Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae’r prosiect Action Asylum wedi derbyn £1.6m o Gronfa Gweithredu Hinsawdd y Loteri Genedlaethol, sy'n cefnogi cymunedau ledled y DU i weithredu ar newid hinsawdd a chynnwys mwy o bobl mewn gweithredu amgylcheddol cadarnhaol.
Dros y tair blynedd nesaf, bydd gwirfoddolwyr o Asylum Link Merseyside a chymunedau lleol yng Ngogledd Cymru yn cydweithio ar brosiect Action Asylum i gyflawni camau cadwraeth ar lawr gwlad ledled Gogledd Cymru, gan gynnwys plannu coed, rheoli coetiroedd, adfer gwrychoedd a rheoli rhywogaethau ymledol estron. Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys Rhaglen Cyfnewid Sgiliau, a fydd yn helpu’r gwirfoddolwyr i ddysgu sgiliau cadwraeth, gyda staff yr Ymddiriedolaethau Natur yn derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth o ffoaduriaid, cynhwysiant ac ymarfer sy'n seiliedig ar drawma, gan eu galluogi i weithio'n fwy effeithiol ochr yn ochr â phobl o gefndiroedd ffoaduriaid.