Popeth am gynghorau ac awdurdodau lleol

Popeth am gynghorau ac awdurdodau lleol

Trosolwg byr o sut mae cynghorau yn gweithio yn y DU.

The Wildlife Trusts

Trosolwg byr o sut mae cynghorau yn gweithio yn y DU.

Beth mae cynghorau ac awdurdodau lleol yn ei wneud? A pham ddylwn i boeni?

Mae angen i chi wybod pwy yw eich cyngor a sut i gysylltu ag ef, oherwydd mae ganddo wybodaeth am barciau, ymylon ffyrdd, mannau cymunedol, cynllunio a mwy.

A short animation to help you understand all about councils in the UK.

Beth mae cynghorau ac awdurdodau lleol yn ei wneud?

Gall “Awdurdod Lleol” olygu unrhyw un o'r gwahanol fathau o gynghorau yn y DU. Mae systemau gwahanol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae gan Ddibynyddion y Goron, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel, eu ffordd eu hunain o weithio hefyd.

Cymru

Yng Nghymru, mae 22 o “brif ardaloedd” neu ardaloedd llywodraeth leol. Gellir galw'r prif ardaloedd hyn yn sir, yn fwrdeistref sirol, neu'n ddinas. Mae’r rhain wedi cael eu rhannu’n fwy na 730 o gynghorau cymuned lleol neu gynghorau tref.

Mae cynghorau yn y prif ardaloedd mwy yn gofalu am ysgolion, gofal cymdeithasol, tai, cynllunio, biniau, a'r dreth gyngor.

Mae’r cynghorau cymuned neu dref llai yn gofalu am neuaddau pentref, caeau chwarae, mannau agored, llochesi bws, goleuadau stryd a llwybrau troed.

Chwiliwch am eich cyngor lleol yng Nghymru drwy roi eich cod post ar y wefan yma.

Lloegr

Mae gan Loegr systemau gwahanol mewn gwahanol leoedd, ac yn aml mae gan y rhain enwau gwahanol. Efallai y byddwch yn gweld “awdurdod lleol” neu “llywodraeth leol etholedig” sy’n golygu “cyngor”.

Rhowch eich cod post ar y wefan yma. Bydd yn dweud wrthych chi pa fath o gyngor rydych yn byw ynddo. Os oes mwy nag un, bydd yn dweud wrthych chi pwy sy'n gwneud beth.

Y cyfan sydd angen i chi ei wybod yw pwy sy'n gwneud beth, a bydd y wefan yn dweud wrthych chi.

Os oes gennych chi ddau gyngor, bydd y cyngor sir mawr yn gofalu am ysgolion, gofal cymdeithasol, llyfrgelloedd, safonau masnach, penderfyniadau cynllunio mawr a thrafnidiaeth. Bydd y cynghorau dosbarth, bwrdeistref neu ddinas llai yn gofalu am sbwriel ac ailgylchu, eich treth gyngor, tai, a cheisiadau cynllunio lleol.

Os oes gennych chi un cyngor, bydd yn delio â phopeth sydd wedi’i restru uchod.

Gall y cynghorau plwyf, cymuned a thref llai helpu gyda materion lleol. Maent yn gofalu am randiroedd, llochesi bws, canolfannau cymunedol, mannau chwarae, a grantiau bach i grwpiau lleol. Maent yn helpu gyda chynllunio ond ni allant wneud penderfyniadau yn ei gylch. Gallant hefyd roi dirwyon am sbwriel, graffiti a throseddau cŵn.

Bydd rhan o’ch cyngor a elwir yn “awdurdod cynllunio lleol”. Maen nhw'n delio â cheisiadau cynllunio am estyniadau ar dai, adeiladu tai newydd, a newidiadau i siopau a busnesau.

Mae eich cyngor yn cyhoeddi cynlluniau sy'n dweud wrth bawb beth mae'r cyngor eisiau ei wneud. Fe fydd “cynllun lleol” sy’n dweud pa ardaloedd all gael tai neu siopau neu fusnesau, a pha ardaloedd nad oes posib adeiladu arnynt. Bydd cynlluniau eraill hefyd, fel ar gyfer tai. Gallwch ddod o hyd iddynt ar wefan eich cyngor.

