Gwirfoddoli cadwraeth

Volunteer sawing

Katrina Martin / 2020VISION

GWIRFODDOLI

Gwirfoddoli cadwraeth

Gweithredu’n ymarferol dros fywyd gwyllt

Os ydych chi’n hoffi gweithio yn yr awyr agored, neu eisiau rhoi cynnig arni, beth am ddod draw i un o’n gweithgorau cadwraeth?

Mae’r rhain yn cael eu cynnal yn ein gwarchodfeydd natur ni bob wythnos drwy gydol y flwyddyn. Mae’n ffordd grêt i gymryd rhan mewn gwaith cadwraeth ymarferol a mwynhau cwmni pobl eraill. 

Bod yn wirfoddolwr

Am y dyddiau gwirfoddoli cadwraeth

Fel rheol mae ein dyddiau gwaith ni’n cychwyn am 10 a.m. tan yn hwyr yn y prynhawn a gallwch ddod draw am y diwrnod cyfan neu ddim ond ychydig oriau. Gwerthfawrogir pob help a does dim angen unrhyw brofiad. Mae ein staff ni bob amser wrth law i ddarparu hyfforddiant, adnoddau a chefnogaeth. Y cyfan fyddwch chi ei angen fydd hen ddillad (addas ar gyfer y tywydd), esgidiau gwaith neu welingtyns a phecyn bwyd i ginio.

Mae gweithgorau gwirfoddoli’n ffordd grêt i gyfarfod amrywiaeth eang o bobl sy’n rhannu diddordebau tebyg.
Jane Saunders, Gwirfoddoli

Prosiectau penodol

Yn ogystal â’n cyfleoedd gwirfoddoli rheolaidd, gallwch gymryd mwy o ran mewn prosiectau penodol gyda’r Ymddiriedolaeth. Mae rhai esiamplau isod:

Volunteer tree planting on the Wrexham Industrial Estate Living Landscape

Volunteer tree planting on the Wrexham Industrial Estate Living Landscape

Tirwedd Fyw Stad Ddiwydiannol Wrecsam

Alyn Valley by Jonathan Hulson NWWT

Alyn Valley by Jonathan Hulson NWWT

Tirwedd Fyw Alun a Chwiler

Bala Crayfish survey

©Carly Morris

Rhywogaethau anfrodorol goresgynnol

Ymunwch â'n hymdrech i fynd i'r afael â rhywogaethau goresgynnol 

Darganfod mwy

Ymholiadau am wirfoddoli

Katy Haines, Swyddog Datblygu Gwirfoddolwyr
E-bost katy.haines@northwaleswildlifetrust.org.uk
Ffoniwch 01248 351 541