
Cemlyn Nature Reserve_Lin Cummins

Sandwich tern_Ashley Cohen

Terns at Cemlyn Nature Reserve

Hare (c) Andrew Parkinson/2020Vision

Grasshopper warbler © Richard Steel2020VISION
Dolphins breaching_Sarah_Perry
Know before you go
Pris mynediad
NaManylion parcio
Maesydd parcio ger mannau gwylioAnifeiliaid pori
NaLlwybrau cerdded
Gall gerdded ar hyd yr holl esgair fod yn ymdrechgar iawn, ac mae’r serthrwydd yn ei wneud yn anaddas ar gyfer pramiau a chadeiriau olwyn. Rhwng ddiwedd mis Ebrill a mis Awst, rydym yn gofyn i ymwelwyr gerdded ar hyd yr esgair ar yr ochr tua’r môr i leihau’r aflonyddwch i’r cytref mor-wenoliaid. Fel dewis arall, mae teithiau haws i’w cael o gwmpas y pentir cyfagos.
Mynediad
Nid oes posib mynd ar yr esgair o ro mân mewn cadair olwyn ac nid oes posib mynd â phramiau arni chwaith. Hefyd mae’n heriol i bobl ag anawsterau symud. Fodd bynnag, mae posib gweld y boblogaeth o fôr-wenoliaid o ychydig pellach i ffwrdd ar draws y môr-lyn: cerddwch yn ôl ar hyd y ffordd o’r maes parcio gorllewinol, gan gadw llygad am unrhyw draffig sy’n dod. Yn ystod tymor magu’r gwanwyn a’r haf, byddwch yn ufudd i’r wardeiniaid a’r ffensys os gwelwch yn dda, gan gadw ar ochr y gwymon i’r esgair er mwyn osgoi tarfu’n ddiangen ar yr adar.
Dogs
When to visit
Amseroedd agor
Ar agor bob amserAmser gorau i ymweld
Yr haf ar gyfer mor-wenoliaid yn magu eu cywion; y gaeaf ar gyfer rhydgwyrAm dan y warchodfa
Adar môr trawiadol
Wedi’i leoli ar arfordir gogleddol gwyllt Ynys Môn, gyda’i esgair unigryw, hirgrwn o ro mân, mae Cemlyn yn safle anhygoel i ymweld ag ef. Mae’r esgair, sy’n cael ei hadnabod fel Esgair Cemlyn, yn gynefin pwysig i rywogaethau arbenigol o blanhigion, fel bresych y môr, gludlys arfor a phabi corniog melyn. Y tu hwnt i’r esgair, mae’r môrlyn bas yn gynefin diddorol i rywogaethau dyfrol fel y dyfrllys troellog prin ac mae’r ardaloedd o amgylch o eithin a glaswelltir yn gynefin i amrywiaeth eang o löynnod byw ac adar. Drwy gydol y flwyddyn, mae adar rhydio ac adar gwyllt i’w gweld o amgylch y môr-lyn ar y glannau cyfagos. Yr amser gorau i ymweld â’r safle yw rhwng misoedd Mai a Gorffennaf pan mae ynysoedd y môr-lyn yn croesawu poblogaethau’n nythu o fôr-wenoliaid y Gogledd, pigddu a chyffredin. Dyma’r unig boblogaeth nythu o’r Fôr-wennol Bigddu yng Nghymru ac mae’n olygfa drawiadol iawn ym myd natur – peidiwch â’i cholli!
Helpwch ni!
Rhaid i ni gael £30,000 er mwyn parhau i ddarparu wardeiniaid yng Nghemlyn. Heb warchodaeth 24/7 yn ystod y tymor magu, mae pob cyfle y bydd y boblogaeth yn methu.
A wyddoch chi?
Mae bywyd gwyllt Cemlyn, a’r adar yn benodol, wedi cael ei fonitro gan wardeiniaid bob haf ers 1981, gan roi gwybodaeth ryfeddol am sut mae ein harfordir yn newid.
Cyfarwyddiadau
Mae Cemlyn ar arfordir gogleddol Ynys Môn, i’r gorllewin o Orsaf Pŵer Niwclear Wylfa. Trowch oddi ar yr A5025 yn Nhregele. I gyrraedd maes parcio’r ‘traeth’ (dwyrain), dilynwch y ffordd a throi’n sydyn i’r dde yn y fforch gyntaf. I gyrraedd maes parcio ‘Bryn Aber’ (gorllewin ac agosaf at fan gwylio’r warden – SH329 935), ewch ymlaen i’r chwith, gan fynd i’r dde wedyn ym mhob fforch y dowch iddi. .
Species
Contact us
Dynodiad amgylcheddol
Allwch chi warchod dyfodol Cemlyn
Canllaw ar gyfer Adnabod Morwenoliaid
Yng Nghemlyn mae un o'r poblogaethau mwyaf o forwenoliaid yn y DU. Pwrpas y canllaw yma yw eich helpu i adnabod y prif rywogaethau yr ydych yn debygol o'u gweld yma yn ystod misoedd yr haf.