Coed y Felin bluebells © NWWT Jonathan Hulson
Taith gerdded clychau'r gog yng Nghoed y Felin
Lleoliad: Gwarchodfa Natur Coed y Felin,
Hendre, Sir Fflint, CH7 5QL
Gwarchodfa Natur Coed y Felin,
Hendre, Sir Fflint, CH7 5QLYmunwch â ni am daith gerdded clychau'r gog y gwanwyn drwy'r coetir hynafol hardd yma
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Cyfle i archwilio’r coetir derw ac ynn hynafol yma, sydd wedi'i blannu â sycamorwydd, ffawydd a chastanwydd pêr, a mwynhau’r arddangosfa drawiadol o bennau clychau'r gog yn amneidio wrth iddyn nhw ddechrau dod i'r golwg.
Fe fyddwn ni hefyd yn chwilio am y gwybedog brith, titwod yr helyg, telor y coed a chwlwm cariad.
Trefnwyd y digwyddiad hyn gan Gangen Wirfoddol Wrecsam o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.