Helpwch ni i warchod un o raeadrau mwyaf eiconig Eryri
Mae cais cynllunio wedi cael ei gyflwyno i adeiladu argae ar Afon Cynfal ym Mharc Cenedlaethol Eryri fel rhan o gynllun trydan dŵr. Mae'r cynllun hwn yn bygwth bywyd gwyllt a'r rhywogaethau prin sy'n byw yn y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).