Pôl newydd yn datgelu dirywiad sydyn yn yr amser sy’n cael ei dreulio yn yr awyr agored ymhlith oedolion y DU

Pôl newydd yn datgelu dirywiad sydyn yn yr amser sy’n cael ei dreulio yn yr awyr agored ymhlith oedolion y DU

Family in nature © Jon Hawkins Surrey Hills Photography

Mae pôl newydd gafodd ei gomisiynu gan yr Ymddiriedolaethau Natur wedi datgelu bod bron i hanner oedolion y DU bellach yn treulio tair awr neu lai yn yr awyr agored bob wythnos, er gwaetha’r ffaith bod llawer yn edrych yn ôl ar atgofion plentyndod cadarnhaol ym myd natur. Fel rhan o'u hymgyrch '30 Diwrnod Gwyllt' flynyddol ym mis Mehefin eleni, mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn annog pobl i 'ailwylltio eu plentyn mewnol' ac ailgysylltu â'r byd naturiol drwy brofiadau bob dydd syml yn yr awyr agored.

Canfu'r pôl, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2026 gan yr Ymddiriedolaethau Natur a’i gynnal gan Savanta(1), fod y duedd bryderus hon hefyd yn cael ei hadlewyrchu gan y rhai a gyfwelwyd yng Nghymru. Er bod gan 88% atgofion cadarnhaol am dreulio amser yn yr awyr agored yn blentyn, dywedodd mwy na thraean (38%) o'r ymatebwyr eu bod bellach yn treulio tair awr yr wythnos neu lai yn yr awyr agored. Yng Nghymru, dywedodd 8.6% o bobl eu bod bellach yn treulio awr neu lai yr wythnos yn yr awyr agored.

Datgelodd yr arolwg gysylltiadau dwfn rhwng plentyndod a byd natur yng Nghymru:

  • Treuliodd mwy na dwy ran o dair (69%) o bobl fwy na hanner eu hamser yn yr awyr agored fel plentyn
  • Dywedodd 59% o'r bobl a holwyd eu bod yn fwy tebygol o ailgysylltu â byd natur ar ôl meddwl am eu hatgofion plentyndod
  • Dywedodd 75% o'r rhieni y gofynnwyd iddynt gofio’n ôl am eu hatgofion plentyndod eu bod bellach yn dymuno annog eu plant eu hunain i gael plentyndod mwy naturiol

Mae cyfoeth o dystiolaeth eisoes i ddangos bod treulio amser ym myd natur yn hybu hapusrwydd, iechyd a lles. Mae'r pôl newydd yn datgelu cysylltiad cryf rhwng plentyndod a byd natur, gyda phobl yn cofio amseroedd hapus a dreuliwyd yn yr awyr agored ac yn dymuno'r un peth i'w plant. Fodd bynnag, mae'r ffaith bod cyfran sylweddol o oedolion yn treulio ychydig iawn o amser ym myd natur bob wythnos yn destun pryder.

Mae'r Ymddiriedolaethau Natur bellach yn bwriadu manteisio ar bŵer atgofion plentyndod cadarnhaol i helpu oedolion i fentro mwy allan i’r awyr agored. Mae'r elusennau'n galw ar bobl i 'ailwylltio eu plentyn mewnol' drwy gymryd rhan yn her 30 Diwrnod Gwyllt ym mis Mehefin.

Father and son playing

Father and son playing © Evie and Tom Photography 

Wrth wneud sylwadau ar yr ymchwil, dywedodd Dom Higgins, pennaeth iechyd ac addysg yn yr Ymddiriedolaethau Natur:

“Ar un llaw, roedd yn anodd peidio â chael eich dychryn gan nifer y bobl sy'n treulio cyn lleied o amser yn yr awyr agored - ond mae angen i ni ystyried nad oes gan bawb fynediad hawdd i amgylcheddau naturiol. Ar y llaw arall, roedd parciau mewn trefi’n rhan bwysig o atgofion plentyndod hapus ac mae hyn yn hynod galonogol oherwydd gall ein llecynnau gwyrdd trefol gwerthfawr ni gynnig mynediad at natur ac ymdeimlad cryf o gymuned a pherthyn.”

“Mae bod yn yr awyr agored ym myd natur yn cynnig cymaint o lawenydd i ni i gyd - awyr iach, golau haul, cân adar a chymaint o fanteision amlwg i iechyd. A pho fwyaf o amser mae pobl yn ei dreulio yn yr awyr agored yn gwerthfawrogi byd natur, y mwyaf tebygol ydyn nhw o helpu i'w warchod.”

Family in nature

Family in nature © Jon Hawkins Surrey Hills Photography

Dywed Chris Baker, Rheolwr Ieuenctid a Chymunedau yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru:

“Mae’n hawdd cael eich llethu gan brysurdeb bywyd bob dydd nes ein bod ni weithiau’n anghofio gwerthfawrogi’r byd rhyfeddol o’n cwmpas. Mae ailgysylltu â natur fel oedolion yn golygu ailddarganfod yr ymdeimlad hwnnw o chwilfrydedd a rhyddid plentyndod wnaeth ein hysbrydoli ni i archwilio. Mae Cymru’n llawn profiadau bywyd gwyllt anhygoel i’w darganfod ac weithiau’r cyfan sydd ei angen ydi hwb bach.

Mae ein her 30 Diwrnod Gwyllt yn ddathliad o’r byd natur sydd o’n cwmpas ni yn ein bywydau bob dydd, nad ydyn ni’n sylwi arno nac yn ei werthfawrogi yn aml. Does dim rhaid i chi deithio i warchodfa natur i brofi bywyd gwyllt. Fe all dim ond rhoi ennyd i wrando ar gân adar, teimlo’r glaswellt rhwng bysedd eich traed neu ryfeddu at y blodyn bach yn egino’n ddewr rhwng dau slab o balmant wneud byd o les i’ch iechyd a’ch lles. Fe fydden ni wrth ein bodd pe baech chi’n ymuno ym mis Mehefin eleni a rhannu eich profiadau gwyllt gyda ni.”

Children hiding behind a tree

Tree ID © Tom Marshall 

Mae’r her flynyddol i roi amser i sylwi ar fyd natur yn ystod mis Mehefin yn digwydd pan fydd bywyd gwyllt yn ei anterth. Gall pobl ‘ailwylltio eu plentyn mewnol’ drwy ddefnyddio canllawiau am ddim 30 Diwrnod Gwyllt, hadau blodau gwyllt, pecynnau gweithgarwch a digwyddiadau cymunedol ysbrydoledig – ac ailgysylltu â’r bywyd gwyllt bob dydd sydd i’w weld mewn gerddi, llecynnau gwyrdd lleol a thu hwnt.

Mae 30 Diwrnod Gwyllt wedi denu mwy na thair miliwn o gyfranogwyr ledled y DU a, diolch i chwaraewyr y Loteri Cod Post, mae wedi helpu pobl i fwynhau a chysylltu â byd natur ers dros ddegawd.

Nodiadau

  1. Aeth Savanta ati i gyfweld 2,016 o oedolion yn y DU ar-lein rhwng 23 a 24 Ebrill 2026. Pwysolwyd y data i fod yn gynrychioliadol o oedolion y DU yn ôl oedran, rhyw, ethnigrwydd a rhanbarth. Mae Savanta yn aelod o Gyngor Polau Prydain ac yn cadw at ei reolau.