Gwybodaeth ychwanegol:

Os ydych chi yn Lloegr, y lefel uchaf o bŵer fydd un o’r rhain:

  • sir, sydd wedi'i rhannu'n gynghorau dosbarth, bwrdeistref neu ddinas. Mae 24 o gynghorau sir wedi’u rhannu’n 181 o gynghorau dosbarth, bwrdeistref neu ddinas.
  • awdurdod unedol, a allai fod yn sir ond ni fydd wedi’i rannu’n ddosbarthiadau neu fwrdeistrefi. Mae 59 o gynghorau unedol. Mae unedol yn golygu bod y cyngor yn gwneud popeth.
  • ardal fetropolitan neu fwrdeistref fetropolitan. Mae 36 o fwrdeistrefi metropolitan.
  • neu byddwch yn Llundain Fwyaf, sydd â 32 o fwrdeistrefi ynghyd â Dinas Llundain. Mae tua 9,000 o gynghorau plwyf a thref yn Lloegr. Mae 10 Parc Cenedlaethol. Mewn rhai mannau, mae Awdurdodau Cyfunol lle mae dau gyngor neu fwy yn cydweithio.

Yr Alban

Mae 32 o awdurdodau lleol, sy’n cael eu galw hefyd yn gynghorau, yn yr Alban. Bydd pob awdurdod lleol yn gofalu am ysgolion, gofal cymdeithasol, ffyrdd, trafnidiaeth, tai a chynllunio, diogelu'r amgylchedd, llyfrgelloedd a chasgliadau sbwriel.

Weithiau, mae rhai awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd neu gyda grwpiau eraill, er enghraifft i ddarparu trafnidiaeth ar draws ardal fwy.

Mewn rhai ardaloedd, nid yw’r cyngor yn gweithredu rhai gwasanaethau fel chwaraeon neu reoli eiddo. Yn lle hynny, mae “Sefydliad Allanol Hyd Braich” (ALEO) yn gofalu am y gwasanaeth hwn. Bydd eich cyngor yn dweud wrthych chi os yw hyn yn wir.

Chwiliwch am eich cyngor lleol yn yr Alban drwy roi eich cod post ar y wefan yma.

Gogledd Iwerddon

Mae Gogledd Iwerddon wedi’i rhannu yn 11 “ardal llywodraeth leol” neu LGDs. Gallant gael eu galw'n gyngor bwrdeistref, cyngor dinas neu gyngor dosbarth.

Mae'r LGDs yn gofalu am gynllunio, biniau, canolfannau chwaraeon a hamdden, gwasanaethau cymunedol, rheoli adeiladu, a datblygiad diwylliannol lleol. Fodd bynnag, nid ydynt yn rheoli ysgolion, ffyrdd na thai. Mae'r LGDs yn ysgrifennu cynllun datblygu lleol i ddweud ble gellir adeiladu tai.

Chwiliwch am eich cyngor lleol yng Ngogledd Iwerddon drwy roi eich cod post ar y wefan yma.

 

Ynys Manaw

Nid yw Ynys Manaw yn rhan o’r DU. Mae’n “Ddibyniaeth ar y Goron Brydeinig sy’n hunanlywodraethol”. Mae ganddi ei llywodraeth ei hun sy'n gweithredu’r ynys. Mae ganddi hefyd senedd o'r enw y “Tynwald” sy'n llunio deddfau.

Mae wedi’i rhannu’n 21 awdurdod lleol a all fod yn “awdurdodau tref”, “awdurdodau dosbarth”, “awdurdodau pentref” neu “awdurdodau plwyf.” Maen nhw'n gofalu am finiau, parciau, tai, ymylon ffyrdd, llyfrgelloedd a choed.

Chwiliwch am eich cyngor lleol ar Ynys Manaw drwy roi eich cod post ar y map yma.

 

Ynysoedd y Sianel

Mae Ynysoedd y Sianel wedi’u rhannu’n “Feilïaeth Guernsey” a “Beilïaeth Jersey”, ac nid ydynt yn rhan o’r DU. Fel Ynys Manaw, maen nhw’n “Ddibyniaethau’r Goron” gyda’u llywodraeth eu hunain.

Mae Ymddiriedolaeth Natur leol ar Alderney sy'n rhan o Feilïaeth Guernsey. Mae Alderney yn un plwyf cyflawn. Mae ganddi hefyd ei senedd ei hun, “Taleithiau Alderney”, ac arlywydd. Taleithiau Alderney sy'n gofalu am y rhan fwyaf o'r ynys ac eithrio rhai pethau fel amddiffyn, materion tramor a physgodfeydd, sydd yng ngofal y DU. Fel arall, mae popeth arall yn cael ei reoli gan Daleithiau Alderney. Mae mwy o wybodeth ar gael ar eu gwefan swyddogol.

 

Nextdoor nature - Swansea Nextdoor nature - Swansea

 The Wildlife Trusts 

Have you been part of a community nature project?

We'd love to hear from you! Your experiences will be shared right here on the Community Hub and will inspire others to take action in their own neighbourhoods. 

Share your story

 

 

CC by 4.0 attribution CC by 4.0 attribution

CC by 4.0 attribution

Except where noted and excluding images, company and organisation logos, this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence.

 

Please attribute as: “Nextdoor Nature (2022-2024) by The Wildlife Trusts funded by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 40