Noson arbennig yn Theatr Colwyn gyda'r cyflwynydd teledu poblogaidd Liz Bonnin

Noson arbennig yn Theatr Colwyn gyda'r cyflwynydd teledu poblogaidd Liz Bonnin

Darlledwraig a biolegydd yn sgwrsio gyda'r ymgyrchydd amgylcheddol, Craig Bennett

Ar nos Fercher 3ydd Rhagfyr, bydd llywydd benywaidd cyntaf yr Ymddiriedolaethau Natur, Liz Bonnin, yn camu i’r llwyfan i siarad am ei gyrfa ryfeddol, ei hangerdd dros wyddoniaeth a byd natur, a’i phrofiad o weithio gyda'r elusen natur ledled y DU ar amser mor allweddol. 

Craig Bennett yw prif weithredwr yr Ymddiriedolaethau Natur ac mae wedi cael ei ddisgrifio fel "un o brif ymgyrchwyr amgylcheddol y wlad" gan The Guardian. Mae Craig wedi ymddangos ar The Sunday Times Green Power List o’r 20 o brif amgylcheddwr y DU a bydd yn cadeirio'r drafodaeth. 

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn Theatr Colwyn yng Ngogledd Cymru ar nos Fercher 3ydd Rhagfyr, 6pm - 9pm. Mae’r tocynnau ar gael i'w harchebu nawr ac yn costio £9 ar gyfer unrhyw ostyngiad a £12 am docyn safonol: Noson gyda Liz Bonnin  

Liz Bonnin, President, The Wildlife Trusts

Liz Bonnin, President, The Wildlife Trusts © Trai Anfield

Yn adnabyddus am ei rhaglenni dogfen arloesol, mae gyrfa Liz wedi mynd â hi i bob cwr o’r byd, gan astudio ymddygiadau anifeiliaid a thynnu sylw at faterion amgylcheddol pwysig. Yn dathlu 5 mlynedd fel llywydd yr Ymddiriedolaethau Natur, mae Liz yn cyfrannu gwybodaeth bwerus at yr heriau sy'n wynebu ein planed, gan addo noson sy'n procio’r meddwl o sgwrsio gonest gyda'r prif weithredwr Craig Bennett. 

Dywed Liz Bonnin, llywydd yr Ymddiriedolaethau Natur: 

“Mae wir yn anrhydedd bod yn rhan o deulu'r Ymddiriedolaethau Natur ac rydw i wrth fy modd yn gallu rhannu'r hyn rydw i wedi'i ddysgu - fel llywydd y ffederasiwn ac fel darlledwraig - am y trawsnewidiadau sydd eu hangen i sicrhau dyfodol gwell. Mae Craig Bennett yn ysbrydoliaeth i mi, ac os yw ein sgyrsiau ni yn y gorffennol yn rhyw fath o ganllaw, fy ngobaith i yw y bydd y noson yma’n eich cymell chi ac yn eich llenwi â gobaith yn ystod yr amseroedd heriol hyn i ni a'r blaned.” 

Dywedodd Frances Cattanach, prif weithredwr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru: “Mae’n bleser o’r mwyaf croesawu Liz Bonnin i Ogledd Cymru. Bydd ei hymweliad â Dyffryn Conwy ar 3ydd Rhagfyr yn rhoi cipolwg uniongyrchol iddi ar ein gwaith ni ar gyfer adfer byd natur, ac rydw i’n edrych ymlaen at ddangos iddi sut mae ein prosiectau lleol ni’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a bywyd gwyllt. Mae’n addo bod yn noson ysbrydoledig a llawn cymhelliant, ac yn gyfle pwerus i ddathlu a dyfnhau ein hymrwymiad ar y cyd i warchod ac adfer bywyd gwyllt yma yng Ngogledd Cymru.” 

Gyda’r drysau ar agor o 6pm ymlaen, mae gwahoddiad i’r gwesteion hefyd edrych ar y stondinau bywyd gwyllt sy’n arddangos yn y digwyddiad i ddysgu mwy am wahanol brosiectau a phartneriaethau yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys stondin yn arddangos ei gwaith adfer morwellt a morfeydd heli drwy glustffonau VR rhyngweithiol, yn ogystal â Gofod Glas, a fydd yn archwilio dŵr croyw yn Nyffryn Conwy. Bydd yr ymwelwyr hefyd yn dod o hyd i anrhegion Nadolig a chyfleoedd aelodaeth. Mae diodydd ar gael o’r bar cyn i’r sgwrs gyda Liz Bonnin a Craig Bennett ddechrau am 7pm. 

Archebwch docynnau ar gyfer y digwyddiad yma: Noson gyda Liz Bonnin