Adferiad cytref y Môr-wennoliaid mewn tymor bridio llwyddiannus

Adferiad cytref y Môr-wennoliaid mewn tymor bridio llwyddiannus

Sandwich tern flying with eel to nest - Bertie Gregory 2020VISION

Ar ôl tymor siomedig yn 2017, bridiodd cytref y môr-wennoliaid Gwarchodfa Natur Cemlyn mewn niferoedd rhesymol yn 2018.

Y prif nodwedd yn Nghemlyn, ac hefyd sydd wedi bod yn y gorffennol, yw cytref y môr-wennoliaid ond o dro i dro mae yna flynyddoedd llwm ble mae’r bridio yn methu.  Tra fod hyn yn ddigwyddiad hollol naturiol, siomedig iawn yw pan mae’n digwydd.  Fe ddigwyddodd hyn, yn ddiweddar iawn, yn 2017, pan adawodd yr holl gytref yr warchodfa.  Yn ffodus, nid oedd hyn yn llwyr drychinebus i nifer o’r rhywogaethau oedd yn ei defnyddio – hirhoedlog yw rhywogaeth y môr-wennol ac maen debyg fod nifer fawr o’r fôr-wennoliaid pigddu wedi bridio’n llwyddiannus yn rhywle arall.

Ond, mae Cemlyn yn parhau i fod yn safle arbennig i’r môr-wennoliaid, a gyda mawr ryddhad, ar ôl dechreuad araf iawn, dychwelwyd y cytref yn 2018.  Er fod y niferoedd yn llai na mewn blynyddoedd blaenorol, iach iawn oedd y cytref i gymharu â 2017!  Ar gyfartaledd, fe nythwyd tros 500 pâr o’r fôr–wennol bigddu, a magwyd, o leiaf, 180 cyw.  Hefyd, fe nythwyd grwpiau bach o fôr-wennoliaid y gogledd a chyffredin , gan fagu 7 chiw a 10 ciw yn y drefn honno, tra fod gwylanod penddu (rhywogaeth bwysig sy’n amddiffyn y môr-wennol bigddu rhag ysglyfaethwyr) wedi llwyddo magu 100 o gywion allan o tros 220 o nythod.  Er fod y niferoedd hyn yn edrych yn isel, dylid edrych ar y tymor hyn fel tymor adferiad llwyddiannus iawn – addawol iawn hefyd, tuag at gynnydd yn y cytref eto yn 2019.

Drwy gydol y tymor mae dau warden a thîm o wirfoddolwyr yn monitro y cytref yn agos ond hefyd maent yn monitro y bywyd gwyllt ehangach ar Warchodfa Natur Cemlyn – nid yn unig yn amddiffyn y môr-wennoliaid ond hefyd dallt y rôl mae gan cytref tebyg i chwarae yn y ecosystem ehangach.  Da ni angen eich cymorth chi i’r dyfodol er mwyn parhau a’n gwaith!  I ddarganfod mwy, neu i ddangos diddordeb i ymuno â thîm y gwirfoddolwyr am dymor 2019 cysylltwch â Katy Haines, ein Swyddog Gwirfoddoli a Datblygu Aelodaeth ar katy.haines@northwaleswildlifetrust.org.uk