Kenfig National Nature Reserve

Kenfig National Nature Reserve

Kenfig National Nature Reserve, ©Harjit Samra 

Yn ddiweddar ymwelodd Jess Minett, swyddog prosiect Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru ar gyfer De a Chanolbarth Cymru, â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) dynodedig yn Ne Cymru, i weld pa rywogaethau ymledol sy'n bresennol ar y safle a sut maen nhw’n cael eu rheoli.

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig (Cynffig) yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) hardd yn Ne Cymru. Fe wnes i ymweld â Chynffig yn ddiweddar fel swyddog prosiect ar gyfer Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru, i weld sut maent yn mynd i’r afael â rhywogaethau estron ymledol (‘rhywogaethau ymledol’). Mae rhywogaethau ymledol yn rhywogaethau estron sydd wedi'u cyflwyno'n fwriadol neu'n anfwriadol y tu hwnt i'w hamrediad naturiol gan fodau dynol. Mae eu lledaeniad yn bygwth bioamrywiaeth frodorol a gall achosi niwed i'r amgylchedd, yr economi a'n hiechyd.

Mae Cynffig yn gorchuddio tua 1,300 o erwau ac mae'n cynnwys ardal o dwyni tywod a phwll Cynffig, llyn naturiol mwyaf Morgannwg. Mae'r warchodfa'n gartref i lawer o degeirianau anhygoel, a rhywogaethau o adar a phryfed, y mae eu goroesiad yn dibynnu ar y cynefin unigryw yma. Mae Cynffig hefyd yn cynnwys llawer o rywogaethau prin sydd mewn perygl, gyda rhai ohonynt, er enghraifft Murwyll Arfor (Matthiola sinuata), ond i’w gweld mewn ychydig o lefydd yn y DU!

Sea Stock found on Kenfig National Nature Reserve

Sea stock, Matthiola sinuata, found at Kenfig National Nature Reserve. ©Jess Minett

Mae’r warchodfa’n cael ei rheoli ar hyn o bryd gan Ymddiriedolaeth Corfforaeth Cynffig, gyda'r nod o warchod yr amrywiaeth gyfoethog o gynefinoedd a bywyd gwyllt sydd i’w gweld yno.

Mae rhywogaethau ymledol yn bygwth integriti ecosystemau syfrdanol, ond bregus, y warchodfa. Dyma pam ei bod yn bwysig iawn rheoli unrhyw rywogaethau ymledol yn y warchodfa ac atal unrhyw gyflwyno pellach. Ar hyn o bryd mae nifer o blanhigion ymledol i'w gweld yn y warchodfa neu'n agos ati: pidyn-y-gog Americanaidd (Lysichiton americanus), ffromlys chwarennog (Impatiens glandulifera), canclwm Japan (Reynoutria japonica), rhosod Japan (Rosa rugosa), rhywogaethau o Greigafal, a rhafnwydd y môr (Hippophae rhamnoides). Mae'r poblogaethau hyn yn cael eu monitro'n barhaus ac mae mesurau'n cael eu rhoi ar waith gyda help gwirfoddolwyr i reoli a symud y rhywogaethau.

Two patches of cotoneaster currently undergoing control treatment with the aim of removal, treatment funded through Sands of LIFE project. ©Jess Minett

Two patches of cotoneaster currently undergoing control treatment with the aim of removal, treatment funded through Sands of LIFE project. ©Jess Minett

 

Mae arferion bioddiogelwch da yn hanfodol i atal unrhyw rywogaethau ymledol rhag cael eu cyflwyno neu ledaenu. Mae'n hanfodol nad ydych chi'n dod ag unrhyw rywogaeth i'r warchodfa ar ddamwain, sy'n hawdd ei atal drwy wirio bod eich holl ddillad a'ch esgidiau'n lân ac yn sych. I gael mwy o wybodaeth am arfer bioddiogelwch da edrychwch ar yr ymgyrch Gwirio, Glanhau, Sychu! Gallwch gael gwybod mwy am y bywyd gwyllt a’r cynefinoedd sydd yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig a chymryd rhan yn y gwaith o reoli’r rhywogaethau ymledol gyda ‘Dyddiau Mercher Bywyd Gwyllt’ a ‘Dyddiau Iau Ymarferol’ sy’n cael eu cynnal rhwng 10am a 3pm bob wythnos!

Mae WaREN yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â’r rhywogaethau ymledol yng Nghymru, gallwch gael gwybod mwy drwy edrych ar dudalen ein prosiect.