Peter Sutton ydw i, ac mae gen i ddiddordeb brwd mewn astudio ceiliogod rhedyn a'u ffrindiau ers i mi glywed ceiliogod rhedyn y maes yn canu wrth hen lein rheilffordd yn Sussex yn saith oed. Ers hynny, rydw i wedi treulio blynyddoedd lawer yn astudio'r grŵp anhygoel yma o bryfed, sydd hefyd yn cynnwys rhai o'r pryfed mwyaf, a mwyaf trawiadol, sydd i'w cael yn Ynysoedd Prydain, o'r criciedyn y tes rhyfedd iawn i bryfed brigyn pigog enfawr Gorllewin Lloegr, a’r criciedyn hirgorn gwyrdd mawr a'r ceiliog rhedyn y gors mawr, trawiadol o liwgar, gyda'i goesau ôl sgarlad, du a melyn. Mae posib dod o hyd i'r holl bryfed rhyfeddol yma yn Field Guide to the Grasshoppers and Allies of Great Britain and Ireland sydd wedi’i gyhoeddi yn ddiweddar ac wedi’i ysgrifennu gen i a Björn Beckmann, gyda phob rhywogaeth wedi'u darlunio'n hyfryd gan Richard Lewington.
Hopian i'r haf
Meadow grasshopper © Tom Hibbert
Large marsh grasshopper. All illustrations by kind permission of Richard Lewington
Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i bawb sydd â diddordeb mewn ceiliogod rhedyn a'u ffrindiau. Mae ychwanegiadau gwych wedi bod at ein bywyd gwyllt yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth i rywogaethau newydd gyrraedd drwy'r broses naturiol o fudo sy’n cael ei hachosi gan yr hinsawdd. Pe bai rhywun wedi dweud wrthyf i, fel y bachgen saith oed hwnnw'n chwilio am geiliogod rhedyn, y byddwn i, yn ystod fy oes, yn gallu dod o hyd i geiliogod rhedyn adenydd glas a mantis gweddïol yn siroedd arfordirol de Lloegr, ’fyddwn i ddim wedi credu. Gallaf gofio'n dda gyffro pur ffrind a ddywedodd wrthyf ei fod wedi dod o hyd i boblogaeth o fantis gweddïol enfawr a thynnu ei llun ar Ynys Wyth yr haf diwethaf!
Praying mantis. All illustrations by kind permission of Richard Lewington
Dechrau gyda sŵn
Mae ceiliogod rhedyn yn darparu'r trac sain atgofus i ddyddiau cynnes yr haf ac un ffordd dda o ddechrau astudio'r grŵp yma yw gwrando arnyn nhw pan fyddwch chi allan yn cerdded yng nghefn gwlad. Mae gan goetiroedd, gwlybdiroedd, glaswelltiroedd a rhostiroedd eu rhywogaethau arbennig eu hunain i gyd. Gall ardaloedd trefol hyd yn oed fod yn syndod o dda am eu cynnwys. Mewn rhai cynefinoedd, fel systemau twyni tywod arfordirol a thwyndir calch, gall sawl rhywogaeth wahanol fod yn doreithiog yn lleol. Mae'r Field Guide yn rhoi mwy o fanylion am y gwahanol gynefinoedd lle rydych chi'n debygol o ddod ar draws ceiliogod rhedyn a'u ffrindiau.
Gyda rhywfaint o ymarfer, gallwch hefyd ddysgu eu hadnabod oddi wrth eu caneuon nodweddiadol. Mae digon o recordiadau ar-lein i wrando arnyn nhw a'u cymharu. Gall y Field Guide helpu gyda hyn hefyd, gyda chodau QR yn cysylltu â recordiadau. Os gwnewch chi hofran eich ffôn symudol dros y cod, gallwch wrando ar gân pob rhywogaeth a dod yn gyfarwydd â hi, o 'wichian' rhyfeddol y ceiliog rhedyn adenydd streipiog i dician peiriant gwnïo rhythmig y ceiliog rhedyn gwyrdd cyffredin.
Common green grasshopper. All illustrations by kind permission of Richard Lewington
Yn ddiddorol, mae amledd uchel llawer o rywogaethau yn y grŵp yma’n golygu bod pobl ifanc yn gallu eu clywed yn eithaf hawdd, ond nid pobl hŷn! Yn ddefnyddiol, mae posib defnyddio canfyddwr ystlumod i wrando am y rhywogaethau sy'n canu os na allwch chi eu clywed mwyach. Mae cyfarwyddiadau ar sut i wneud hynny yn y Field Guide, a dulliau eraill o chwilio am geiliogod rhedyn a'u ffrindiau.
Cynghorion ar gyfer adnabod
Pan rydych chi wedi dysgu pa gynefinoedd sy'n debygol o fod yn gartref i geiliogod rhedyn, gallant fod yn eithaf hawdd eu darganfod, naill ai drwy wrando am eu cân ar ddyddiau cynnes, heulog neu drwy gerdded yn ofalus drwy laswelltir lle gallwch chi eu gweld yn neidio o'ch blaen. Bydd rhai rhywogaethau, fel y ceiliog rhedyn y maes, yn hedfan am bellteroedd byr gan ddatgelu eu habdomen oren a choch llachar.
Mae posib dweud y gwahaniaeth rhwng ceiliogod rhedyn a chriciaid hirgorn oddi wrth eu hantena byrrach, ond gall dweud y gwahaniaeth rhwng rhywogaethau o geiliogod rhedyn fod yn anoddach. Un nodwedd bwysig mewn llawer o geiliogod rhedyn yw siâp ochr y pronotwm (y darn jyst tu ôl i'r pen). Gall lliw fod yn gymorth defnyddiol, ond dylech fod yn ymwybodol bod amrywiad lliw sylweddol yn gallu bod mewn unigolion o'r un rhywogaeth. Gall nifer o geiliogod rhedyn sy’n wyrdd fel rheol fod ag amrywiaethau porffor syfrdanol weithiau! Mae'r Field Guide yn cynnwys cynghorion defnyddiol ar nodweddion adnabod a fydd yn galluogi i chi adnabod pob rhywogaeth yn hyderus, yn ogystal ag allwedd adnabod cynhwysfawr.
Purple form of female rufous grasshopper © David Browne
Unwaith y byddwch chi wedi dod yn gyfarwydd â cheiliogod rhedyn, a cheisio dod o hyd efallai i rai o'r rhywogaethau prinnaf yn eu cynefinoedd arbenigol hyd yn oed, efallai y byddwch chi’n dechrau ymddiddori mewn aelodau eraill o'r grŵp, fel y criciaid hirgorn. Mae'r rhain yn llawer mwy anodd eu canfod, ond mae hynny'n gwneud y boddhad o ddod o hyd iddyn nhw a'u harsylwi yn fwy! Maen nhw’n tueddu i ddiflannu i mewn i lystyfiant, heb gael eu gweld byth eto, a rhaid mynd atyn nhw'n araf ac yn ofalus. Ond pan welwch chi griciedyn hirgorn y gors mewn grug, neu'r dafad-frathwr prin ac ysblennydd yn canu yng nglaswellt tal, ir Twyndir Sussex, mae'n foment wnewch chi byth ei hanghofio.
Female wart-biter. All illustrations by kind permission of Richard Lewington
Rhincio - sŵn y ceiliogod rhedyn (https://youtu.be/j-h0hoBXBfk)
© The Wildlife Trusts