Ysgyfarnog
Mae'r ysgyfarnog yn adnabyddus am ei chlustiau hir gyda blaen du a'i rhedeg cyflym - gall gyrraedd cyflymder o 45mya wrth osgoi ysglyfaethwyr.
Enw gwyddonol
Lepus europaeusPryd i'w gweld
Mis Ionawr i fis RhagfyrSpecies information
Categori
Ystadegau
Hyd: 50 i 70cmPwysau: 2 i 5kg
Oes ar gyfartaledd: 2 i 4 blynedd
Statws cadwraethol
Rhywogaeth wedi’i chyflwyno ond wedi brodori. Yn cael ei gwarchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Rhywogaeth Flaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth y DU ar ôl 2010.
Ynghylch
Y gred ydi ei bod wedi cael ei chyflwyno i'r DU yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid (neu’n gynharach hyd yn oed), ond mae'r ysgyfarnog yn cael ei hystyried fel rhywogaeth wedi brodori bellach. Mae'n fwyaf cyffredin ar dir fferm agored, mewn cynefinoedd glaswelltir ac ar ymylon coetiroedd, gan ffafrio mosäig o gaeau âr, glaswellt a gwrychoedd. Mae'n pori ar lystyfiant a rhisgl coed a llwyni ifanc.Nid yw ysgyfarnogod yn cloddio tyllau fel cwningod, ond yn llochesu mewn 'ffurfiau', sef pantiau bas yn y ddaear neu'r glaswellt. Os bydd rhywun yn tarfu arnyn nhw, mae posib eu gweld yn llamu i ffwrdd ar draws caeau, gan ddefnyddio eu coesau ôl pwerus i wthio eu hunain yn eu blaen, mewn patrwm igam-ogam yn aml. Mae’n haws gweld ysgyfarnogod yn gynnar yn y gwanwyn pan fydd y tymor magu’n annog ymladd neu 'focsio'. Gall y benywod gynhyrchu tair i bedair torllwyth o ddau i bedwar o ysgyfarnogod bach (sy’n cael eu galw’n lefrod) y flwyddyn.