Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn lansio ffilm sy'n rhoi sylw i straeon dynol pwerus gyda'r nod o ddangos effaith gwaith ein helusennau, ein mudiadau gwirfoddol a'n gwirfoddolwyr yng Nghymru. Mae'r ffilm a grëwyd ar gyfer Wythnos Elusennau Cymru (9-13 Chwefror) yn cydnabod cyfraniad sylweddol y sector gwirfoddol i'n cymunedau a'n heconomi.
Gwna dy ran, newid bywydau: Rhannu straeon dynol pwerus cyn Wythnos Elusennau Cymru
Volunteers at North Wales Wildlife Trust's Gwaith Powdwr Nature Reserve © Wales Council for Voluntary Action (WCVA)
(Darn YNGC - 7 munud 22 eiliad)
Mae ymgyrch Wythnos Elusennau Cymru sef Chwarae Dy Ran, Newid Bywydau yn annog pobl i wirfoddoli, cyfrannu neu hyrwyddo eu hoff fudiadau elusennol. Mewn adroddiad ymchwil diweddar a gynhaliwyd gan Brifysgol Durham, mae'n amcangyfrif bod y sector gwirfoddol wedi cyfrannu o leiaf £9.1b i Gymru yn 2025 ac wedi arbed o leiaf £1.4b i'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae dros 45,000 o elusennau, grwpiau cymunedol a mudiadau nid-er-elw o bob math yn gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd yn ein cefnogi yn ein bywydau mewn sawl ffordd bob dydd ac amcangyfrifir bod dros 900,000 o wirfoddolwyr yn cyfrannu dros 145 miliwn o oriau o'u hamser bob blwyddyn.
Yn ystod Wythnos Elusennau Cymru, bydd CGGC hefyd yn cynnal dau ddigwyddiad fforwm ar gyfer y sector gwirfoddol yn y Senedd yng Nghaerdydd ac yn Ganolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd . Bydd y digwyddiad cyntaf yn ymdrin â Dathlu Cyflawniadau, Wynebu Heriau a Llunio'r Dyfodol. Bydd thema yr ail ddigwyddiad yn ymdrin ag: Ymateb i Gasineb a Chamwybodaeth: Heriau a gwersi ar gyfer y sector gwirfoddol.
Bydd y digwyddiadau hyn yn rhoi sylw i'r uchelgeisiau a'r heriau sy'n wynebu'r sector wrth i ni agosáu at etholiadau'r Senedd ym mis Mai. Mae CGGC yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i weithio mewn partneriaeth gyfartal â'r sector gwirfoddol a chreu Deddf Partneriaeth y Sector Gwirfoddol er mwyn grymuso y sector i ffynnu fel rhan o'i faniffesto. Fel y dywed y maniffesto 'Rydym yn glir: ni all yr un lywodraeth gyflawni Cymru fwy ffyniannus, tecach, iachach a dwyieithog hebddom ni'.
Mae'r ffilm sy'n cael ei lansio wedi’i chynhyrchu gan CGGC a'i chreu gan gwmni ffilmiau We Are Torchy ac mae'n cynnwys stori ysbrydoledig cyn-breswylydd yng Nghanolfan Adsefydlu Tŷ Brynawel yn Llanharan, canolfan breswyl flaenllaw ar gyfer trin dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau. Mae'r ffilm hefyd yn arddangos y rhwydwaith a'r cyfleoedd a grëwyd i bobl ifanc gan Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange yn Grangetown, Caerdydd a'r gwell lles a'r teimlad o gydweithio a gafwyd gan grŵp o wirfoddolwyr yng Ngwarchodfa Natur Gwaith Powdwr, sy'n rhan o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
Dywedodd Dr Lindsay Cordery Bruce, Prif Weithredwr CGGC "Mae elusennau a mudiadau gwirfoddol yn ein cadw’n gysylltiedig. Maen nhw’n hyrwyddo gwaith ar y cyd anhygoel wrth wraidd ein cymunedau ac yn galluogi pethau gwych i ddigwydd. Maen nhw'n cael effaith enfawr ar bob un ohonom p'un a ydym yn cael ein cefnogi, yn rhoi neu'n rhoi yn ôl. Rydym am i Wythnos Elusennau Cymru ysbrydoli mwy o fudiadau ac unigolion i gymryd rhan. Mae'r atebion i broblemau cymunedol eisoes o fewn cymunedau. Elusennau yw'r allwedd sy'n datgloi'r potensial hwn.
Cymerwch ran neu gael gwybod mwy am gyfleoedd gwirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru