Gwarchodfa natur yn dechrau ar siwrnai at enw newydd yn dilyn ymgyrch dan arweiniad y gymuned

Gwarchodfa natur yn dechrau ar siwrnai at enw newydd yn dilyn ymgyrch dan arweiniad y gymuned

Spinnies Aberogwen Nature Reserve © Eirly Edwards - Behi

Fis diwethaf, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y cynnig i newid enw gwarchodfa natur gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ger Tal y Bont, Bangor - o Spinnies Aberogwen i Lyn Celanedd. Ar ôl ystyried yr adborth yn ofalus, mae ein Hymddiriedolwyr ni wedi dod i benderfyniad unfrydol i argymell y newid enw.

Derbyniodd ein hymddiriedolwyr ni fwy na 165 o negeseuon e-bost a mwy na 370 o ymatebion gan aelodau, cefnogwyr a thrigolion lleol ynghylch y cynnig i ailenwi ein gwarchodfa natur ni o Spinnies Aberogwen i Lyn Celanedd.

Yn eu cyfarfod yng nghanol mis Awst, ystyriodd yr ymddiriedolwyr yr ystod eang o safbwyntiau yn ofalus ac roeddent yn unfrydol yn eu penderfyniad i fwrw ymlaen â'r newid enw. Mynegodd yr ymddiriedolwyr eu hymdeimlad dwfn o fraint wrth gefnogi adfer enw sy'n adlewyrchu treftadaeth ddiwylliannol ac amgylcheddol yr ardal.

Roedd yr ymddiriedolwyr yn fodlon bod ymchwil academaidd trylwyr wedi'i gynnal, gan gydnabod y gefnogaeth gref i'r newid gan Gymdeithas Hanes Dyffryn Ogwen, Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, Menter Iaith Gwynedd, cynghorau cymuned lleol, cynrychiolwyr etholedig, ac ysgolheigion uchel eu parch yn yr iaith Gymraeg ac astudiaethau Celtaidd

Rydym ar ddechrau ein siwrnai i fynd yn ôl at yr hen enw. Y cam nesaf yw cyflwyno'r enw arfaethedig a'r ymchwil ategol i Banel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg i'w hystyried ym mis Medi.

Byddwn yn cyhoeddi diweddariadau newyddion pellach ar ein gwefan, neu ymunwch â'n rhestr bostio i gael yr holl newyddion diweddaraf am natur, digwyddiadau bywyd gwyllt, a chynigion arbennig gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Cwestiynau Cyffredin

Diolch i bawb a rannodd eu sylwadau, eu hymatebion i'r ymgynghoriad, a'u negeseuon e-bost gyda ni. Isod mae rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin, ynghyd â'n hymatebion ni.

Mae'r warchodfa'n cael ei hadnabod yn eang fel The Spinnies, Aberogwen — a allai newid yr enw achosi dryswch neu greu her tymor byr o ran marchnata a chydnabyddiaeth?

Rydym yn deall y bydd llawer o bobl yn parhau i ddefnyddio enwau cyfarwydd ar gyfer y warchodfa, fel Spinnies Aberogwen. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio, dros amser, y bydd yr enw hanesyddol diddorol yma - Llyn Celanedd - yn cael ei ddefnyddio’n gyffredin unwaith eto. Mae rhannu'r stori y tu ôl i'r enw yn cynnig cyfle gwerthfawr i gysylltu â mwy o bobl a dyfnhau gwerthfawrogiad o dreftadaeth yr ardal.

Mae costau ynghlwm wrth ddiweddaru arwyddion - allai'r arian hwn gael ei neilltuo’n well ar gyfer ymdrechion cadwraeth?

Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y rhoddion a'r grantiau sy'n cefnogi ein gwaith cadwraeth ni. Ar gyfer y newid enw, byddwn yn anelu at ddefnyddio cyllid sydd ar gael yn benodol ar gyfer hyrwyddo'r iaith Gymraeg, sy’n gallu helpu gyda thalu cost arwyddion newydd. Dim ond pan fydd yn amser eu hailargraffu fydd deunyddiau print fel taflenni a llyfrynnau’n cael eu diweddaru, a bach iawn yw cost diweddaru gwybodaeth ddigidol.

