Glanhau traeth a helfa plisg wyau siarcod
Lleoliad:
Kinmel Bay, The Promenade, Kinmel Bay, Rhyl, LL18 5NL
Ymunwch â ni ar draeth Bae Cinmel i lanhau’r traeth a'n helpu ni i ddod o hyd i nifer o blisg wyau siarcod gwahanol y gallem ddod o hyd iddyn nhw a'u hadnabod.
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Mae cartrefi Cymru’n taflu mwy nag 1.5 miliwn o dunelli o sbwriel bob blwyddyn. Mae llawer o sbwriel sydd ddim yn mynd i safle tirlenwi na chanolfan ailgylchu yn aros fel sbwriel, gan lygru ein tir ni, ein llwybrau dŵr a'n moroedd ni. Mae sbwriel plastig yn arbennig o niweidiol i fywyd gwyllt am nad yw'n dadelfennu'n llwyr.
Ymunwch â ni i helpu i leihau’r sbwriel sydd ar yr ardal drawiadol yma o’r arfordir a gwneud gwahaniaeth i'r bywyd gwyllt sydd yno. Fe fyddwn ni’n chwilio am wyau siarcod hefyd!