio ar achub y rhywogaethau sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf yng Nghymru.
Dywedodd Chris Wynne, Uwch Reolwr Gwarchodfeydd gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru: “Mae darganfod y pryf gwellt bregus yma’n tynnu sylw at bwysigrwydd nid yn unig gwarchod ardaloedd fel Cors Goch ond hefyd gweithio i ddarparu cyfleoedd newydd i rywogaethau’r gwlybdir ffynnu. I mi, mae'n tynnu sylw at gymhlethdod anhygoel y byd naturiol a'r cysylltiadau rhwng llefydd a rhywogaethau.”
Ychwanegodd Clare Sampson, Rheolwr Prosiect Natur am Byth: “Roedd yn bleser dod o hyd iddo yng Nghors Goch ochr yn ochr â nifer o rywogaethau eraill sy'n arwydd o ddŵr glân a chynefin cyfoethog,” ac, “Mae darganfyddiadau fel hyn yn profi bod pethau cyffrous i’w canfod bob amser ym myd natur, a bod posib dod o hyd iddyn nhw ar garreg eich drws”. Ychwanegodd Sampson fod y darganfyddiad hefyd yn dangos pam mae arolygu cyson yn "elfen mor bwysig o waith cadwraeth".
Mae'r darganfyddiad yn tanlinellu pwysigrwydd parhau i warchod cynefinoedd a monitro yn y tymor hir i sicrhau nad yw'r rhywogaethau prin a bregus yma’n cael eu colli eto. Mae hefyd yn atgyfnerthu'r rôl hanfodol mae gwarchodfeydd natur yn ei chwarae wrth warchod ein bywyd gwyllt ni - o'r rhywogaethau mwyaf cyfarwydd i'r rhai sydd ar fin diflannu.
Cors Goch Nature Reserve © Damian Hughes