Rhoi cynnig ar arolwg rhynglanwol

Two people in brightly coloured jackets and patterned wooly hats. They are kneeling down on the beach floor of seaweed and rocks, with a white grided quadrat square between them.

Survey volunteers Shoresearch Cricieth Feb 2025 © NWWT

Rhoi cynnig ar arolwg rhynglanwol

Lleoliad:
Traeth Penllech, Penllech Beach Path, Llangwnnadl, Tudweiliog, Pwllheli, LL53 8NW
Rhowch gynnig ar arolygu glannau creigiog Gogledd Cymru! Ymunwch â ni i archwilio'r arfordir, darganfod bywyd morol lleol, a helpu i gasglu data gwerthfawr ar gyfer cadwraeth

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Cyfarfod yn y maes parcio yn: SH 20603 34105; LL53 8NW. What3Words/// regrowth.monkey.shortens
View on What3Words

Dyddiad

Time
3:15pm - 5:15pm
A static map of Rhoi cynnig ar arolwg rhynglanwol

Ynglŷn â'r digwyddiad

Mae hwn yn gyfle i ymuno â'n gwirfoddolwyr Shoresearch a dysgu am ein harolygon rhynglanwol i weld ydyn nhw'n addas i chi. Rydyn ni allan bob mis mewn tair ardal hwb yn cofnodi’r hyn rydyn ni’n ei weld ar y lan i greu llinell sylfaen hanfodol a helpu i gofnodi newidiadau.

Mae'r digwyddiad yma ar gyfer pawb sy’n 16+ oed yn unig.

Mae trefnydd y digwyddiad yn siarad Cymraeg sgyrsiol, mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn ystod y digwyddiad yma.
 

Bwcio

Pris / rhodd

Anogir rhoddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru.
Mae'r digwyddiad yma ar gyfer pawb sy’n 16+ oed yn unig.

Yn addas ar gyfer

Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Cŵn tywys yn unig
image/svg+xml

Symudedd

Mae'r traeth yn garegog, gyda chreigiau miniog, wedi'i orchuddio ag algâu gyda phyllau creigiog yn yr ardal arolygu. Er mwyn cyrraedd y traeth rhaid cerdded ar hyd llwybr yr arfordir ac i lawr at y tywod ac wedyn ar draws i'r ardal arolygu.
Does dim toiledau yn agos at y traeth.

image/svg+xml

Mynediad i gadeiriau olwyn

Nac ydyn
image/svg+xml

Beth i'w ddod

Gwisgwch ddillad sy'n addas ar gyfer y tywydd ac i benlinio ar ddarn glwyb o’r lan, bŵts neu welingtyns yw'r esgidiau mwyaf addas.

Nid yw trafnidiaeth gyhoeddus ar gael i'r traeth yma.

DS: nodwch yr union fan cyfarfod gan ddefnyddio'r cyfeirnod grid neu wybodaeth what3words. Hefyd nodwch rif ffôn symudol arweinydd y digwyddiad rhag ofn y bydd unrhyw broblemau ar y diwrnod.

Cysylltwch â ni

Dawn Thomas
Rhif Cyswllt: 07584311584