Lliwiau'r gaeaf

Lliwiau'r gaeaf

©Mark Hamblin/2020VISION

Mae'r gaeaf yn dod â nosweithiau hir a dyddiau tywyll, ond mae palet byd natur mor llachar ag erioed.

Pa liwiau ydych chi'n eu cysylltu â'r gaeaf? Yr atebion amlwg yw gwyn, sef yr haenen achlysurol o eira; neu lwyd, am y dyddiau byr, glawog hynny. Ond mae'r gaeaf yn llawn hyfrydwch llachar. Os edrychwn ni’n ofalus ar fyd natur, mae lliwiau anhygoel i'w canfod, hyd yn oed ar y dyddiau mwyaf cymylog.

Gwyrdd dibynadwy
Er bod llawer o'r coed gwyllt o'n cwmpas ni’n rhai collddail ac wedi colli eu dail, mae rhai sy'n aros yn wyrdd drwy gydol y flwyddyn. Mae gan y DU bum rhywogaeth frodorol o goed bytholwyrdd, yn tyfu'n wyllt ond hefyd yn cael eu plannu yn aml mewn parciau a gerddi.

Mae pinwydden yr Alban, gyda'i nodwyddau main a'i moch coed cyfarwydd, yn tyfu'n frodorol yn yr Alban ac wedi cael ei phlannu ledled y DU ar gyfer pren. Mae’r ywen yn tyfu mewn mynwentydd yn aml a gall fyw am filoedd o flynyddoedd. Mae dail gwyrdd tywyll ac aeron coch y gelynnen wedi'i gwneud yn addurn Nadoligaidd poblogaidd. Efallai mai am docwaith mewn gerddi mae pren bocs fwyaf adnabyddus, ond mae hefyd yn tyfu'n wyllt ar lethrau bryniau yn ne Lloegr. Yn olaf mae’r ferywen, un o'r coed cyntaf i sefydlu yn y DU ar ôl yr Oes Iâ ddiwethaf, sy’n cael ei defnyddio bellach i roi blas ar jin.

Os ydych chi'n archwilio coetir, rhostir, mynwent, parc neu ardd hyd yn oed efallai, mae'n debygol y bydd coed bytholwyrdd yn ychwanegu ychydig o liw at y dirwedd.

Holly

Holly © Ross Hoddinott/2020VISION

Adenydd amryliw
Adar yw'r creaduriaid amlycaf yn y gaeaf yn aml. Maen nhw’n ymweld â theclynnau bwydo yn ein gerddi ni, yn heidio ar lynnoedd ac yn pluo aeron oddi ar lwyni. Mae llawer ohonyn nhw’n cyfrannu fflach o liw sydd i’w groesawu. Mae'r robin goch yn ffefryn cyfarwydd; mae ei 'fron goch' (sy’n fwy oren mewn gwirionedd) lachar yn goleuo parc neu ardd yn aml ar ddiwrnod sy’n ddiflas fel arall. Mae'r titw tomos las yn fwy lliwgar fyth, gyda’i fol melyn llachar fel yr haul a chorun, cynffon ac adenydd mor las ag unrhyw fôr. Maen nhw’n olygfa mor gyffredin fel ei bod yn hawdd anghofio pa mor drawiadol ydyn nhw.

I'r rhan fwyaf ohonom ni, nid yw’r pila gwyrdd yn olygfa mor gyffredin - ond mae’n werth cadw llygad amdano. Mae'r llinosiaid cain yma’n teithio mewn heidiau, gan symud yn aflonydd o goeden i goeden. Maen nhw’n ffafrio coed pinwydd, bedw a gwerni, ond byddant yn ymweld hefyd â theclynnau bwydo adar, yn enwedig yn y gaeaf. Mae gan y benywod harddwch cynnil, ond mae'r gwrywod yn llachar iawn, ffrwydrad o felyn llachar a gwyrdd yng nghanol y canghennau noeth.

A male siskin perched on a snow covered branch

Siskin © Fergus Gill/2020VISION

Mae rhai o'r lliwiau mwyaf ysblennydd i'w cael ar yr hwyaid sy'n plymio, ond y rhan fwyaf o'r amser maen nhw’n eu cadw'n gudd. Mae ganddyn nhw ddarn o blu ar eu hadain o'r enw sbecwlwm. Fel rheol mae wedi'i orchuddio tra maen nhw’n nofio neu'n pendwmpian, a dim ond pan maen nhw’n lledu eu hadenydd mae eu gwir harddwch yn cael ei ddatgelu.

Mae'r sbecwlwm yn wahanol ym mhob rhywogaeth, ond yn aml mae'n llachar ac yn disgleirio'n symudliw. Efallai bod yr enghreifftiau gorau’n perthyn i’r gorhwyaden a'r hwyaden wyllt wylaidd. Mae gan gorhwyaid ddarn o wyrdd cwbl odidog ac mae posib gweld tamaid main ohono ar y benywod wrth iddyn nhw nofio. Mae gan hwyaid gwyllt las llachar sy'n cystadlu â disgleirdeb pen gwyrdd llachar y gwryw.

A male mallard spreading its wings, showing the bright blue feathers of its speculum

Mallard © Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

Gweithiau celf bach
Dim ond drwy edrych yn fanwl welwch chi rai o liwiau’r gaeaf yn dod i’r golwg. Mae ffyngau’n cuddio yn aml yng nghanol sbwriel dail, neu'n edrych yn llai o faint wrth ymyl y coed maen nhw’n tyfu arnyn nhw. Treuliwch ychydig o amser yn chwilio am foncyffion a changhennau sydd wedi cwympo a chewch eich gwobrwyo gyda darganfyddiadau lliwgar rhyfeddol.

I lawer o ffyngau, mae eu henw'n datgelu eu natur liwgar. Mae'r cwpan robin goch yn bowlen goch lachar sy’n tyfu mewn clystyrau ar ganghennau sy'n pydru. Mae ymennydd yr eithin yn jeli lemonaidd llachar sydd i’w ganfod ar bren sy'n pydru - er nad yw'n bwydo ar y pren ei hun, ond ar ffwng arall sy'n tyfu arno. Mae gan y corn carw melyn fwy o strwythur, gan godi mewn canghennau llachar, tebyg i gyrn carw o foncyffion a gwreiddiau conwydd.

A jelly-like patch of yellow brain fungus growing on a branch, with blue sky in the background

Yellow brain fungus © Tom Hibbert

Mae eraill fymryn yn fwy cynnil. Mae rhai esiamplau o gynffon twrci’n oren llachar ac mae eraill yn dywyllach a gallant ymddangos yn ddi-liw bron o bell. Ond wrth i chi edrych yn fanylach, maen nhw’n edrych yn llawer mwy cyfareddol. Mae'r disgiau tywyll sy'n amgylchynu boncyff y goeden wedi'u ffurfio o gylchoedd consentrig, rhubanau melfedaidd o oren, coch, glas a brown.

Ychwanegwch wyrdd bywiog y mwsoglau a melyn llachar y cennau ac mae gennych chi dapestri llawn o liwiau'r gaeaf, tirweddau wedi'u paentio'n feistrolgar ar raddfa fechan.

Turkeytail fungus growing on a branch, creating a disc of concenric rings of various shades of blue, brown and red

Turkeytail © Vaughn Matthews

Dim ond sampl fechan o hyfrydwch lliwgar y gaeaf ydi’r rhain. Beth am i chi godi allan a gweld faint o liwiau allwch chi eu gweld ym myd natur?