Croesawu Jonathan Kinsey fel Rheolwr Gyfarwyddwr Enfys Ecology

Croesawu Jonathan Kinsey fel Rheolwr Gyfarwyddwr Enfys Ecology

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi penodiad Jonathan Kinsey i rôl wedi’i chreu o’r newydd, sef Rheolwr Gyfarwyddwr Enfys Ecoloogy.

Mae Enfys Ecology, ein hymgynghoriaeth amgylcheddol, yn darparu atebion ymarferol o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar natur ar gyfer sefydliadau cyhoeddus a phreifat: o arolygu ac asesu ecolegol i ddylunio, creu a rheoli cynefinoedd yn y tymor hir.

Wedi'i sefydlu yn 2010, fel is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, mae’r elw o Enfys yn cyfrannu at genhadaeth yr Ymddiriedolaeth i ddod â bywyd gwyllt yn ôl, grymuso pobl i weithredu dros fyd natur a chreu cymdeithas lle mae natur yn bwysig. 

Rydw i wrth fy modd yn croesawu Jonathan i’r tîm. Mae’n dod â phrofiad masnachol sylweddol ac enw hynod dda am arwain twf mewn busnesau ymgynghori, ochr yn ochr ag angerdd gwirioneddol dros adferiad natur. Rydw i’n gyffrous am weld ei arweinyddiaeth yn cael ei chyfuno gydag arbenigedd y timau ecoleg a chynefin gwych yn Enfys
Frances Cattanach
Prif Swyddog Gweithredol, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Jonathan Kinsey close-up portrait

Fe ddechreuodd Jonathan ei yrfa ym maes rheoli tir, gan ddatblygu sylfaen mewn stiwardiaeth tir a'r amgylchedd naturiol. Ers hynny mae wedi arwain busnesau ymgynghoriaeth a gwasanaethau ar draws sawl sector a daearyddiaeth, gan gyfrannu profiad helaeth o arweinyddiaeth strategol, fasnachol a sefydliadol.

Meddai Jonathan:
“Mae'r cyfle i adeiladu ar sylfeini cadarn Enfys Ecology yn dod ar amser hollbwysig. Mae'r galw am arbenigedd ecolegol o ansawdd uchel yn cynyddu, wedi'i sbarduno gan fuddsoddiad Cyfalaf Naturiol, polisi defnydd tir a chynllunio sy'n esblygu, a'r angen brys am adferiad natur.

 “Mae Enfys Ecology mewn sefyllfa dda ar gyfer twf cyfrifol, ac rydw i’n falch bod ei lwyddiant yn cefnogi gwaith cadwraeth ehangach Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn uniongyrchol.

"Edrychwn ymlaen at y cyfnod nesaf yma o dwf – gan gefnogi ecoleg, economi a chymunedau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt.

Darganfod mwy o wybodaeth am Enfys Ecology here

Logo for Enfys Ecology - green rainbow with words 'Enfys Ecology'