Mathau o Grwpiau Cymunedol (Cymru a Lloegr)
Image copyright Graham Makepeace-Warne
dechrau grŵp?
Mae Les o Swydd Lincoln yn esbonio'r gwahanol fathau o grwpiau cymunedol (yn Saesneg).
Types of community group - Community Hub (https://www.youtube.com/watch?v=IZFwvwvZhDo)
Les from Lincolnshire explains the different types of community group.
Cymdeithas Anghorfforedig
Os mai dim ond grŵp bach o wirfoddolwyr ydych chi, heb unrhyw gynlluniau i gyflogi staff neu rentu eiddo, dyma’r un i chi. Dyma'r grŵp hawsaf i'w sefydlu. Y cyfan sydd arnoch ei angen yw ysgrifennu “cyfansoddiad” neu “ddogfen lywodraethu”. Dyma restr o reolau ar gyfer y grŵp. Mae hefyd yn dweud beth mae’ch grŵp yn mynd i’w wneud, a sut mae’n mynd i’w wneud.
Y math yma o grŵp:
- nid oes rhaid iddo fod yn elusen (er gallwch sefydlu elusen os ydych yn dymuno). Bydd angen i chi gael cyngor swyddogol os ydych chi eisiau bod yn elusen.
- nid yw'n strwythur cyfreithiol ar wahân. Mae hyn yn golygu na all y grŵp gymryd contract neu fod yn berchen ar eiddo - ond gall aelodau unigol wneud hynny.
- gydag aelodau sy'n pleidleisio am yr hyn y dylai'r grŵp ei wneud.
- gall y grŵp ddod yn fath gwahanol o grŵp neu elusen yn ddiweddarach.
Edrychwch ar ein dogfen ar wahân am “Sefydlu Grŵp Cymunedol” am wybodaeth am gymdeithasau anghorfforedig.


'Friends of' groups, like the The Friends of Alderman Kneeshaw Park, are typically run as unincorporated groups.
Image copyright Andy Steele/Yorkshire Wildlife Trust
Corfforedig ac Anghorfforedig
Y gwahaniaeth rhwng y ddau beth yma yw a oes gan eich grŵp “bersonoliaeth gyfreithiol” ei hun ar wahân. Gall grŵp corfforedig gyflogi pobl, cymryd contract neu rentu eiddo. Os oes unrhyw ddyled, y grŵp sy’n berchen ar y ddyled honno nid y bobl sy’n rhedeg y grŵp. Mae hyn yn golygu bod grŵp corfforedig yn cael ei reoleiddio'n fwy nag un anghorfforedig. Mae’n debyg y byddwch angen help gan gyfrifwyr a chyfreithwyr.
Enghreifftiau o grwpiau corfforedig:
- Cwmni Budd Cymunedol (CIC)
- Cwmni Cyfyngedig trwy Warant
- Sefydliad Corfforedig Elusennol
- Cymdeithas Budd Cymunedol
- Cymdeithas Gydweithredol
Ar y llaw arall, dim ond grŵp o unigolion yw grŵp anghorfforedig. Os bydd rhywun yn mynd i ddyled ar ran y grŵp, mae’r person hwnnw’n atebol am y ddyled honno. Gan fod y rhan fwyaf o grwpiau cymunedol yn fach iawn a ddim yn trin llawer o arian, mae’r risg yn isel mewn gwirionedd.
Enghreifftiau o grwpiau anghorfforedig:
- Cymdeithas Anghorfforedig
- Ymddiriedolaeth Elusennol


Incredible Edible is a CIC, a type of incorproated group. Image copyright Andy Stubbs / Cheshire Wildlife Trust 2024
Ydych Chi'n Elusennol?
Diffinnir elusen yn y gyfraith yng Nghymru a Lloegr fel grŵp sydd â dibenion elusennol yn unig. Mae’n cael ei reoleiddio gan yr Uchel Lys. Mae’n rhaid i chi brofi eich bod yn bodoli er budd y cyhoedd. Os yw eich incwm yn fwy na £5,000 y flwyddyn neu os ydych chi’n Sefydliad Corfforedig Elusennol, rhaid i chi gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau. Edrychwch ar y canllawiau swyddogol ar wefan y Llywodraeth yma.
Byddwch yn ofalus! Nid yw “elusen” yn grŵp cyfreithiol ar ei ben ei hun. Mewn gwirionedd, mae’r rhan fwyaf o elusennau yn un o’r rhain:
- Cymdeithas Anghorfforedig
- Ymddiriedolaeth Elusennol
- Sefydliad Corfforedig Elusennol
- Cwmni Cyfyngedig trwy Warant
- Cymdeithas Budd Cymunedol Elusennol
Ni all y grwpiau hyn fod yn elusennau:
- Cwmni Budd Cymunedol (CIC)
- Cymdeithas Gydweithredol
Defnyddiwch y “Map Llwybr” syml yn y Ganolfan Adnoddau yma i weld beth ddylai strwythur cyfreithiol eich grŵp fod.
Os oedd y canllaw hwn yn rhy gymhleth, gallwch ei ddarllen mewn ffordd wahanol yma.


The Wildlife Trusts
Have you been part of a community nature project?
We'd love to hear from you! Your experiences will be shared right here on the Community Hub and will inspire others to take action in their own neighbourhoods.


CC by 4.0 attribution
Except where noted and excluding images, company and organisation logos, this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence.
Please attribute as: “Nextdoor Nature (2022-2024) by The Wildlife Trusts funded by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 40”