Sefydlu Grŵp Cymunedol Sylfaenol
Yr enw ar y grŵp hawsaf i’w sefydlu yw “cymdeithas anghorfforedig”. Mae angen i chi ysgrifennu “cyfansoddiad” neu “ddogfen lywodraethu”. Dyma restr o reolau ar gyfer y grŵp. Mae hefyd yn dweud beth mae eich grŵp yn mynd i’w wneud, a sut mae’n mynd i’w wneud.
Y math yma o grŵp:
- nid yw’n elusen (er gallwch sefydlu elusen os ydych yn dymuno. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y cyngor cywir os ydych eisiau bod yn elusen, oherwydd mae gwahanol fathau, a bydd hyn yn dibynnu ar ble rydych chi.)
- nid yw’n strwythur cyfreithiol ar wahân, sy’n golygu na all y grŵp ymrwymo i gontract neu fod yn berchen ar eiddo – ond gall aelodau unigol wneud hynny.
- mae ganddo aelodau sy'n pleidleisio ar yr hyn y dylai'r grŵp ei wneud
- os bydd y grŵp yn newid, gall ddod yn fath gwahanol o grŵp neu elusen yn ddiweddarach.
Ysgrifennu cyfansoddiad (ar gyfer grwpiau nad ydynt yn elusennau):
- Penderfynwch ar enw ar gyfer eich grŵp.
- Ysgrifennwch eich nodau – beth ydych chi eisiau i'r grŵp ei wneud? Ble mae'r grŵp yn gweithio, pwy fydd y grŵp yn eu helpu, a sut bydd y grŵp yn eu helpu?
- Aelodaeth. Pwy sy'n aelod? Ydi’r aelodau’n talu ffi? Sut gall pobl ymuno â'r grŵp? Sut gallant adael y grŵp?
- Cyfleoedd cyfartal. Efallai eich bod yn galw hyn yn Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Ysgrifennwch sut byddwch yn sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei anghofio.
- A fydd gennych chi bwyllgor? Mae pwyllgor yn grŵp o bobl sy'n rhedeg y grŵp. Mae'r grŵp fel arfer yn pleidleisio drostynt bob blwyddyn. Does dim rhaid i chi gael pwyllgor. Gallwch chi rannu'r swyddi a chymryd eich tro. Os oes gennych chi bwyllgor, faint o bobl fydd ar y pwyllgor, a beth fyddant yn ei wneud? Ymhlith y swyddi ar bwyllgor mae Cadeirydd (yn arwain y cyfarfodydd), Ysgrifennydd (yn ysgrifennu'r hyn a ddywedir yn y cyfarfod) a Thrysorydd (yn gofalu am yr arian). Mae’r swyddi eraill yn cynnwys Swyddog y Wasg (yn anfon straeon i'r papurau newydd ac yn ateb eu cwestiynau), Codwr Arian (yn codi arian) ac Ysgrifennydd Aelodaeth (yn gofalu am yr aelodau).
- Os nad oes gennych chi bwyllgor, mae’r grŵp cyfan yn rhedeg ei hun, ond bydd angen i chi benderfynu pwy sy’n gofalu am yr arian, a phwy fydd yn gwneud nodiadau mewn cyfarfodydd.
- Cyfarfodydd. Bob blwyddyn, bydd angen i chi gael CCB – Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Gall pawb ddod, a byddwch yn dweud wrth bawb beth mae’r grŵp wedi’i wneud, a faint o arian sydd wedi’i wario. Os oes gennych chi bwyllgor, bydd yr aelodau’n cael eu dewis drwy bleidlais. Ysgrifennwch yn eich cyfansoddiad sut rydych chi eisiau i'r cyfarfodydd gael eu cynnal. A fyddwch chi’n pleidleisio ar benderfyniadau neu’n ceisio “dod i gonsensws” drwy siarad amdano nes bod pawb yn cytuno?
- Cyllid. Mae angen i chi ysgrifennu sut byddwch yn trin arian. Gwnewch yn siŵr bod gennych gyfrif banc ar gyfer y grŵp yn unig. Mae’n well cael tri o bobl a elwir yn “llofnodwyr” sy’n golygu bod dau berson bob amser i gytuno ar daliadau. Bydd angen i chi gadw cofnodion o arian sy’n dod i mewn ac yn mynd allan, a chael datganiad i’w ddangos yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Mae angen i chi hefyd sicrhau, os byddwch yn codi unrhyw arian, mai dim ond ar nodau’r grŵp y caniateir ei wario.
- Newid a therfynu'r cyfansoddiad. Yn eich cyfansoddiad, bydd angen i chi ysgrifennu’r rheolau ynghylch sut gellir newid eich cyfansoddiad, ac a oes angen i chi bleidleisio arno. Hefyd mae angen i chi benderfynu pwy all wneud y penderfyniad i gau’r grŵp, sut gall hynny ddigwydd, a beth sy’n digwydd i unrhyw arian.
Pan fyddwch wedi ysgrifennu eich cyfansoddiad, gofynnwch i bobl eraill ei ddarllen a dweud wrthych beth yw eu barn. Wedyn gofynnwch i bawb yn y grŵp ei ddarllen. Pan fydd pawb yn cytuno ag ef, mae angen o leiaf ddau aelod i'w lofnodi a'i ddyddio. Gwnewch yn siŵr bod gan bawb yn y grŵp gopi.
Am wybodaeth fanylach, edrychwch ar y ddolen yma.


The Wildlife Trusts
Have you been part of a community nature project?
We'd love to hear from you! Your experiences will be shared right here on the Community Hub and will inspire others to take action in their own neighbourhoods.


CC by 4.0 attribution
Except where noted and excluding images, company and organisation logos, this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence.
Please attribute as: “Nextdoor Nature (2022-2024) by The Wildlife Trusts funded by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 40”