Addunedau Blwyddyn Newydd: gadewch i ni fynd i’r afael â rhywogaethau ymledol gyda’n gilydd!

Addunedau Blwyddyn Newydd: gadewch i ni fynd i’r afael â rhywogaethau ymledol gyda’n gilydd!

WildNet - Amy Lewis

Yma rydym yn awgrymu dwy adduned Blwyddyn Newydd hawdd i helpu i fynd i’r afael â rhywogaethau ymledol a gwarchod bioamrywiaeth yng Nghymru.

Ystyriwch adduned Blwyddyn Newydd ychydig yn wahanol eleni drwy roi amgylchedd, economi ac iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn gyntaf!

Efallai eich bod chi'n meddwl “wel, sut alla’ i helpu?”. Rydym yn awyddus i ddangos i chi y gall fod yn hawdd iawn gwneud newidiadau bach i gefnogi ein hamgylchedd lleol. Drwy fynd i’r afael ag un mater pwysig, gallwn wneud newidiadau cadarnhaol sylweddol. Gellir cyflawni hyn i gyd drwy fynd i'r afael â rhywogaethau anfrodorol ymledol (rhywogaethau ymledol) yng Nghymru.

Mae rhywogaethau ymledol wedi cael eu cyflwyno gan fodau dynol, yn fwriadol neu'n anfwriadol, y tu hwnt i'w hystod naturiol. Mae eu lledaeniad yn bygwth amrywiaeth fiolegol frodorol a gall achosi niwed i'r amgylchedd, yr economi, ein hiechyd a'r ffordd rydyn ni'n byw. 

Mae'r byd wedi bod yn trafod yr argyfwng hinsawdd yn COP26 yn Glasgow yn ddiweddar. Oeddech chi'n gwybod bod argyfwng bioamrywiaeth yn bodoli hefyd? Newid yn yr hinsawdd yw un o brif sbardunau newidiadau ym myd natur, fel colli bioamrywiaeth, ond rhywogaethau ymledol hefyd yn sbardun!

Pum prif sbardun newid byd-eang mewn byd natur gan gynnwys rhywogaethau ymledol ('invasion of alien species'). - ©IPBES (2021)

Pum prif sbardun newid byd-eang mewn byd natur gan gynnwys rhywogaethau ymledol ('invasion of alien species'). - ©IPBES (2021)

Mae gan Brydain Fawr fwy na 190 o rywogaethau ymledol, ac mae llawer ohonynt yn bygwth ein bioamrywiaeth frodorol, yn effeithio ar ein hiechyd ac yn costio mwy na £125 miliwn y flwyddyn i economi Cymru.

Mae hyn yn gadael cwestiwn heb ei ateb i ni o hyd: “sut alla’ i helpu?”. Mae hyn yn syml mewn gwirionedd, ac rydym yn eich gwahodd i wneud adduned Blwyddyn Newydd ychydig yn wahanol eleni, fel:

  • Byddaf yn helpu i fynd i'r afael â rhywogaethau ymledol yng Nghymru.
  • Byddaf yn fwy ymwybodol o fioddiogelwch (edrychwch isod).

Mae sawl ffordd y gallwch chi fynd i'r afael â'r ddwy adduned yma yn hawdd, heb wneud newidiadau sylweddol i'ch ffordd o fyw.

I ddechrau, lledaenwch y gair. Mae llawer o bobl yn ymwybodol o risgiau newid yn yr hinsawdd, newidiadau mewn defnydd tir (e.e. datgoedwigo) a llygredd; ond mae llai o bobl yn deall y risgiau y mae rhywogaethau ymledol yn eu hachosi. Dechreuwch sgwrs am rywogaethau ymledol.

Nesaf, ceisiwch gymryd rhan gyda Grŵp Gweithredu Lleol sy'n delio â rhywogaethau ymledol. Cysylltwch ag un o swyddogion prosiect Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru (WaREN) os na allwch ddod o hyd i grŵp yn eich ardal chi, neu i gael gwybod a oes cyfleoedd eraill i gymryd rhan.

Yn olaf, dechreuwch feddwl am fioddiogelwch a deall ei bwysigrwydd.

Mae bioddiogelwch yn ymwneud â lleihau’r risg o gyflwyno neu ledaenu rhywogaethau anfrodorol ymledol (ac organebau niweidiol eraill fel afiechydon) yn y gwyllt. 

– GBNNSS

Gall ymarfer bioddiogelwch fod mor syml â brwsio'ch esgidiau ar ôl taith gerdded fwdlyd, neu ddulliau mwy ymroddedig fel Gwirio, Glanhau a Sychu.

Ymarfer bioddiogelwch: defnyddio chwistrellwr cludadwy i lanhau esgidiau ar ôl taith gerdded fwdlyd.

Ymarfer bioddiogelwch: defnyddio chwistrellwr cludadwy i lanhau esgidiau ar ôl taith gerdded fwdlyd. © Max Jones (2021)

Mae'r ddwy adduned yma’n enghraifft o sut gallwch chi wneud newidiadau bach i wneud gwahaniaeth MAWR i ddiogelu ein bioamrywiaeth leol. Pa un fyddwch chi'n ei ddewis?

Rydym yn edrych ymlaen at eich helpu i wireddu eich adduned Blwyddyn Newydd gyda'n hymgyrch rhywogaethau ymledol yn 2022. Byddwn yn ymgysylltu â phobl ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth o rywogaethau ymledol. Cadwch lygad am ddiweddariadau ar dudalen we WaREN.

Nadolig Llawen i chi i gyd a Blwyddyn Newydd hapus iawn, gan dîm WaREN!

Adnoddau: