Cyrraedd pobl yn eich cymuned
Yn aml mae’n anodd gwybod ble i ddechrau pan fyddwch chi eisiau cael pobl i ymuno â chi i weithredu
Mae angen i chi fynd i ble mae pobl. Fe allwch chi gyrraedd eich cymuned wyneb yn wyneb a thrwy ddefnyddio dulliau eraill fel posteri neu ar-lein.
Dechreuwch gyda phobl rydych chi'n eu hadnabod: siaradwch â theulu, ffrindiau, cymdogion a phobl yn y gwaith. Dywedwch wrthyn nhw beth rydych chi'n ei wneud, oherwydd dydych chi byth yn gwybod i ble y gallai sgwrs arwain.
Fe allwch chi estyn allan at bobl nad ydych chi'n eu hadnabod drwy gnocio ar ddrysau! Er y gall hyn fod yn heriol, mae’n ffordd effeithiol o ledaenu’r gair. Fe fyddwch chi hefyd yn dysgu mwy am eich cymuned leol. Does dim rhaid i chi fynd ar eich pen eich hun.
Y pethau cyntaf i benderfynu yn eu cylch
Beth ydych chi eisiau ei ddweud? – dyma eich neges chi. Er enghraifft, “rydyn ni angen gwirfoddolwyr i gloddio rhandir cymunedol.”
Sut ydych chi eisiau ei ddweud? - dyma'ch tôn chi. Er enghraifft, naws o dynnu coes ac anffurfiol? “Hei! Allwch chi gloddio? Dewch draw i faeddu’ch dwylo ar y rhandir cymunedol!” neu fwy difrifol? “Mae’r argyfwng costau byw yn taro ein hardal leol ni yn galed iawn. Fe allwch chi helpu.”
Ble fyddwch chi'n ei ddweud? - dyma'r agwedd neu'r dull cyflwyno. Posteri, cyhoeddiadau radio, siarad gyda phobl, codau QR dirgel ar bolion lamp. Mae gan bob un o'r dulliau yma fanteision ac anfanteision.
Mae angen i chi wybod y tri pheth allweddol yma - neges, tôn a dull - ac un peth pwysig arall: pwy ydi eich cynulleidfa chi?
Dechreuwch gyda'ch cynulleidfa. Pwy ydych chi eisiau eu cyrraedd? Beth ydych chi eisiau ei ddweud wrthyn nhw?
Byddwch yn benodol a dangos bod gennych chi reswm clir dros fod yn gwneud hyn. Os byddwch yn dweud “Rydw i eisiau codi ymwybyddiaeth fel bod pawb yn gwybod am ein prosiect ni”, mae hynny'n rhy amwys. Pam ydych chi eisiau i bobl wybod am y prosiect? Pa fudd mae hynny yn ei gynnig i chi, neu iddyn nhw? A pham pawb?
Os oes gennych chi randir cymunedol mewn ardal benodol, efallai y byddwch yn penderfynu:
Rydw i eisiau cyrraedd pobl ar incwm isel, yn enwedig teuluoedd ifanc a phobl wedi ymddeol, a’u hannog nhw i ddod i’r rhandir. Rydw i eisiau iddyn nhw ddarganfod sut i dyfu pethau a dechrau tyfu pethau eu hunain. Bydd hyn yn eu helpu nhw i fwydo eu teuluoedd a bydd hefyd yn mynd i'r afael ag ynysu cymdeithasol.
Nawr eich bod chi'n gwybod pwy rydych chi eisiau ei gyrraedd, a beth yw eich neges, fe allwch chi benderfynu sut i'w dweud a ble i'w dweud.
Video Guide: Reaching People in Your Community (https://www.youtube.com/watch?v=FxcR408bH48)
Autumn from Lincoln talks about how to reach out and connect with your community.
Sut a ble i gyfleu eich neges
Mae sut rydych chi'n ei dweud yn bwysig. Peidiwch â defnyddio jargon neu iaith gymhleth. Ystyriwch oes angen i chi ddefnyddio ieithoedd cymunedol neu dreftadaeth lleol sy’n cael eu siarad yn eich ardal.
Byddwch yn bositif. Os byddwch yn dechrau drwy ddweud “mae'r Stryd Fawr yn edrych yn ofnadwy!” byddwch yn digalonni pobl sydd â llawer o falchder lleol. Yn lle hynny, siaradwch am yr hyn y mae posib ei wneud a pha mor wych y bydd yn edrych.
Dyma rai syniadau am ble i roi eich neges:
Digwyddiadau
Os oes gennych chi ddigwyddiad neu gyfarfod rheolaidd neu untro, ewch ar-lein. Defnyddiwch Meetup, digwyddiadau Facebook ac Eventbrite.
Mae digwyddiadau'n golygu y gallwch chi gael cyhoeddusrwydd lleol drwy ddweud wrth y papur lleol a'r orsaf radio. Gwnewch yn siŵr bod eich digwyddiad yn gyfeillgar i deuluoedd ac yn hygyrch.
Ewch ati i gynnal stondin mewn digwyddiadau eraill.
Rhwydweithio gyda grwpiau eraill; mynd i'w cyfarfodydd nhw a siarad am eich prosiect a'ch syniadau.
Os nad oes gennych chi ddigwyddiad untro, gallwch ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yr un fath. Rhowch gynnig ar Natur Drws Nesaf a grwpiau Facebook lleol.
Cynhaliwch ddigwyddiad neu gyfarfod “dewch â ffrind”.
Cyfryngau
Do a newsletter, either printed or by email, and always ask people to share it and send it on to others.
Do guest columns, posts and blogs onlineBusiness cards or leaflets – never be without one, so when someone asks, you can give them information straight away.
If you are in one area, you could put up posters where you are allowed to.
Submit to local directories such as local advert magazines, newspapers, parish magazines – offer content, like “how to garden for wildlife”.
Put a stand or display in public areas such as your library, GP surgery, community hub, warm space, food bank, leisure centre, council offices, churches, mosques and synagogues, and schools and colleges.


The Wildlife Trusts
Have you been part of a community nature project?
We'd love to hear from you! Your experiences will be shared right here on the Community Hub and will inspire others to take action in their own neighbourhoods.


CC by 4.0 attribution
Except where noted and excluding images, company and organisation logos, this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence.
Please attribute as: “Nextdoor Nature (2022-2024) by The Wildlife Trusts funded by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 40”