Christmas grotto © NWWT
Dewch i weld Siôn Corn yn Aberduna! (Bora)
Gwarchodfa Natur Aberduna,
Gwernymynydd, Maeshafn, Sir Ddinbych, CH7 5LD
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Dewch i gyfarfod Siôn Corn yn ei groto awyr agored clyd, lle bydd pob plentyn yn derbyn anrheg fechan. Cyfle i fwynhau straeon hyfryd am fyd natur ac adloniant Nadoligaidd wrth i chi ymlacio gyda diod poeth a mins pei.
Bydd cyfle i blant bach rannu eu dymuniadau Nadoligaidd drwy ysgrifennu llythyr at Siôn Corn a'i roi iddo fo wyneb yn wyneb neu yn ei flwch post hudolus! Wedyn bydd cyfle iddyn nhw fod yn greadigol gyda chrefftau hwyliog ar thema bywyd gwyllt cyn mynd am dro aeafol fer drwy ein gardd.
Dilynwch y llwybr bywyd gwyllt y gaeaf, gweld anifeiliaid yn eu cynefinoedd tymhorol, a darganfod sut gallwn ni i gyd helpu i ofalu am fywyd gwyllt yn ystod y misoedd oerach.
Lapiwch yn gynnes a dod â'ch ysbryd Nadoligaidd gyda chi!
Bwcio
Pris / rhodd
£10 y plentyn.(Oedolion sy'n dod gyda nhw am ddim)
Gwybodaeth archebu ychwanegol
Mae angen archebu tocynnau plant.Rhaid i oedolyn fod gyda’r plant drwy'r amser, ond does dim angen i'r oedolyn archebu lle.