Teyrnas gudd: canllaw i ffyngau i ddechreuwyr

Teyrnas gudd: canllaw i ffyngau i ddechreuwyr

Yellow club fungus - Ed Marshall

Darganfod chynghorion am ffyngau i ddechreuwyr – a rhai ffeithiau annisgwyl am ffyngau na fyddwch chi byth yn eu hanghofio!

Camwch i mewn i goetir llaith yn yr hydref ar ôl glaw ac fe ddaw'r ddaear yn fyw. Mae parasolau blewog yn gwthio drwy sbwriel dail, mae ffyngau ysgwydd yn dringo boncyffion coed fel silffoedd, ac mae ffyngau nythod adar bach iawn yn dal eu "hwyau" sborau mewn cwpanau bach. 

Un o bleserau’r astudiaeth o ffyngau, sef mycoleg, yw'r her o adnabod yr holl siapiau a ffurfiau rhyfeddol sydd i ffyngau. Roedd yr awdures Fictoraidd, Beatrix Potter, yn fycolegydd arloesol, yn astudio ffyngau o dan y microsgop ac yn cynhyrchu darluniau coeth i gofnodi eu nodweddion.

Gyda miloedd o rywogaethau yn y DU, mae mycolegwyr profiadol hyd yn oed yn dal i ddysgu. Mae hyn yn creu amgylchedd eithriadol gefnogol, lle mae disgwyl camgymeriadau a phawb yn dysgu o ganlyniad iddyn nhw. 

O wyrdd tywynnol y cap cennog blewog biofflwroleuol i godennau mwg sy’n rhyddhau biliynau o sborau mewn cwmwl myglyd, mae ffyngau ymhlith y ffurfiau bywyd mwyaf rhyfeddol ar y Ddaear ac maen nhw o'n cwmpas ni i gyd, unwaith y byddwch chi'n dysgu ble i edrych.

Beth yw ffyngau?

Nid planhigion yw ffyngau, maen nhw’n perthyn i'w teyrnas eu hunain ac, mewn gwirionedd, maen nhw’n perthyn yn agosach i anifeiliaid. Yn y DU, mae gwyddonwyr wedi adnabod mwy na 15,000 o rywogaethau, ac mae llai na thraean ohonyn nhw’n cynhyrchu cyrff ffrwytho gweladwy fel madarch, codennau mwg a ffyngau ysgwydd.

Gall un goden fwg enfawr (Calvatia gigantea) ryddhau cyfanswm syfrdanol o saith triliwn o sborau i'r aer. Eto dim ond blaen y ffwng yw'r corff ffrwytho gweladwy. Mae'r rhan fwyaf o'r ffwng wedi'i guddio o dan y ddaear neu yn ei ffynhonnell o fwyd: rhwydwaith o edefion mân o'r enw myseliwm, sy’n gallu tyfu drwy bridd, pren, blawd neu hyd yn oed danwydd jetiau. (Mae'r ffwng cerosin fel mae’n cael ei alw’n ffynnu mewn tanciau tanwydd awyrennau, felly mae cyfrwng gwrthffyngaidd yn cael ei ychwanegu at y tanc, i'w atal rhag tagu’r injian!)

Mae rhai ffyngau’n gyffredin ac yn hyblyg ond mae eraill yn arbenigol a ffyslyd. Mae'r ffwng crawen dyllog (Schizophyllum commune), er enghraifft, yn gyffredin gan ei fod yn tyfu ar amrywiaeth enfawr o bren marw o goed llydanddail ledled y byd a dyma'r ffwng mwyaf cyffredin ar y Ddaear. Mae ganddo hefyd fwy na 28,000 o rywiau gwahanol, sy'n ein hatgoffa ni bod perthnasoedd ffyngau yr un mor gymhleth â rhai dynol.


Ble a phryd i ddod o hyd i ffyngau 

Gallwch ddod o hyd i ffyngau ar unrhyw adeg o'r flwyddyn, ond y tymhorau gorau yw'r gwanwyn a'r hydref, pan fydd cynhesrwydd a lleithder yn dod â’r cyrff ffrwytho’n fyw. Gwybod ble i edrych yw hanner yr hwyl. Yn y DU, y ddau brif gynefin yw glaswelltir a choetir. 

Gall gwybod ar beth mae ffwng yn tyfu helpu i leihau’r posibiliadau. Ond weithiau mae'n anodd dweud a yw'r myseliwm yn bwydo ar fwsogl, brigyn wedi'i gladdu, neu'r pridd o'i amgylch. Ond drwy ymarfer, fe welwch chi fod ffyngau nyth aderyn (Nidulariaceae) yn ymddangos ar naddion pren yn aml, a bod ffyngau clustiau’r ysgaw (Auricularia auricula-judae) yn tyfu ar goed ysgaw yn bennaf.

Yn anffodus, mae ffyngau’n diflannu o ardaloedd trefol a thir amaethyddol sy’n cael ei reoli’n ddwys, lle mae’r priddoedd yn angharedig yn aml i fywyd ffyngaidd. Fodd bynnag, mae ffyngau’n ymddangos hefyd yn y llefydd mwyaf annisgwyl. Mae cloron yr anialwch (rhywogaethau Terfezia) yn tyfu mewn tywod, mae sawl rhywogaeth o ffwng wedi'u canfod yn byw y tu allan i orsafoedd gofod, ac mae burum sy'n hoff o ymbelydredd (Cryptococcus neoformans) wedi cael ei ddarganfod yn ffynnu yn Chernobyl.

Siapiau, arogleuon a gweadau

O ran adnabod, pur anaml y bydd y lliw yn ddibynadwy, ac eithrio efallai wrth adnabod y caws llyffant mwyaf adnabyddus, sef amanita’r gwybed (Amanita muscaria) neu'r cap cennog blewog llai adnabyddus (Pholiota squarrosa), sy'n tywynnu'n wyrdd llachar o dan olau uwchfioled. Ar gyfer y rhan fwyaf o ffyngau, mae eu siâp yn well cliw: o fadarch cap a choesyn clasurol i gingroen o bob math, trwmpedi, cwpanau, pastynau, codennau mwg ac ysgwyddau.

Mae gwead ac arogl yn ddefnyddiol hefyd. A yw'n llithrig, yn gwyraidd, yn gennog neu'n brennaidd? A yw'n arogli o ruddygl, tatws, cannydd neu gnau coco, mêl neu inc efallai? Mae’n amlwg beth yw ambell ffwng unwaith y byddwch chi'n clywed ei arogl.

 

Dysgu mwy

Mae ffyngau’n ailgylchwyr nodedig yn y byd naturiol, ond maen nhw hefyd yn ysbrydoli arloesi dynol. Mae wystrysen y coed (Pleurotus ostreatus) yn cael ei defnyddio bellach i dyfu pecynnau ac inswleiddiad cynaliadwy, ac mae ffyngau eraill yn dangos addewid wrth ddadelfennu plastigau.

Y ffordd orau o ddechrau ar eich siwrnai ffyngau eich hun yw allan ym myd natur. Ymunwch â helfa, taith gerdded neu weithdy ffyngau gan Ymddiriedolaeth Natur a darganfod y trysorau cudd yma drosoch chi’ch hun. Darganfod ein dewisiadau gorau yng Ngogledd Cymru.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn darllen mwy am ffyngau, mae From Another Kingdom: The Amazing World of Fungi, sydd wedi'i olygu gan Lynne Boddy a Max Coleman, yn fan cychwyn gwych.

Blog gwadd wedi'i ysgrifennu gan: Mae'r mycolegydd Ellen Winter o Ymddiriedolaeth Natur Swydd Gaerloyw