Mae pobl ifanc o bob cwr o Gymru wedi bod yn ymgyrchu dros leihau'r defnydd o blaladdwyr sy'n lladd gwenyn mewn gerddi a chartrefi. Darllenwch am yr hyn maen nhw wedi bod yn ei wneud i weithredu newid er lles bywyd gwyllt.
Pobl ifanc yn ymgyrchu dros fyd natur gydag Addewid i Beidio â Defnyddio Plaladdwyr!
Yn ôl ym mis Ebrill 2023, fe wnaeth cyfranogwyr prosiect ieuenctid Sefyll Dros Natur Cymru gyfarfod i drafod syniadau ar gyfer ymgyrch. Roedden ni’n gobeithio cyflawni rhai o'r nodau sydd wedi’u rhestru yn ein maniffesto ieuenctid ni, a fyddai'n ysbrydoli newid ar lefel leol a chenedlaethol.
Fe gynhaliwyd ein cyfarfod cyntaf ni yng Nghwm Elan ym Mhowys lle gwnaethon ni benderfynu y byddai targedu defnydd o blaladdwyr domestig yn ein helpu ni i gyflawni llawer o'n hamcanion. Roedd y rhain yn cynnwys gwyrdroi colli bioamrywiaeth drwy leihau’r dirywiad mewn pryfed lle’r oedd hynny’n bosib, annog effeithiau cadarnhaol ar fyd natur gartref drwy newid agweddau'r cyhoedd, a lleihau'r defnydd o blaladdwyr erbyn 2030 drwy weithredu'n uniongyrchol. Fe arweiniodd hyn at greu'r ymgyrch 'Addewid i Beidio â Defnyddio Plaladdwyr'!
Yn ystod y misoedd dilynol, fe wnaethon ni gynllunio ein hymgyrch drwy gyfres o gyfarfodydd ar-lein lle roedden ni’n gallu ffurfio cynllun cydlynol gyda’n holl grwpiau ieuenctid gwahanol ledled Cymru, o Ynys Môn i Gaerdydd! Ein nod ni oedd creu casgliad o adnoddau digidol defnyddiol i ddarparu’r wybodaeth yr oedd ei hangen ar bobl i ymrwymo i leihau’r defnydd o blaladdwyr, i estyn allan at gymunedau drwy ddigwyddiadau cyhoeddus, ac i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i helpu ein neges ni i gyrraedd cynulleidfa ehangach.
Fe wnaethon ni ofyn i bobl yn ein cymunedau ni wneud yr addewid canlynol i leihau eu defnydd o blaladdwyr:
- Defnyddio dewisiadau eraill heb wenwyn yn lle plaladdwyr yn eich gardd, ar eich balconi, neu yn eich bocs ffenest.
- Newid y ffordd rydych chi’n trin eich anifeiliaid anwes gyda thriniaethau chwain i osgoi rhyddhau’r cemegau i’r amgylchedd.
- Rhannu’r addewid gydag eraill yn eich cymuned a dathlu’r ffaith nad ydych chi’n defnyddio plaladdwyr yn eich cartref!
Pledge to go Pesticide Free video (https://youtu.be/o7FVv0_gIsY)
Pledge to go Pesticide Free © Wildlife Trusts Wales
Fe dynnodd ein hymgyrch ni sylw Dŵr Cymru a gefnogodd ein neges bod plaladdwyr yn broblem gynyddol yn ein dyfrffyrdd a bod ychydig o newidiadau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.
Yng Ngogledd Cymru, fe ymunodd ein fforwm ieuenctid ni, Môn Gwyrdd, â’i gilydd i drafod eu pryderon am effeithiau plaladdwyr ar fywyd gwyllt. Fe wnaethon ni gasgliad o bosteri a ddefnyddiwyd ar gyfer digwyddiadau pop-yp lle roedden ni’n gallu trafod ein hymgyrch gydag aelodau'r cyhoedd a gwleidyddion hyd yn oed.
““Fy hoff ran i o’r ymgyrch oedd ein syniad ni i ‘fabwysiadu bom hadau’ wedi’i gwneud gan bobl ifanc o Ynys Môn a Gwynedd. Nod y syniad yma oedd annog pobl i lofnodi’r addewid i beidio â defnyddio plaladdwyr a thyfu blodau gwyllt brodorol, heb blaladdwyr gartref.”
Fe arweiniodd yr holl ymdrechion yma at daith i’r Senedd lle cawson ni gyflwyno ein maniffesto i wleidyddion a thrafod ein pryderon am fyd natur cyn COP16.
Campaigning for change at the Senedd (https://youtu.be/1-ImiQK9Se8)
Stand for Nature Wales at the Senedd (COP16) © Wildlife Trusts Wales