Mae tystiolaeth hanesyddol yn awgrymu mai Llyn Celanedd yw'r enw gwreiddiol o bosibl - ond a gafodd ei ddefnyddio'n helaeth gan bobl leol erioed?

Do, roedd yn cael ei ddefnyddio yn yr iaith lafar leol, yn enwedig gan bysgotwyr. Roedd Llyn Celanedd yn cyfeirio at y pwll olaf - un o fwy na 120 o byllau ar hyd Afon Ogwen - cyn iddo lifo i Draeth Lafan.

Ydi Llyn Celanedd yn anodd i siaradwyr di-Gymraeg ei ynganu?

Mae'r Gymraeg yn ffonetig, felly mae’r geiriau fel arfer yn cael eu hynganu fel maen nhw’n cael eu hysgrifennu, gyda pherthynas gymharol gyson rhwng llythrennau a synau. Rhowch gynnig ar ddweud hyn; Thlin Kel-an-ith ac fe fyddwch chi’n eithaf agos ati!

Wrth edrych ar y darlun mawr, tybed oes materion pwysicach i ganolbwyntio arnynt?

Un o'n prif flaenoriaethau ni yw 'dod â natur yn ôl' i Ogledd Cymru. Ond mae ysbrydoli pobl i weithredu dros fyd natur yr un mor bwysig, gan fod hyn yn helpu i ysgogi'r newidiadau cymdeithasol sydd eu hangen ar gyfer ei adferiad. Ein nod ni yw cryfhau'r cysylltiad rhwng pobl, lle a bywyd gwyllt. Gan fod yr iaith Gymraeg wedi'i chysylltu'n ddwfn â lle, mae adfer ei defnydd mewn enwau lleol yn helpu i feithrin cysylltiad cryfach â'r amgylchedd naturiol.

Pam dewis enw sy'n cyfieithu i "Llyn y Meirw"? Mae hwn yn lle llawn bywyd!

Nid ni wnaeth ddewis yr enw ein hunain - dyma enw hanesyddol y safle yma, yn dyddio'n ôl i'r adeg pan oedd yn ystum ar Afon Ogwen. Er bod yr enw’n cyfeirio at farwolaeth, mae'n adlewyrchu rhan bwysig o hanes a stori'r ardal. Wedi'r cyfan, mae marwolaeth yn rhan naturiol ac annatod o gylch bywyd.

Am y warchodfa: 

Mae Gwarchodfa Natur Spinnies Aberogwen, fel mae’n cael ei galw ar hyn o bryd, yn cynnwys cyfres o fôr-lynnoedd a chynefinoedd cyfagos sy'n darparu lloches a bwyd i adar gwyllt, adar rhydio ac adar llai, yn enwedig yn ystod mudo'r hydref a'r gwanwyn.

Mae'r warchodfa wrth ymyl aber Afon Ogwen a'r gwastadeddau llaid llanwol sy’n cael eu hadnabod fel Traeth Lafan, ac mae’r llanw a’r trai cyson yn denu rhai rhywogaethau anhygoel gan gynnwys, ar achlysuron prin, gwalch y pysgod. Mae clystyrau tal, gosgeiddig o gyrs yn darparu safleoedd nythu cysgodol i ieir dŵr yn ogystal â lle ardderchog i wylio’r crëyr glas a’r crëyr bach yn hela! Am lawer o'r flwyddyn, mae'r glas y dorlan lliwgar yn olygfa gyfarwydd a phoblogaidd yma wrth iddo glwydo o amgylch y warchodfa a phlymio i'r dŵr i chwilio am ysglyfaeth. Mae’r cuddfannau adar a’r teclynnau bwydo’n darparu cyfleoedd gwych i fwynhau'r bywyd gwyllt gerllaw.