Stori Bass

Bass Andre
EIN CEFNOGI NI

Stori Bass

-

Gwnewch rodd

Bass Andre

Mae Bass a rhai ffrindiau’n mynd i rwyfo (dan do!) y pellter o amgylch Ynys Môn – cyfanswm o 225km – cyn gadael Gogledd Cymru i astudio yn UDA. Treuliodd Bass ei lleoliad fel myfyriwr gyda'r Ymddiriedolaeth wrth astudio ym Mhrifysgol Bangor, ac mae hefyd wedi treulio'r pedwar mis diwethaf yn gwirfoddoli'n llawn amser – gan gadw Katy a Matt yn brysur iawn a chynnal ysbryd pawb! Helpwch i sbarduno eu hymdrechion drwy gyfrannu rhodd!

Cefnogwch Bass heddiw!

Gallwch gefnogi ymdrech anhygoel Bass gyda rhodd i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
£
Bass Andre

Amdanaf i

 

Helo, Bass ydw i, ac rydw i'n wirfoddolwr gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Fe wnes i dreulio fy lleoliad fel myfyriwr gyda'r Ymddiriedolaeth wrth astudio ym Mhrifysgol Bangor, ac rydw i wedi treulio'r pedwar mis diwethaf yn gwirfoddoli'n llawn amser wrth aros i ddechrau dilyn fy Nghwrs Meistr yn UDA. Mae fy nghydweithwyr a mi wedi penderfynu rhwyfo'r pellter o amgylch Ynys Môn (cyfanswm o 225km!) cyn i mi adael ar 12 Rhagfyr. Fi ydi'r unig un sydd â phrofiad rhwyfo, felly byddaf yn dysgu'r lleill sut i rwyfo o'r newydd (dymunwch bob lwc i mi!). Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ddaeth â ni at ein gilydd ac mae’n gofalu am rai gwarchodfeydd trawiadol iawn, felly cefnogwch y gwaith mae’n ei wneud drwy ein noddi ni!