Adborth holiadur WaREN

Adborth holiadur WaREN

Jon Hawkins, Surrey Hills Photography

Mae prosiect Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru (WaREN) wedi cyffroi am gael rhoi adborth ar ganlyniadau ein holiadur. Buom yn gofyn i grwpiau rhanddeiliaid ledled Cymru sut maent yn mynd i’r afael â rhywogaethau ymledol a beth yn eu barn hwy yw’r rhwystrau presennol i lwyddiant.

Yn ystod gaeaf 2020/2021 bu rhanddeiliaid gan gynnwys Grwpiau Gweithredu Lleol o bob cwr o Gymru yn cymryd rhan mewn holiadur ynghylch sut maent yn mynd i'r afael â rhywogaethau estron ymledol (rhywogaethau ymledol). Yma rydym yn rhannu crynodeb o'r canfyddiadau, a sut mae'r atebion yn dylanwadu ar brosiect Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru (WaREN). Gallwch hefyd wylio ein gweminar isod i gael gwybod mwy. Cysylltwch â ni i ymuno â'n Rhwydwaith neu os ydych chi'n ymwneud â gwaith gyda rhywogaethau ymledol yng Nghymru!

Cymerodd cyfanswm o 87 ran yn yr holiadur a gynhaliwyd gan gydweithwyr o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru. Isod mae crynodeb o'r canlyniadau.

Sut mae eich grŵp / awdurdod lleol yn mynd i'r afael â rhywogaethau ymledol?

  • Mae 45 o rywogaethau, tacson neu 'grŵp pryder' yn cael eu rheoli yng Nghymru: 23 rhywogaeth ar y tir, 15 dŵr croyw a 9 rhywogaeth forol (edrychwch isod).
  • Mae ffromlys chwarennog (Impatiens glandulifera) a chanclwm Japan (Reynoutria japonica) yn cael eu rheoli gan fwy o randdeiliaid nag unrhyw rywogaethau ymledol eraill yr adroddir amdanynt.
  • Mae 10 mesur rheoli gwahanol yn cael eu defnyddio i reoli rhywogaethau ymledol, rheolaeth gemegol a mecanyddol yn bennaf. 
Species, taxa or ‘groups of concern’ managed by stakeholders (Local Action Groups and local authorities) in Wales, as identified by the WaREN I survey

Species, taxa or ‘groups of concern’ managed by stakeholders (Local Action Groups and local authorities) in Wales, as identified by the WaREN I survey (©WaREN)

Beth yw’r prif fylchau a rhwystrau?

Gwybodaeth

Diffyg gwybodaeth wrth adnabod rhywogaethau ymledol, mesurau rheoli effeithiol, ac ymhlith contractwyr. Gall hyn gael sgil-effaith ar gofnodi a rheoli rhywogaethau ymledol ac mae'n tueddu i fod oherwydd nad yw cyngor bob amser yn hawdd dod o hyd iddo neu gael mynediad ato, a gall fod yn groes o ffynhonnell i ffynhonnell.

Cyfathrebu a chefnogaeth

Diffyg cyfathrebu a chefnogaeth rhwng arbenigwyr, y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a chontractwyr. Nid yw llawer o randdeiliaid yn rhannu eu data â chronfeydd data rhanbarthol neu genedlaethol, gan gyfyngu ar ein dealltwriaeth o ledaeniad rhywogaethau ymledol a sut i’w rheoli.

Nid oedd dros hanner y grwpiau gweithredu lleol a arolygwyd wedi rhannu eu data

 

Er bod rhanddeiliaid yn ymwybodol ar y cyfan o bolisi Llywodraeth Cymru, nododd 52% ei fod naill ai'n anaddas i'r pwrpas neu na allent ddod o hyd iddo ar-lein.

Dim digon o gefnogaeth gyfreithiol na chefnogaeth gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar lefel uwch. Dyma un o'r prif resymau pam nad oedd gan 40% o awdurdodau lleol strategaeth rhywogaethau ymledol.

Nododd traean o’r grwpiau gweithredu lleol hefyd eu bod eisiau mwy o gefnogaeth

 

Cyllid

Mae cyllid hefyd yn rhwystr gan nad yw effeithiau rhywogaethau ymledol yn cael eu cydnabod yn nodweddiadol mewn ffrydiau cyllido. Mae prosiectau sy'n cael eu hariannu wedi'u cyfyngu fel rheol i amserlen fer. Gall hyn fod yn broblemus iawn gan fod ymdrechion i fynd i'r afael â rhywogaethau ymledol yn aml yn gofyn am bersbectif tymor hir. Er enghraifft, gall gymryd 3 i 4 blynedd o reolaeth i ddileu ffromlys chwarennog yn llwyddiannus.

River bank completely covered in Himalayan balsam

River bank completely covered in Himalayan balsam © GBINNS

Beth yw’r prif gyfleoedd?

Nododd yr arolwg lawer o gyfleoedd hefyd i reoli rhywogaethau ymledol. Er enghraifft, gwnaeth Grwpiau Gweithredu Lleol ledled Cymru gais am gyllid gwerth rhwng £300 ac £1.5 miliwn, ac mae rhai llwybrau'n cynnig cyllid o bum mlynedd neu fwy gan gyflwyno amserlen fwy realistig ar gyfer rheoli rhywogaethau ymledol.

Roedd gan 95% o’r grwpiau ddiddordeb mewn unrhyw hyfforddiant y gallai WaREN ei ddarparu

 

Roedd gan fwyafrif y rhanddeiliaid ddiddordeb mewn hyfforddiant WaREN ac roeddent yn gwybod am randdeiliaid eraill, neu wedi ymgysylltu â hwy o'r blaen. Mae'r cyfathrebu a'r cydweithredu hwn yn addawol iawn, a dylai helpu i fabwysiadu dull ffynhonnell-i'r-môr o fynd i'r afael â rhywogaethau ymledol ledled Cymru.

Sut bydd WaREN II yn rhoi sylw i’r Bylchau, y Rhwystrau a’r Cyfleoedd hyn?

Rydym nawr yn mynd i’r afael â’r Bylchau, y Rhwystrau a’r Cyfleoedd hyn drwy gyflwyno prosiect WaREN II ledled Cymru, gallwch gael gwybod mwy ar ein tudalen we. Mae hwn yn brosiect uchelgeisiol, ond mae rhai o'n hamcanion yn cynnwys y canlynol:

  • Pecyn adnoddau ar-lein: canllawiau adnabod, rheoli arfer gorau, bioddiogelwch a gwybodaeth am ddeddfwriaeth.
  • Porthol ar-lein: rhyngwyneb i roi gwybod am weld rhywogaethau ymledol a chamau gweithredu i reoli.
  • Ymgyrch Rhywogaethau Ymledol yn 2022: codi ymwybyddiaeth o broblemau rhywogaethau ymledol ar draws Gymru.
  • Cefnogi ffurfio Grwpiau Gweithredu Lleol ledled Cymru, a chydweithredu rhyngddynt.

Gallwch gael gwybod mwy am ganlyniadau holiadur rhanddeiliaid WaREN I yn ein hadroddiad y mae posib ei lawrlwytho ac os ydych chi'n ymwneud â gwaith gyda rhywogaethau ymledol yng Nghymru, cysylltwch â ni!

The Wales Resilient Ecological Network (WaREN) stakeholder feedback webinar. ©WaREN