Mae’n hawdd meddwl am afon fel y dŵr sy’n llifo rhwng dwy lan, gan droelli’n araf tuag at y môr. Ond mae afon yn llawer mwy na’i llwybr yn unig. Mae afon iach yn gysylltiedig â’r dirwedd o’i hamgylch – â gwlybdiroedd sy’n barhaol ac yn rhai dros dro. Efallai y bydd rhywfaint o’r dŵr sydd yn y sianel yn rhuthro’n syth i’r môr, a rhywfaint efallai’n treiddio i ffeniau a chorslwyni. Mae’r afon yn gallu chwyddo, gan lifo drwy’r pridd ac ymledu dros y glannau, a throi dolydd yn gorsydd a fydd yn sychu eto yn y gwanwyn.
Mae llifogydd yn rhan naturiol o gylch blynyddol afon. Maen nhw’n creu llynnoedd, pyllau a glaswelltiroedd gwlyb sy’n darparu bwyd i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Maen nhw’n cyfoethogi’r pridd, gan arwain at arddangosfeydd hyfryd o flodau gwyllt sy’n fwrlwm o wenyn, glöynnod byw a pheillwyr eraill. Maen nhw’n gwlychu coetiroedd, gan adael pren wedi pydru sy’n berffaith i chwilod gloddio drwyddo. Pan rydyn ni’n meddwl am afon a’i bywyd gwyllt, mae angen i ni feddwl am y tir o’i hamgylch hefyd. Beth am i ni edrych ar ddau o’r cynefinoedd sydd wedi datblygu ochr yn ochr â’n hafonydd ni.