Adroddiadau Sefyllfa Byd Natur 2019

Early bumblebee

© Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

Adroddiadau Sefyllfa Byd Natur 2019

Darllenwch yr adroddiad

Dim arafu ar golli byd natur yng Nghymru

Mae byd natur yng Nghymru ac yn y DU yn wynebu problemau difrifol. Lansiwyd yr adroddiad #SefyllfaBydNatur ar 3ydd Hydref ac mae'n cyflwyno'r ffeithiau am ddirywiad bywyd gwyllt. Darllenwch ymlaen i gael gwybod sut gallwch chi helpu.

Mae bywyd gwyllt Cymru yn dal i ddirywio yn ôl adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019, gyda’r canfyddiadau diweddaraf yn dangos bod un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o wynebu difodiant. Ers i’r gwaith monitro gwyddonol trwyadl gychwyn yn yr 1970au, gwelwyd gostyngiad o 13% yng nghyfartaledd yr helaethrwydd o fywyd gwyllt a astudiwyd ledled y DU.

Ar ôl cyhoeddi adroddiadau Sefyllfa Byd Natur yn 2013 a 2016, mae gweithwyr proffesiynol blaenllaw o dros 70 o sefydliadau bywyd gwyllt y DU wedi ymuno ag asiantaethau’r llywodraeth am y tro cyntaf, i gyflwyno’r darlun cliriaf erioed o statws ein rhywogaethau ar dir ac yn y moroedd.

Mae rhywogaethau eiconig megis y wiwer goch a llygoden y dŵr, a arferai fod yn gyffredin yng Nghymru, bellach wedi eu cyfyngu i ychydig o safleoedd ac yn wynebu bygythiad gwirioneddol o ddifodiant.

O’r 3,902 o rywogaethau a aseswyd yng Nghymru, datgelir yn adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019 bod 73 ohonynt wedi eu colli o Gymru yn barod, gydag adar fel y turtur a bras yr ŷd bellach wedi diflannu’n llwyr o awyr Cymru. Mae 666 o rywogaethau ychwanegol dan fygythiad o ddifodiant yng Nghymru.

Meddai Daniel Hayhow, prif awdur yr adroddiad: “Rydym ni’n gwybod mwy am fywyd gwyllt y DU nag unrhyw wlad arall ar y blaned, ac fe ddylai’r hyn y mae’n ei ddweud wrthym ein syfrdanu. Mae angen i ni ymateb ar fwy o fyrder yn gyffredinol os am roi byd natur yn ôl yn ei le. Rhaid i lywodraethau a’u hasiantaethau, busnesau, grwpiau cadwraeth ac unigolion barhau i weithio gyda’i gilydd i helpu i adfer ein tir a’r môr ar gyfer bywyd gwyllt a phobl mewn modd sy’n uchelgeisiol ac yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol."

Dywedodd Nikki Williams, Cyfarwyddwr Ymgyrchoedd a Pholisi gyda'r Ymddiriedolaethau Natur “Mae byd natur mewn trafferthion mawr ond rydyn ni'n gwybod sut i'w adfer. Mae gweithredu lleol eisoes yn gwneud byd o wahaniaeth a nawr rhaid i'r llywodraeth chwarae ei rhan. Rhaid i Rwydwaith Adfer Natur gael ei sefydlu fel rhan o'r gyfraith - un sy'n cael ei ddatblygu yn lleol a'i gysylltu yn genedlaethol – byddai hyn o help i uno'r llefydd gwyllt sydd ar ôl drwy greu cynefinoedd newydd hanfodol. Mae'n amser gwneud byd natur yn rhan naturiol o blentyndod eto ac adfer bywyd gwyllt fel ei fod yn gallu adfer a ffynnu mewn jyngls trefol ac yng nghefn gwlad unwaith eto – ble gall fod yn rhan o fywyd bob dydd pobl.” 

State of nature Report 2019

Mae gan yr adroddiad ragair gan griw o gadwriaethwyr ifanc sy'n teimlo'n angerddol am gadwraeth ac am ddyfodol ein bywyd gwyllt a'n byd natur ni er mwyn eu gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Meddai Dan Rouse, cadwraethwraig ifanc o Abertawe: “Mae natur yn rhywbeth a siapiodd fy mhlentyndod, drwy adael i mi fod yn rhydd i elwa ar fy ymdeimlad o ryfeddod, ac i dreiddio ymhellach i fyd rhyfeddol natur! Pobl ifanc sydd nawr yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb o achub ein byd natur – rydym ni wedi colli bras yr ŷd a’r eos o Gymru – pa mor hir fydd hi nes y byddant wedi diflannu o weddill y DU? Ynghyd â galwad iasol y gylfinir a grwnan ysgafn y turturod.”

I gael copi llawn o adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019 ac i gael gwybod sut y gallwch chi wneud eich rhan i achub bywyd gwyllt y DU – www.nbn.org.uk/stateofnature2019

Dywedwch wrth eich Aelodau Cynulliad

Mae popeth yn gweithio'n well pan mae wedi cysylltu. 
Rhaid cael Rhwydwaith Adfer Natur i ddod â'n bywyd gwyllt ni yn ôl.

 

Rydym yn eich annog i gysylltu hefo’ch AC neu AS i ychwanegu eich llais chi i’r alwad gynyddol am newid

Hero area - common frog_Wilder Future campaign

Ymunwch â’n hymgyrch ni ar gyfer #DyfodolGwyllt

Cofrestru
Short-Eared Owl

Short-Eared Owl © 2020 Vision

Gwarchod y bywyd gwyllt rydych chi’n ei garu

Dod yn aelod heddiw
Grey seal

Grey seal - Alexander Mustard 2020Vision

Cadwch mewn cysylltiad

Tanysgrifiwch i'n e-gylchlythyr