30 Diwrnod Gwyllt

30 Days Wild CYM banner

Oedwch am ennyd a sylwi ar fyd natur ym mis Mehefin


Mae mis Mehefin yn teimlo'n wahanol. Mae'r golau'n oedi. Mae gwenyn yn suo o amgylch gerddi. Mae gwenoliaid duon yn hedfan uwchben. Mae blodau gwyllt yn gwthio drwy graciau yn y palmant. Ac rydyn ni'n eich gwahodd chi i sylwi ar y cyfan!

30 Diwrnod Gwyllt yw her natur fwyaf y DU. Ym mis Mehefin, dewiswch un peth gwyllt y dydd (neu ychydig bob wythnos) - o roi help llaw i fyd natur i sylwi ar bethau gwyllt ar garreg eich drws. 

Cofrestrwch heddiw i dderbyn eich adnoddau am ddim yn y post ac ar e-bost. Ymunwch â miloedd o bobl sy'n cysylltu â byd natur, yn teimlo'n well ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fyd natur.

Cofrestrwch ar gyfer 30 Diwrnod Gwyllt

Os ydych chi'n byw yng nghanol dinas brysur neu yng nghefn gwlad, mae posib dod o hyd i fywyd gwyllt ym mhobman os byddwch chi'n treulio eiliad yn chwilio amdano. 

O blannu blodau gwyllt ar gyfer gwenyn, i wrando ar gân adar neu adael i gornel o'ch gardd dyfu ychydig yn wylltach, mae ffyrdd diddiwedd i chi dreulio eich mis gwyllt.

#sign

Cofrestrwch heddiw i gymryd rhan yn 30 Diwrnod Gwyllt

Pan fyddwch chi'n cofrestru, byddwch yn derbyn:

  • Negeseuon e-bost achlysurol rhwng nawr a mis Mehefin, yn llawn ysbrydoliaeth a straeon am fywyd gwyllt
  • Eich nwyddau 30 Diwrnod Gwyllt digidol AM DDIM ym mis Ebrill 2026
  • Adnoddau post ym mis Mai 2026 (os byddwch chi’n dewis yr opsiwn yma)
  • Negeseuon e-bost dyddiol ym mis Mehefin, yn llawn syniadau syml, calonogol i'ch helpu chi i gwblhau eich her wyllt

Mae am ddim, mae'n hyblyg ac mae'n dechrau gydag un dewis bach. Cofrestrwch heddiw a gwnewch fis Mehefin 2026 yr un gwylltaf eto.

Mwy am 30 Diwrnod Gwyllt

Mae 30 Diwrnod Gwyllt yn her am fis, am ddim, sydd wedi'i chynllunio i ysbrydoli pobl o bob oed i gysylltu â byd natur yn ystod mis Mehefin. O wylio adar yn eich gardd i archwilio gwarchodfa natur leol, mae pob gweithred - mawr neu fach, bob dydd neu bob wythnos - yn eich helpu chi i ddod yn nes at natur. 

Gallwch gwblhau gweithgaredd y dydd, neu ryw ddau mewn wythnos - beth bynnag fyddwch chi’n ei wneud, byddwch yn cysylltu â bywyd gwyllt, yn teimlo'n well ac yn helpu'r blaned ar yr un pryd.

Cwestiynau Cyffredin

Beth sydd wedi'i gynnwys wrth gofrestru?

Mae gennym ni un her 30 Diwrnod Gwyllt sy'n berffaith i bawb sy'n cymryd rhan gyda phlant a fersiwn fwy addas i oedolion i bawb sy'n cymryd rhan heb blant.

Adnoddau post i blant

  • Hadau blodau gwyllt
  • Pasbort i arwain plant drwy gymryd rhan
  • Cynlluniwr
  • Poster
  • Cardiau masnachu casgladwy
A collage of 30 Days Wild kids' resources, including a poster, spotting sheets and trading cards

Adnoddau post i oedolion

  • Hadau perlysiau
  • Cerdyn cyfarch
  • Cerdyn post rhwygo-i-ffwrdd i'w anfon at ffrind
  • Cynlluniwr
  • Poster
30 Days Wild resources including an illustrated poster of a river with wildlife around it, seeds and a poster to write on

Bydd pawb hefyd yn cael mynediad at adnoddau digidol, gan gynnwys y canlynol:

  • E-byst dyddiol gyda syniadau ac ysbrydoliaeth
  • Canllawiau gweithgarwch
  • Taflenni adnabod
  • Bathodynnau cwblhau wythnosol i'w defnyddio ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol
  • Tystysgrif cwblhau
  • Cynlluniau gwersi (ar gyfer addysgwyr)

Oes posib i ysgolion, busnesau a chartrefi gofal gymryd rhan?

