Digwyddiad glanhau traeth Afon Menai gyda Sŵ Môr Môn

Plast Off Beach Clean litter sorting

Credit: Felix and Selina Copestake

Digwyddiad glanhau traeth Afon Menai gyda Sŵ Môr Môn

Lleoliad:
Anglesey Sea Zoo, Anglesey Sea Zoo
Brynsiencyn
Isle of Anglesey
LL61 6TQ,
Brynsiencyn, Anglesey, LL61 6TQ
Ymunwch â ni yn Sŵ Môr Môn i archwilio'r darn hyfryd yma o arfordir a’n helpu ni i gadw Afon Menai yn lân!

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Cyfarfod wrth y babell gron ger y fynedfa, Sŵ Môr Môn, Brynsiencyn, Ynys Môn, LL61 6QT, What3Words///rises.hobby.desk 

Dyddiad

Time
1:30pm - 3:30pm
A static map of Digwyddiad glanhau traeth Afon Menai gyda Sŵ Môr Môn

Ynglŷn â'r digwyddiad

Mae stormydd y gaeaf yn dod â llawer iawn o sbwriel i'n harfordir gorllewinol ni felly beth am i ni fynd ati i gael gwared ar gymaint ag y gallwn ni a helpu bywyd gwyllt lleol. Byddwn hefyd yn cofnodi popeth rydyn ni’n ei ganfod ac yn chwilio am blisg wyau siarcod.

Bydd caffi'r Sŵ Môr ar agor ac os hoffech chi ymweld â'r acwariwm hefyd, mae ein haelodau a'n cefnogwyr ni’n cael gostyngiad o 10% ar fynediad gyda'u cerdyn aelodaeth.

Mae y trefnydd yn siarad Cymraeg, felly defnyddiwch Gymraeg neu Saesneg yn ystod y daith.

Bwcio

Pris / rhodd

Anogir rhoddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Teuluoedd, Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

Ar dennyn

Croeso i gŵn ar dennyn yn ystod y digwyddiad. Cŵn cymorth yn unig y tu mewn i adeiladau'r Sŵ Môr.

Symudedd

Mae'r Sw Môr yn gwbl hygyrch: https://www.angleseyseazoo.co.uk/accessibility-statement/

Dydi'r traeth ddim yn addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn na chadeiriau gwthio. Tir anwastad caregog yn bennaf, gyda stepiau a thir garw mewn sawl man.

Os ydych chi’n gwefru cerbyd trydan, rhowch wybod i'r dderbynfa.

Mynediad i gadeiriau olwyn

Rhannol
T

Dolen glywedol

Nac ydyn

Beth i'w ddod

Dewch â'ch menig eich hun a gwisgwch yn briodol ar gyfer y tywydd a'r arfordir creigiog.

P

Gwybodaeth am barcio

Parciwch yn y Sw Môr os gwelwch yn dda. Efallai y byddai'n well gan bobl sy’n cael anhawster symud chwilio am le parcio ar y ffordd yn nes at y traeth. Mae llefydd parcio i bobl anabl ar gael yn y Sw Môr.

Parcio beiciau

Lloches parcio beiciau ar gael
i

Facilities

Toiledau
Siop
Caffi / lluniaeth
Ardal Picnic
Toiled i'r anabl
Cyfleusterau newid babanod
Pwynt codi tâl trydan
Disabled parking

Cysylltwch â ni

Mark Roberts
Rhif Cyswllt: 07908728484