Ci glas
Mae'r rhywogaeth yma o siarc main a chain i'w gweld yn aml yn agos at y lan o amgylch ein harfordiroedd a gall dyfu i fod hyd at 6 troedfedd o hyd.
Speckled wood butterfly - Vicky Nall
Mae'r rhywogaeth yma o siarc main a chain i'w gweld yn aml yn agos at y lan o amgylch ein harfordiroedd a gall dyfu i fod hyd at 6 troedfedd o hyd.
Mae'r gwyn bach yn ymwelydd gardd cyffredin. Mae'n llai na'r gwyn mawr tebyg, ac mae ganddo lai o ddu ar flaen ei adenydd.
Dim ond mewn ychydig o leoliadau arfordirol mae'r llyffant y twyni prin i'w weld, lle mae'n ffafrio pyllau bas ar dwyni tywod, rhosydd a chorsydd.
Mae'r ysgyfarnog yn adnabyddus am ei chlustiau hir gyda blaen du a'i rhedeg cyflym - gall gyrraedd cyflymder o 45mya wrth osgoi ysglyfaethwyr.
Mae'r gragen las yn olygfa gyfarwydd ar draethau ledled y DU ac mae'n hoff fwyd gan bobl, adar môr a sêr môr fel ei gilydd.
Y caws llyffant clasurol welwch chi mewn stori dylwyth teg ac mae’r ffwng coch a gwyn yma i'w ganfod yn aml o dan goed bedw yn yr hydref.
Mae’r malwod môr bach yma i’w canfod ymhlith y gwymon ar lannau creigiog o amgylch llawer o’r DU. Maent yn llawer o wahanol liwiau, o felyn llachar i frown brith!
Wedi'i gyfyngu'n bennaf i ogledd y DU, mae’r bele prin yn nosol ac yn anodd iawn ei weld. Fodd bynnag, gellir ei hudo i ymweld â bwrdd adar llawn pysgnau.
Mae'r siarc main yma’n cael ei enw o'r pigau o flaen ei asgell ddorsal. Gall ddefnyddio'r pigau yma i amddiffyn ei hun drwy gyrlio mewn bwa a tharo ysglyfaethwr.
Er gwaethaf ei ddafadennau a'i gysylltiadau hynafol â gwrachod, mae'r llyffant dafadennog yn ffrind i arddwyr, gan sugno gwlithod a malwod. Mae'n enwog am fudo ar raddfa fawr i…
Mae’r ystlum hirglust yn driw i’w enw yn sicr: mae ei glustiau bron mor hir â’i gorff! Cadwch lygad amdano’n bwydo ar hyd gwrychoedd, mewn gerddi ac mewn coetiroedd.
Mae'r gweirlöyn brych yn ffafrio golau haul brith rhodfeydd ac ymylon y coetir, gwrychoedd a hyd yn oed gerddi. Er gwaethaf ei ddirywiad, mae ei amrediad wedi lledaenu yn ystod y blynyddoedd…