Cemlyn: diogel am nawr?

Cemlyn: diogel am nawr?

Terns at NWWT Cemlyn nature reserve © Nia Haf Jones

Arbed bywyd gwyllt Cemlyn am y tro yn dilyn gohirio datblygiad Wylfa Newydd.

Wrth i ni fynd i’r wasg, mae dyfodol gorsaf pŵer niwclear arfaethedig Wylfa ar Ynys Môn yn ansicr. Ar 17 Ionawr, cyhoeddodd Pŵer Niwclear Horizon y bydd yn gohirio ei raglen datblygu niwclear yn y DU, yn dilyn penderfyniad a wnaed gan ei riant-gwmni, Hitachi. Am nawr, o leiaf, mae hwn yn newyddion da i’r môr-wenoliaid sy’n dychwelyd bob blwyddyn i fagu yng Ngwarchodfa Natur Cemlyn: llecyn rydym wedi’i gadw’n ddiogel ar eu cyfer ers mwy na 45 o flynyddoedd.

Daeth y newyddion hanner ffordd drwy’r ymchwiliad a fyddai wedi rhoi caniatâd datblygu i fwrw ymlaen. Fel rhan o’r ymchwiliad (y mae ei ddyfodol yn ansicr nawr hefyd), cyflwynodd ein Hymgynghorydd Cynllunio Bioamrywiaeth, Teresa Hughes, dystiolaeth dros gyfnod o dridiau i’r Arolygiaeth Gynllunio ar effeithiau Wylfa Newydd ar Warchodfa Natur Cemlyn, tir gwlyb gwerthfawr Tre’r Gof gerllaw a chynefinoedd bywyd gwyllt eraill. Dywedodd: “Gwrandawodd yr arolygwyr yn ofalus iawn ar ein holl safbwyntiau ni am effeithiau negyddol posib y cynllun ar y môr-wenoliaid a’r bywyd gwyllt. Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed gyda’n partneriaid, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r RSPB, i ddylanwadu ar y broses hon dros gyfnod o 3 blynedd, a dyma benllanw’r holl waith yma”.

Mae ein hymateb ni i’r bygythiad hwn wedi dangos gwaith tîm gwych. Cafodd Teresa gefnogaeth gan aelodau sydd â gwybodaeth arbenigol, yn enwedig Dr Rod Jones a Dr Ivor Rees, ac ymddiriedolwr a ddarparodd lety am ddim yn ystod yr ymchwiliad. Rydym yn ddyledus hefyd i chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl, a greodd Gronfa Frwydro Ymddiriedolaethau Natur Cymru. Defnyddiwyd y gronfa hon gennym ni i gael cyllid ar gyfer y gwaith hwn. Yn olaf, ond nid y lleiaf yn sicr, rydym wedi elwa o gefnogaeth ac anogaeth bargyfreithiwr pro bono a chyngor gan Ymddiriedolaethau Natur eraill – diolch yn fawr, bawb.  

Dod yn aelod

Yn olaf, heb ein haelodau, ni fyddem yn gallu sefyll yn erbyn y bygythiadau i fywyd gwyllt, fel yr un yma. Er bod oedi gyda’r datblygiad yma ar hyn o bryd, gall godi’i ben eto, ac mae cefnogaeth ein haelodau’n parhau i roi hyder i ni y gallwn fod yn barod pan fo angen. Mewn unrhyw achos, heb ein cyfraniad ni hyd yma, rydym yn meddwl y byddai llystyfiant ac uwchbridd y safle enfawr yma wedi cael ei glirio eisoes – fel y digwyddodd yn Hinckley am 3 blynedd neu fwy. Os ydych chi’n aelod eisoes, diolch i chi am wneud hyn yn bosib; os nad ydych chi, ystyriwch ymuno â ni os gwelwch yn dda a’n helpu i sefyll dros fywyd gwyllt Cemlyn a bywyd gwyllt ymhell y tu hwnt i’r ardal yma.