Dewch i weld Siôn Corn yn Aberduna! (Prynhawn)

A christmas grotto. Santa in bright red and white, sits in the corner of a room with young children standing round him. He is handing a present to one child.

Christmas grotto © NWWT

Dewch i weld Siôn Corn yn Aberduna! (Prynhawn)

Lleoliad:
Dewch i gyfarfod Siôn Corn yn ei groto! Cyfle i fwynhau straeon, crefftau, llwybr bywyd gwyllt, anrhegion i blant, diodydd poeth a mins peis

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Cyfarfod ym maes parcio Gwarchodfa Natur Aberduna, Maeshafn, Sir Ddinbych, CH7 5LD. What3Words///yoga.someone.prank

Dyddiad

Time
1:00pm - 2:00pm
A static map of Dewch i weld Siôn Corn yn Aberduna! (Prynhawn)

Ynglŷn â'r digwyddiad

Dewch i gyfarfod Siôn Corn yn ei groto awyr agored clyd, lle bydd pob plentyn yn derbyn anrheg fechan. Cyfle i fwynhau straeon hyfryd am fyd natur ac adloniant Nadoligaidd wrth i chi ymlacio gyda diod poeth a mins pei.

Bydd cyfle i blant bach rannu eu dymuniadau Nadoligaidd drwy ysgrifennu llythyr at Siôn Corn a'i roi iddo fo wyneb yn wyneb neu yn ei flwch post hudolus! Wedyn bydd cyfle iddyn nhw fod yn greadigol gyda chrefftau hwyliog ar thema bywyd gwyllt cyn mynd am dro aeafol fer drwy ein gardd.

Dilynwch y llwybr bywyd gwyllt y gaeaf, gweld anifeiliaid yn eu cynefinoedd tymhorol, a darganfod sut gallwn ni i gyd helpu i ofalu am fywyd gwyllt yn ystod y misoedd oerach.

Lapiwch yn gynnes a dod â'ch ysbryd Nadoligaidd gyda chi!

Bwcio

Pris / rhodd

£10 y plentyn.
(Oedolion sy'n dod gyda nhw am ddim)

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Mae angen archebu tocynnau plant.
Rhaid i oedolyn fod gyda’r plant drwy'r amser, ond does dim angen i'r oedolyn archebu lle.

Yn addas ar gyfer

Teuluoedd, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

Cŵn tywys yn unig

Symudedd

Tir fflat yn bennaf, ond gydag ambell step. 

Addas ar gyfer pramiau a bygis.

Mynediad i gadeiriau olwyn

Gall fod yn addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn, ond nid eraill.

Beth i'w ddod

Gwisgwch ddillad awyr agored ac esgidiau addas.

P

Gwybodaeth am barcio

Mae posib parcio am ddim yn y warchodfa.
i

Facilities

Toiledau

Cysylltwch â ni

Carl Williams
Rhif Cyswllt: 07946089179