Cwmpas yr afon

Cwmpas yr afon

River © John Millard Photography

Cyfle i archwilio dau gynefin anhygoel sydd i’w cael rownd y tro yn yr afon

Mae’n hawdd meddwl am afon fel y dŵr sy’n llifo rhwng dwy lan, gan droelli’n araf tuag at y môr. Ond mae afon yn llawer mwy na’i llwybr yn unig. Mae afon iach yn gysylltiedig â’r dirwedd o’i hamgylch – â gwlybdiroedd sy’n barhaol ac yn rhai dros dro. Efallai y bydd rhywfaint o’r dŵr sydd yn y sianel yn rhuthro’n syth i’r môr, a rhywfaint efallai’n treiddio i ffeniau a chorslwyni. Mae’r afon yn gallu chwyddo, gan lifo drwy’r pridd ac ymledu dros y glannau, a throi dolydd yn gorsydd a fydd yn sychu eto yn y gwanwyn.

Mae llifogydd yn rhan naturiol o gylch blynyddol afon. Maen nhw’n creu llynnoedd, pyllau a glaswelltiroedd gwlyb sy’n darparu bwyd i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Maen nhw’n cyfoethogi’r pridd, gan arwain at arddangosfeydd hyfryd o flodau gwyllt sy’n fwrlwm o wenyn, glöynnod byw a pheillwyr eraill. Maen nhw’n gwlychu coetiroedd, gan adael pren wedi pydru sy’n berffaith i chwilod gloddio drwyddo. Pan rydyn ni’n meddwl am afon a’i bywyd gwyllt, mae angen i ni feddwl am y tir o’i hamgylch hefyd. Beth am i ni edrych ar ddau o’r cynefinoedd sydd wedi datblygu ochr yn ochr â’n hafonydd ni.

The sun rising over a river, mist drifting over the landscape

River © Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

Coetir gwlyb

Mae llawer o’n coed ni wedi esblygu i fyw yn agos at ddŵr, gan dyfu mewn dyffrynnoedd afonydd neu ar lannau lle mae’r pridd dan ddŵr yn dymhorol. Efallai y gwelwch chi goed bedw tal, main a gosgeiddig, neu glystyrau o helyg a gwerni. Mae’r coetiroedd gwlyb yma’n llawn rhedyn, ffyngau, mwsoglau a chennau yn aml, sy’n ffynnu yn yr amodau llaith.

Maen nhw’n llefydd gwych i fywyd gwyllt. Mae’r mosäig sy’n newid yn gyson o byllau, planhigion a phren sy’n pydru yn creu amodau delfrydol ar gyfer amrywiaeth o infertebrata. Yn aml, maen nhw’n gartref i greaduriaid prin sydd ag anghenion arbennig iawn. Un enghraifft ydi’r brychan rhwydog, gwyfyn prin sy’n bwydo ar ffromlys melyn yng nghysgod brith coetiroedd ar lannau nentydd.

Yn y gaeaf, mae heidiau swnllyd o’r pila gwyrdd a’r llinos bengoch yn hedfan drwy’r canopi, gan dynnu cywion gwyddau’r gwerni a llenwi’r aer gyda’u trydar. Os ydych chi’n lwcus iawn, efallai y clywch chi gri arall. Cri gras titw’r helyg gyda’i ‘taah taah taah’. Dyma gefnder tewach y titw mawr sy’n ymwelyd cyfarwydd â’n gerddi ni. Mae’n nythu mewn coed a boncyffion wedi pydru, gan gloddio twll newydd bob gwanwyn. Er ei fod yn bryderus o brin bellach, mae posib ei weld o hyd mewn rhai coetiroedd gwlyb.

A willow tit perched on a branch. It's a small brown bird with a matt black cap, a messy black bib and very white cheeks

Willow tit © Harry Hogg

Dôl gorlifdir

Nid creadigaeth byd natur yn llwyr ydi’r dolydd rhyfeddol yma, ond esiampl o beth sy’n bosib ei gyflawni pan fyddwn ni’n gweithio gyda byd natur. Maen nhw i’w gweld ar dir isel ger afonydd, sy’n dueddol o orlifo yn ystod misoedd y gaeaf. Maen nhw wedi cael eu siapio gan ddulliau ffermio traddodiadol. Roedd cnwd o wair yn cael ei gynaeafu yn yr haf, ac wedyn byddai anifeiliaid yn pori’r tir nes iddo fynd yn rhy wlyb, gyda da byw yn cael eu bwydo dros y gaeaf gyda’r gwair wedi’i gynaeafu. Roedd y llifogydd yn yr hydref a’r gaeaf yn cyfoethogi’r pridd, gan arwain at arddangosfeydd godidog o flodau gwyllt y gwanwyn a’r haf canlynol. Ond fe aeth y dulliau yma’n henffasiwn, gan wneud dolydd gorlifdir yn gynefin prin.

Mae dolydd gorlifdir yn enwog am eu blodau. Maen nhw’n gallu bod yn gartref i hyd at 40 o rywogaethau o blanhigion ym mhob metr sgwâr, gan eu gwneud yn un o’r cynefinoedd mwyaf amrywiol yn y DU. Mae’r amrywiaeth drawiadol o blanhigion yn gwneud dolydd gorlifdir yn lle gwych i bryfed peillio a phryfed eraill hefyd.

Yn yr haf, mae’r dolydd yn gartref i adar sy’n nythu, o’r ehedydd i’r pibydd coesgoch a’r gylfinir. Ond maen nhw yr un mor werthfawr i fywyd gwyllt yn yr hydref a’r gaeaf, pan fydd yr afon yn gorlifo ac yn eu boddi. Mae adar rhydio fel y gïach a’r cwtiad aur yn chwilio am fwyd yn y mwd ac mae elyrch y gogledd, chwiwellod, corhwyaid a hwyaid eraill yn trochi yn y pyllau. Mae rhai o’r adar yma wedi croesi’r cyfandir i fod yma!

A snipe standing in a marsh, its long beak open. It's a small mottled brown wading bird with golden-yellow streaks

Snipe © Nick Upton/2020VISION

Dal dŵr

Mae cynefinoedd gorlifdir yn bwysig i fywyd gwyllt, ond maen nhw’n hanfodol i ni hefyd. Pan ydyn ni’n gadael iddyn nhw wneud hynny, mae’r gorlifdiroedd naturiol yma’n dal dŵr a fyddai fel arall yn gorlifo ein strydoedd ni efallai. Maen nhw’n storio carbon sy’n cael ei adael gan ddŵr y llifogydd ac mae’n cael ei gludo i lawr i’r pridd gan blanhigion, gyda’r amodau gwlyb yn atal ei ryddhau. Ac maen nhw’n hidlo maetholion o’n hafonydd ni, gan wella ansawdd y dŵr. Ystyr adfer afonydd ydi eu hailgysylltu â’u gorlifdiroedd, gan alluogi iddyn nhw ddod yn dirweddau gwylltach fel y dylen nhw fod. 

Mae gan yr Ymddiriedolaehau Natur weledigaeth ar gyfer afonydd gwylltach ac iachach, sy'n gwarchod, yn ysbrydoli ac o fudd i'r cymunedau sy'n byw ar eu glannau.