Haf ar Lan y Môr

Haf ar Lan y Môr

Ymunwch â ni yr haf yma wrth i ni archwilio arfordir a môr Gogledd Cymru. Byddwn yn cael picnic, archwilio pyllau creigiog, snŵdlo, mynd yn wyllt ar Draeth y Gorllewin a llawer mwy ...

Bydd gwyliau’r haf yn dechrau’n llawn cyffro wrth i ni roi cychwyn ar yr Wythnos Forol Genedlaethol (28 Gorffennaf – 12 Awst; ydyn, rydyn ni’n gwybod nad wythnos ydi hi go iawn!) gyda sawl digwyddiad diddorol ar gyfer Sioe Deithiol Moroedd Byw Yn Fyw!, sy’n cyrraedd Gogledd Cymru ar 21 Awst. Bydd pob diwrnod yn cynnwys rhywbeth gwahanol fel rhan o’r sioe deithiol, wrth i ni fynd i leoliadau gwahanol – ond gallwch ddisgwyl profiadau rhithiol cyfareddol, cyfleoedd i archwilio traethau, cymryd rhan mewn sesiynau clirio traethau, bod yn greadigol gyda cherfluniau tywod a llawer mwy! 

I ddod …

 

5 Awst 2018: Picnic gyda Llamhidydd, Porth Llechog, 17:00-19:00

6 Awst 2018: Snŵdlo (creu celf dan dŵr), 10:00 – 15:00

8 Awst 2018: Snŵdlo, 12:30-17:30

9 Awst 2018: Blwyddyn y Môr yng Nghriccieth, 13:30 – 15:30

 

Sioe Deithiol Moroedd Byw Yn Fyw!:

21 Awst 2018: Aberdyfi, 11:00 – 16:00

23 Awst 2018: Amlwch, 11:00 – 15:00

24 Awst 2018: Porthdinllaen, 11:00 – 15:00

26 Awst 2018: Caergybi, 12:00 – 16:00

27 Awst 2018: Traeth y Gorllewin, Llandudno, 11:00 – 16:00

29 Awst 2018: Y Rhyl, 10:00 – 14:00

1 Medi 2018: Aberdaron, 10:00 – 16:00

2 Medi 2018: Traeth y Graig Ddu, 14:00 – 18:00

Edrychwch ar ein tudalen digwyddiadau ni i gael gwybod mwy am ddigwyddiadau’r haf yma – gan gynnwys manylion llawn am ble i fod!