Os ydych chi'n cymryd rhan gydag ysgol, grŵp gweithgarwch i blant fel y Sgowtiaid neu grŵp addysgu gartref, dewiswch yr opsiwn 'cymryd rhan gyda phlant'. Byddwch yn cael mynediad at gynlluniau gwersi 30 Diwrnod Gwyllt pan fyddwch chi'n cofrestru ynghyd â'r casgliad llawn o adnoddau digidol. 

Os ydych chi'n cymryd rhan gyda chartref gofal neu fusnes, rydyn ni’n argymell dewis yr opsiwn 'cymryd rhan heb blant'. Byddwch yn cael mynediad at amrywiaeth eang o adnoddau a syniadau digidol drwy e-bost, y mae posib eu haddasu i weddu i'ch anghenion.

Byddaf yn cymryd rhan gyda phobl ifanc yn eu harddegau. Pa opsiwn ddylwn i ei ddewis?

Chi sydd i ddewis! Efallai bydd yr awgrymiadau dylunio a gweithgarwch ar gyfer yr opsiwn oedolion yn teimlo'n fwy priodol yn dibynnu ar oedran eich plentyn yn ei arddegau, felly byddem yn argymell hynny. Fodd bynnag, mae croeso i chi archebu adnoddau'r plant os ydych chi'n teimlo y byddai'n fwy priodol i'ch teulu. Cofiwch edrych ar ein holl adnoddau digidol ni hefyd!

A fydd bathodyn ffabrig ar gael eleni?

Bydd! Fe fydd y bathodyn ar gael yn nes at ddechrau 30 Diwrnod Gwyllt, a bydd ar gael ar wefan Pawprint.

Sut ydych chi'n defnyddio'r cardiau masnachu?

Mae'r adnoddau i blant yn cynnwys pedwar o gardiau masnachu casgladwy 30 Diwrnod Gwyllt.

Dyma gemau y gallwch chi eu chwarae gan eu defnyddio nhw.

Gêm: Brwydr yn steil Top-Trumps

Gêm syml, gystadleuol ar gyfer 2+ o chwaraewyr.

Beth sydd arnoch chi ei angen:
Yr holl gardiau masnachu bywyd gwyllt.

Sut i chwarae:

  1. Cymysgwch y cardiau a'u rhannu’n gyfartal. Mae’r chwaraewyr yn cadw eu cardiau mewn pentwr, gyda’u wyneb i lawr.
  2. Mae'r chwaraewr cyntaf yn dewis categori o'r cerdyn uchaf: Cyflymder, Prinder, neu Lefel Ciwtrwydd.
  3. Mae pawb yn darllen y rhif ar gyfer y categori hwnnw ar eu cerdyn uchaf.
  4. Mae'r rhif uchaf yn ennill y rownd!
  5. Mae'r enillydd yn casglu cardiau uchaf pawb ac yn eu rhoi ar waelod ei bentwr.
  6. Mae'r chwaraewr nesaf yn dewis categori.
  7. Daliwch ati nes bod yr holl gardiau gan un chwaraewr – y chwaraewr hwnnw ydi’r pencampwr bywyd gwyllt!

Cyngor campus: dywedwch wrth eich ffrindiau am archebu eu pecyn 30 Diwrnod Gwyllt - po fwyaf o bobl sy'n chwarae, y mwyaf o gardiau y gallwch chi eu casglu!

Gêm: Pwy Ydw I? Gêm ddyfalu

Gwych ar gyfer hwyl i grwpiau, teuluoedd neu yn yr ystafell ddosbarth.

Sut i chwarae:

  1. Mae un chwaraewr yn dewis cerdyn heb ei ddangos i unrhyw un arall.
  2. Mae’n darllen y cliw "Pwy ydw i?" yn uchel.
  3. Mae’r chwaraewyr eraill yn cymryd eu tro i ddyfalu'r anifail.
  4. Y cyntaf i ddyfalu’n gywir sy'n ennill y cerdyn!
  5. Daliwch ati i chwarae nes bod y dec o gardiau wedi dod i ben.
  6. Y chwaraewr gyda'r nifer mwyaf o gardiau sy'n ennill. 

Dewisol: 
Gall y chwaraewyr ofyn cwestiynau ie / na am her ychwanegol.

Be' sy' ymlaen?

Diolch yn fawr i chwaraewyr y Loteri Cod Post, sydd wedi helpu i wneud yr her 30 Diwrnod Gwyllt yn bosibl.

Postcode Lottery and Postcode Planet Trust logo