Adferwyd yr enw hanesyddol Cymraeg ‘Llyn Celanedd’ i Warchodfa Natur Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

Adferwyd yr enw hanesyddol Cymraeg ‘Llyn Celanedd’ i Warchodfa Natur Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

Jonathen David Harty

Ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus diweddar, mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi penderfynu defnyddio'r enw hanesyddol 'Llyn Celanedd' yn hytrach na'r enw mwy diweddar ‘Spinnies Aberogwen' ar gyfer ein gwarchodfa natur tra hoff ger Tal-y-bont,

Ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus diweddar, mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi penderfynu defnyddio'r enw hanesyddol 'Llyn Celanedd' yn hytrach na'r enw mwy diweddar ‘Spinnies Aberogwen' ar gyfer ein gwarchodfa natur tra hoff ger Tal-y-bont, Bangor. Mae'r penderfyniad yn adlewyrchu ein polisïau presennol sef, lle mae eiddo yn cael ei adnabod o dan enw Saesneg, byddwn yn ymdrechu i bennu a oes enw Cymraeg arall yn bodoli a ph’un a fyddai'n fwy priodol. Rydym ni’n ddiolchgar am y gefnogaeth eang a dderbyniwyd gan ein haelodau sy'n siarad Cymraeg ac Saesneg, cymdogion, unigolion lleol ac sefydliadau, yn ogystal â Chymdeithas Edward Llwyd, Cymdeithas yr Iaith a Chomisiynydd y Gymraeg. 

Mae gwybodaeth lenyddol a daearyddol hanesyddol yn awgrymu mai ‘Llyn Celanedd’ oedd y pwll olaf yn llwybr troellog Afon Ogwen cyn iddi gael ei sythu yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fe wnaeth y broses gamlesu fwrw nifer o eitemau o bwysigrwydd amgylcheddol a diwylliannol o’r neilltu: aber yr afon a phwll gwerthfawr i bysgotwyr; cysylltiad rhwng tir, afon a môr; gwelyau wystrys – a'r enw a roddwyd i'r safle arbennig hwn. Mae’n fraint gallu cefnogi adfer elfen o'n diwylliant a'n hetifeddiaeth leol, yn enwedig enw lle sy'n dal hanes amgylcheddol ein hamgylchfyd.

Gallwch ddarllen y datganiad i'r wasg lawn yma.

Cwestiynau Cyffredin

Diolch i bawb a rannodd eu sylwadau, eu hymatebion i'r ymgynghoriad, a'u negeseuon e-bost gyda ni. Isod mae rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin, ynghyd â'n hymatebion ni.

Mae'r warchodfa'n cael ei hadnabod yn eang fel The Spinnies, Aberogwen — a allai newid yr enw achosi dryswch neu greu her tymor byr o ran marchnata a chydnabyddiaeth?

Rydym yn deall y bydd llawer o bobl yn parhau i ddefnyddio enwau cyfarwydd ar gyfer y warchodfa, fel Spinnies Aberogwen. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio, dros amser, y bydd yr enw hanesyddol diddorol yma - Llyn Celanedd - yn cael ei ddefnyddio’n gyffredin unwaith eto. Mae rhannu'r stori y tu ôl i'r enw yn cynnig cyfle gwerthfawr i gysylltu â mwy o bobl a dyfnhau gwerthfawrogiad o dreftadaeth yr ardal.

Mae tystiolaeth hanesyddol yn awgrymu mai Llyn Celanedd yw'r enw gwreiddiol o bosibl - ond a gafodd ei ddefnyddio'n helaeth gan bobl leol erioed?

Do, roedd yn cael ei ddefnyddio yn yr iaith lafar leol, yn enwedig gan bysgotwyr. Roedd Llyn Celanedd yn cyfeirio at y pwll olaf - un o fwy na 120 o byllau ar hyd Afon Ogwen - cyn iddo lifo i Draeth Lafan.

Ydi Llyn Celanedd yn anodd i siaradwyr di-Gymraeg ei ynganu?

Mae'r Gymraeg yn ffonetig, felly mae’r geiriau fel arfer yn cael eu hynganu fel maen nhw’n cael eu hysgrifennu, gyda pherthynas gymharol gyson rhwng llythrennau a synau. Rhowch gynnig ar ddweud hyn; Thlin Kel-an-ith ac fe fyddwch chi’n eithaf agos ati!

Pam dewis enw sy'n cyfieithu i "Llyn y Meirw"? Mae hwn yn lle llawn bywyd!

Nid ni wnaeth ddewis yr enw ein hunain - dyma enw hanesyddol y safle yma, yn dyddio'n ôl i'r adeg pan oedd yn ystum ar Afon Ogwen. Er bod yr enw’n cyfeirio at farwolaeth, mae'n adlewyrchu rhan bwysig o hanes a stori'r ardal. Wedi'r cyfan, mae marwolaeth yn rhan naturiol ac annatod o gylch bywyd.

Wrth edrych ar y darlun mawr, tybed oes materion pwysicach i ganolbwyntio arnynt?

