Modrwyo môr-wenoliaid

Modrwyo môr-wenoliaid

Sandwich tern flying with eel to nest - Bertie Gregory 2020VISION

Draw yng Nghemlyn, gyda mis Gorffennaf yn tynnu at ei derfyn, mae’r môr-wenoliaid ifanc yn dechau mudo – ac eleni fe allwn ni ddechrau eu dilyn nhw!

Am y tro cyntaf erioed, ychydig wythnosau yn ôl, fe osododd swyddogion modrwyo trwyddedig “fflagiau” arbennig ar fwy na chant o gywion y môr-wenoliaid Pigddu. Erbyn 15 Gorffennaf, roedd y rhai hynaf eisoes yn gadael eu safleoedd nythu: gwelwyd un yn fuan iawn yn Nhrwyn Rhos, Bae Colwyn, a’r diwrnod canlynol, gwelwyd pump arall yn Formby yn Sir Gaerhirfryn.

Sandwich tern ringing

Sandwich tern ringing © Phil Woollen (Taken under licence issued by Natural Resources Wales)

Mae’r wardeiniaid eleni – Mark, Ruth a Matilda – yn amcangyfrif bod mwy na 1,000 o barau o Fôr-wenoliaid Pigddu wedi magu. Mae’n anodd bod yn fanwl gywir wrth amcangyfrif faint o gywion sydd wedi hedfan y nyth ond, drwy waith arsylwi manwl, cawn ffigur o ryw 800 ac nid oedd ysglyfaethwyr yn ymddangos fel problem fawr. Cemlyn yw’r unig boblogaeth o hyd o Fôr-wenoliaid Pigddu yng Nghymru, ac un o’r poblogaethau pwysicaf yn y DU.       

Felly, os ydych chi allan yn gwylio adar ar hyd arfordir Gogledd Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf, cadwch lygad am ein môr-wenoliaid a’u modrwyau (fflagiau oren gyda thair llythyren ddu – fel sydd i’w weld yn y llun)! Cofiwch roi gwybod i ni ble rydych chi wedi’u gweld nhw ac, os yw hynny’n bosib, pa godau modrwy welsoch chi. Mae’n grêt gallu cofnodi ein poblogaeth ac fe allwn ni i gyd gydweithio i wneud hynny – gwyddoniaeth y dinesydd ar waith.