Bydd prosiect partneriaeth newydd cyffrous yn helpu i adfer natur ac adeiladu cymunedau cryfach

Bydd prosiect partneriaeth newydd cyffrous yn helpu i adfer natur ac adeiladu cymunedau cryfach

Yn dilyn ein gwaith ni gydag Asylum Link Merseyside ers 2021, rydyn ni wedi sefydlu partneriaeth ffurfiol gyda nhw a naw Ymddiriedolaeth Natur arall ledled Cymru a Lloegr i gydgyflwyno prosiect Action Asylum newydd.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae’r prosiect Action Asylum wedi derbyn £1.6m o Gronfa Gweithredu Hinsawdd y Loteri Genedlaethol, sy'n cefnogi cymunedau ledled y DU i weithredu ar newid hinsawdd a chynnwys mwy o bobl mewn gweithredu amgylcheddol cadarnhaol.

Dros y tair blynedd nesaf, bydd gwirfoddolwyr o Asylum Link Merseyside a chymunedau lleol yng Ngogledd Cymru yn cydweithio ar brosiect Action Asylum i gyflawni camau cadwraeth ar lawr gwlad ledled Gogledd Cymru, gan gynnwys plannu coed, rheoli coetiroedd, adfer gwrychoedd a rheoli rhywogaethau ymledol estron. Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys Rhaglen Cyfnewid Sgiliau, a fydd yn helpu’r gwirfoddolwyr i ddysgu sgiliau cadwraeth, gyda staff yr Ymddiriedolaethau Natur yn derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth o ffoaduriaid, cynhwysiant ac ymarfer sy'n seiliedig ar drawma, gan eu galluogi i weithio'n fwy effeithiol ochr yn ochr â phobl o gefndiroedd ffoaduriaid.

Action Asylum Project group in from of the House of Commons

Lansiwyd y prosiect yn Ystafell Attlee yn Nhŷ’r Cyffredin ar 29ain Mehefin, dan arweiniad yr Arglwydd Randall o Uxbridge, Cadeirydd The Task Force Trust, sef y corff arweiniol ar gyfer y fenter Action Asylum. Byddwn yn cynnal pedwar diwrnod gweithredu ar yr hinsawdd bob blwyddyn. Cynhaliwyd yr un cyntaf gennym ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr ar 11eg Gorffennaf, lle bu gwirfoddolwyr o Lerpwl yn gweithio ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Afon Dyfrdwy i glirio ffromlys chwarennog ymledol o lannau Afon Dyfrdwy.