Un o'n prif flaenoriaethau ni yw 'dod â natur yn ôl' i Ogledd Cymru. Ond mae ysbrydoli pobl i weithredu dros fyd natur yr un mor bwysig, gan fod hyn yn helpu i ysgogi'r newidiadau cymdeithasol sydd eu hangen ar gyfer ei adferiad. Ein nod ni yw cryfhau'r cysylltiad rhwng pobl, lle a bywyd gwyllt. Gan fod yr iaith Gymraeg wedi'i chysylltu'n ddwfn â lle, mae adfer ei defnydd mewn enwau lleol yn helpu i feithrin cysylltiad cryfach â'r amgylchedd naturiol.

Mae costau ynghlwm wrth ddiweddaru arwyddion - allai'r arian hwn gael ei neilltuo’n well ar gyfer ymdrechion cadwraeth?

Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y rhoddion a'r grantiau sy'n cefnogi ein gwaith cadwraeth ni. Ar gyfer y newid enw, byddwn yn anelu at ddefnyddio cyllid sydd ar gael yn benodol ar gyfer hyrwyddo'r iaith Gymraeg, sy’n gallu helpu gyda thalu cost arwyddion newydd. Dim ond pan fydd yn amser eu hailargraffu fydd deunyddiau print fel taflenni a llyfrynnau’n cael eu diweddaru, a bach iawn yw cost diweddaru gwybodaeth ddigidol.

Sut fyddwch chi’n gweithredu'r newid enw, ac onid ydych chi'n gwastraffu arian arno?

Rydym ni'n mabwysiadu dull cam wrth gam. Bydd cynnydd araf yn nefnydd yr enw Llyn Celanedd, ac rydym ni’n cydnabod y bydd yn cymryd amser i ni arfer â'r newid. Bydd y camau cyntaf ar gyfryngau digidol pan fyddwn ni’n defnyddio Llyn Celanedd (Spinnies Aberogwen); ac yna byddwn ni’n defnyddio Llyn Celanedd ar ei ben ei hun dros amser. 

Rydym ni’n hynod ofalus gyda’n cronfeydd gwerthfawr a bydd unrhyw newidiadau i fyrddau gwybodaeth, taflenni a deunydd arall, yn cael eu gwneud pan fydd angen ail-argraffu pethau, neu drwy ddefnyddio cronfeydd y gellir ond eu defnyddio ar gyfer gwaith sy’n gysylltiedig â’r iaith Gymraeg.

Ydych chi'n tanbrisio teimladau ac ymgysylltiad siaradwyr Saesneg?

Rydym ni’n gwerthfawrogi pawb sy'n caru bywyd gwyllt ac sy'n cefnogi'r Ymddiriedolaeth.   Fe wnaethom gynnal ymgynghoriad trylwyr â’n haelodau, cefnogwyr, gwirfoddolwyr, ymwelwyr a chymdogion, ac roedd 78% o’r rhai a ymatebodd o blaid y newid. Roedd 73% o'r rhai oedd yn cefnogi yn dod gan bobl wnaeth ymateb yn Saesneg neu'n defnyddio swyddogaeth iaith Saesneg yr arolwg.   

Ydych chi'n mynd i newid enw unrhyw warchodfeydd natur eraill?

Mae gennym ni ddwy warchodfa natur arall gyda enwau Saesneg; Old Pulford Brook Meadow a Big Pool Wood, a’n polisi yw, lle mae gan eiddo enw Saesneg, y bydd yr Ymddiriedolaeth yn ymdrechu i bennu a defnyddio ei henw Cymraeg. Rydym ni wedi cysylltu â hanesydd lleol uchel ei barch yn chwilio am enwau gwreiddiol, ond maen nhw wedi methu dod o hyd i dystiolaeth o enw Cymraeg yn unrhyw le. Mae'n drist weithiau, nad ydy enwau Cymraeg yn cael eu cofnodi fel enwau 'swyddogol', gan eu bod yn cael eu defnyddio drwy'r iaith lafar. Efallai y byddwn ni’n darganfod hen enw ond, yn y cyfamser, nid oes gennym ni unrhyw gynlluniau i newid yr enwau.

Am y warchodfa: 

Mae Gwarchodfa Natur Llyn Celanedd (Spinnies Aberogwen) yn cynnwys cyfres o fôr-lynnoedd a chynefinoedd cyfagos sy'n darparu lloches a bwyd i adar gwyllt, adar rhydio ac adar llai, yn enwedig yn ystod mudo'r hydref a'r gwanwyn.

Mae'r warchodfa wrth ymyl aber Afon Ogwen a'r gwastadeddau llaid llanwol sy’n cael eu hadnabod fel Traeth Lafan, ac mae’r llanw a’r trai cyson yn denu rhai rhywogaethau anhygoel gan gynnwys, ar achlysuron prin, gwalch y pysgod. Mae clystyrau tal, gosgeiddig o gyrs yn darparu safleoedd nythu cysgodol i ieir dŵr yn ogystal â lle ardderchog i wylio’r crëyr glas a’r crëyr bach yn hela! Am lawer o'r flwyddyn, mae'r glas y dorlan lliwgar yn olygfa gyfarwydd a phoblogaidd yma wrth iddo glwydo o amgylch y warchodfa a phlymio i'r dŵr i chwilio am ysglyfaeth. Mae’r cuddfannau adar a’r teclynnau bwydo’n darparu cyfleoedd gwych i fwynhau'r bywyd gwyllt gerllaw.