Mae tîm glanhau traethau yn Sir Lincoln, unigolion sy’n monitro siarcod yn Sir Caerhirfryn a dwy seren ddisglair y dyfodol o Ogledd Cymru wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Gwirfoddolwyr Marsh ar gyfer Cadwraeth Forol heddiw, dydd Mercher 30ain Gorffennaf.
Yn bartneriaeth rhwng yr Ymddiriedolaethau Natur ac Ymddiriedolaeth Elusennol Marsh, mae Gwobrau Gwirfoddolwyr Marsh ar gyfer Cadwraeth Forol yn cydnabod y gwaith anhygoel y mae gwirfoddolwyr Ymddiriedolaethau Natur yn ei wneud i helpu i achub ein moroedd ni.
Fe gynhaliwyd y seremoni wobrwyo ar-lein fel rhan o’r Wythnos Forol Genedlaethol - dathliad blynyddol yr Ymddiriedolaethau Natur o foroedd y DU. Roedd y seremoni’n cael ei chynnal ar yr un pryd â'n digwyddiad casglu hadau morwellt blynyddol ni ac felly fe ymunodd ein henillwyr gwych ni a phartneriaid y prosiect â ni ar gyfer digwyddiad arbennig ym Mhorthdinllaen.