Mae Adolygiad Morol blynyddol yr Ymddiriedolaethau Natur yn tynnu sylw at waith mwy na 100 o ecolegwyr morol Moroedd Byw o amgylch ein glannau ni, gyda chefnogaeth miloedd o wirfoddolwyr.
2025 oedd y flwyddyn y daeth y termau 'peledi plastig' (nurdles yn Saesneg) a 'bio-gleiniau' yn newyddion mawr, gyda goblygiadau dinistriol i fywyd morol. Fe gafodd yr isafbwyntiau yma eu cyfateb gan ffrwydrad o emosiwn ac arddangosfa o bŵer pobl yn dilyn rhyddhau ffilm Syr David Attenborough, 'Ocean', a agorodd lygaid y genedl i effeithiau dinistriol treillio ar waelod y môr.
Er gwaethaf poethdon forol, fe oroesodd bywyd. Darganfuwyd rhywogaethau newydd, cafodd y palod poblogaidd flwyddyn arbennig ar ynysoedd Sgomer a Muck, a gwelwyd Ymddiriedolaeth Natur Cernyw yn datgan 2025 fel The Year of the Blooming Octopus yn dilyn cynnydd digynsail yn eu niferoedd.